Search Legislation

Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau ac Atebolrwyddau) 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 233 (Cy. 59)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau ac Atebolrwyddau) 2021

Gwnaed

3 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

4 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 22(2) a (4) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 22(7) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau ac Atebolrwyddau) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2021;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “GGGC” (“NWIS”) yw Gwasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre;

ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru a sefydlwyd gan erthygl 2 o Orchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020(2);

ystyr “swyddogaethau GGGC” (“NWIS’s functions”) yw rheoli a darparu ystod o systemau technoleg gwybodaeth a gwasanaethau cymorth ac ymgynghori cysylltiedig, gwasanaethau bwrdd gwaith, datblygu’r we, gwasanaethau telathrebu a gwasanaethau gwybodaeth gofal iechyd i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef;

ystyr “Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre” (“Velindre University NHS Trust”) yw’r Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(3).

Trosglwyddo staff i IGDC

3.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sydd wedi ei gyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo mewn cysylltiad â swyddogaethau GGGC, a

(b)sydd wedi cael ei hysbysu’n ysgrifenedig gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre cyn y dyddiad trosglwyddo ei fod i’w drosglwyddo i IGDC.

(2Mae contract cyflogaeth unrhyw berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i’w drosglwyddo i IGDC.

(3O ran contract cyflogaeth person y mae ei gyflogaeth wedi ei throsglwyddo i IGDC o dan baragraff (2)—

(a)nid yw’r trosglwyddiad yn ei derfynu, a

(b)mae’n cael effaith o’r dyddiad trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw ac IGDC.

(4Heb ragfarnu paragraff (3)—

(a)mae holl hawliau, pwerau, dyletswyddau ac atebolrwyddau Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o dan gontract cyflogaeth unrhyw berson y trosglwyddwyd ei gyflogaeth i IGDC ar y dyddiad trosglwyddo o dan baragraff (2), neu mewn cysylltiad â’r contract hwnnw, i’w trosglwyddo i IGDC, a

(b)bernir bod unrhyw weithred neu anweithred cyn y dyddiad trosglwyddo gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre neu mewn perthynas â hi, mewn cysylltiad â’r person hwnnw neu gontract cyflogaeth y person hwnnw, yn weithred neu anweithred gan IGDC neu mewn perthynas ag ef.

(5Nid yw paragraffau (2) i (4) yn cael effaith i drosglwyddo contract cyflogaeth person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, neu unrhyw hawliau, pwerau, dyletswyddau ac atebolrwyddau o dan y contract hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef, os yw’r person hwnnw, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn rhoi gwybod i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ei fod yn gwrthwynebu dod yn gyflogedig gan IGDC.

(6Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wedi gwrthwynebu trosglwyddo ei gontract cyflogaeth i IGDC fel y’i disgrifir ym mharagraff (5), mae’r trosglwyddiad yn gweithredu er mwyn terfynu contract cyflogaeth y person hwnnw ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid yw person y mae ei gontract cyflogaeth yn cael ei derfynu yn unol â pharagraff (6) i’w drin, at unrhyw ddiben, fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.

(8Pan fo’r trosglwyddiad yn golygu, neu pan fyddai’n golygu, newid sylweddol yn yr amodau gwaith gan arwain at niwed sylweddol i berson y mae ei gyflogaeth yn cael ei throsglwyddo neu y byddai ei gyflogaeth wedi cael ei throsglwyddo o dan baragraff (2), caiff y person hwnnw drin y contract cyflogaeth fel pe bai wedi cael ei derfynu, ac mae’r person hwnnw i’w drin at unrhyw ddiben fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.

(9Nid yw unrhyw iawndal i fod yn daladwy gan gyflogwr o ganlyniad i ddiswyddo sy’n dod o fewn paragraff (8) mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant gan y cyflogwr i dalu cyflog i berson mewn cysylltiad â chyfnod rhybudd y mae’r person wedi methu â’i weithio.

(10Nid yw paragraffau (2), (3), a (5) i (8) yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan berson sy’n codi ar wahân i’r erthygl hon i derfynu contract cyflogaeth y person hwnnw heb rybudd wrth dderbyn tor contract ymwrthodol gan y cyflogwr.

(11Mae cofnodion Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n ymwneud â chyflogaeth y personau hynny y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt ac y mae eu contractau cyflogaeth i’w trosglwyddo i IGDC yn unol â’r erthygl hon i’w trosglwyddo i IGDC ar y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo eiddo

4.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i eiddo a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—

(a)a nodir yn yr Atodlen;

(b)a ddefnyddir neu a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre—

(i)ar gyfer cyflawni swyddogaethau GGGC, neu

(ii)mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau GGGC.

(2Mae unrhyw eiddo y mae paragraff (1) yn gymwys iddo i’w drosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i IGDC.

(3Mae unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre mewn perthynas ag unrhyw eiddo y mae paragraff (1) yn gymwys iddo i’w trosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i IGDC.

(4Mae unrhyw eiddo y mae paragraff (1) yn gymwys iddo sy’n dir neu’n adeiladau yn cael ei drosglwyddo yn ddarostyngedig i, a chyda budd, y canlynol—

(a)unrhyw lesoedd, tenantiaethau a thrwyddedau presennol ac unrhyw hawliau sydd gan feddianwyr a’u holynwyr;

(b)unrhyw fuddiant arall yn yr eiddo, ac unrhyw fater sy’n effeithio arno.

