Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 237 (Cy. 60)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

3 Mawrth 2021

Gosodwyd gebron Senedd Cymru

4 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2021

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012(2).

Diwygio rheoliad 2 oʼr prif Reoliadau

2.—(1Mae rheoliad 2 (dehongli) oʼr prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “prif swyddogion”, ar y diwedd mewnosoder “, a phrif swyddog neu brif weithredwr pob Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf”.

(3