(5Ym mharagraff (4), mae trosglwyddo “eiddo” yn cynnwys trosglwyddo cynnwys yr eiddo, gan gynnwys unrhyw eitem neu eiddo o ba ddisgrifiad bynnag—

(a)sy’n eiddo Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a

(b)sy’n bresennol yn neu ar yr eiddo ar y dyddiad trosglwyddo,

gan gynnwys unrhyw gerbyd neu eiddo symudol sydd fel arfer yn cael ei gadw ar y tir hwnnw neu yn yr adeiladau hynny pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.

Trosglwyddo hawliau ac atebolrwyddau

5.—(1Mae unrhyw hawliau ac atebolrwyddau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n bodoli yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sy’n ymwneud ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wrth arfer swyddogaethau GGGC, neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, i’w trosglwyddo ar y dyddiad trosglwyddo i IGDC.

(2Mae unrhyw atebolrwyddau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n bodoli yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sy’n ymwneud ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wrth arfer swyddogaethau GGGC, neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, yn orfodadawy yn erbyn IGDC.

Trosglwyddo gwybodaeth, data a chofnodion

6.—(1Mae unrhyw eiddo, hawliau ac atebolrwyddau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, mewn perthynas â gwybodaeth, data a chofnodion sy’n ymwneud ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wrth arfer swyddogaethau GGGC neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, i’w trosglwyddo ar y dyddiad trosglwyddo i IGDC.

(2Mae trosglwyddo unrhyw wybodaeth, data a chofnodion y mae’r erthygl hon yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau trydydd parti sy’n bodoli mewn perthynas â’r wybodaeth honno neu’r data hynny a’r cofnodion hynny.

Darpariaeth ar gyfer parhad wrth arfer swyddogaethau

7.—(1Mae unrhyw beth sydd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi cael ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, neu mewn perthynas â hi wrth arfer swyddogaethau GGGC, neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, i gael effaith ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo fel pe bai’n cael ei wneud gan IGDC neu mewn perthynas ag ef.

(2I’r graddau y mae’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i baragraff (1), mae cyfeiriad mewn unrhyw ddogfen at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i’w ddehongli ar ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo fel cyfeiriad at IGDC.

(3Yn ddarostyngedig i erthygl 3(8), nid yw unrhyw hawl i derfynu neu i amrywio contract, trefniant neu offeryn i weithredu neu i ddod yn arferadwy, ac nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw gontract, trefniant neu offeryn i weithredu neu i ddod yn arferadwy neu i gael ei thorri, oherwydd unrhyw drosglwyddiad o dan y Gorchymyn hwn neu oherwydd unrhyw weithrediad arall o’r Gorchymyn hwn.

(4Mae’r trosglwyddiadau y darperir ar eu cyfer gan y Gorchymyn hwn i’w gwneud—

(a)ni waeth a oes unrhyw ofyniad ar gyfer cydsyniad a fyddai fel arall yn gymwys (pa un a yw’n codi o dan unrhyw ddeddfiad, offeryn, cytundeb neu fel arall),

(b)pa un a fyddent fel arall yn gallu cael eu trosglwyddo ai peidio, ac

(c)ni waeth a oes unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn atal y trosglwyddiadau hynny neu’n cyfyngu arnynt.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2021

Erthygl 4

YR ATODLENEiddo sy’n Trosglwyddo i IGDC

  • Les ddyddiedig 4 Ionawr 2016 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Second Horizon Limited (2)

  • Les ddyddiedig 28 Ionawr 2020 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Second Horizon Limited (2) mewn perthynas â Bocam Park

  • Les ddyddiedig 18 Rhagfyr 2019 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Castlebridge Investments Ltd (2) mewn perthynas â Castlebridge

  • Les ddyddiedig 29 Gorffennaf 2013 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Johnsey Estates UK Limited (2) mewn perthynas â Mamhilad Park Estate (y llawr gwaelod)

  • Les ddyddiedig 29 Gorffennaf 2013 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Johnsey Estates UK Limited (2) mewn perthynas â Mamhilad Park Estate (y llawr cyntaf)

  • Les ddyddiedig 29 Gorffennaf 2013 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Johnsey Estates UK Limited (2) mewn perthynas â Mamhilad Park Estate (yr ail lawr)

  • Les ddyddiedig 1 Ebrill 2016 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (2) mewn perthynas â Technium 2 (rhan o’r llawr cyntaf)

  • Les ddyddiedig 1 Ebrill 2016 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (2) mewn perthynas â Technium 2 (The Madoc room)

  • Les ddyddiedig 8 Rhagfyr 2014 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Mark Andrews & Others (2) mewn perthynas â Thŷ Glan-yr-Afon

  • Les ddyddiedig 14 Mai 2018 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Mark Andrews & Others (2) mewn perthynas â Thŷ Glan-yr-Afon

  • Les ddyddiedig 10 Ionawr 2021 a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (1) a Mojo 2 Limited (2) mewn perthynas â Media Point

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Awdurdod Iechyd Arbennig, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (“IGDC”), wedi cael ei sefydlu o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Bydd swyddogaethau IGDC yn ymwneud â darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol a chefnogi gwella systemau o’r fath. Hyd yma, mae nifer o’r swyddogaethau hyn wedi eu harfer gan Wasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (“GGGC”). Mae GGGC yn rhan o’r cydwasanaethau a letyir gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre (“Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff (erthygl 3), eiddo (erthygl 4), hawliau ac atebolrwyddau (erthygl 5) o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i IGDC.

Mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo data, cofnodion a gwybodaeth.

Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad pethau a wneir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre neu mewn perthynas â hi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources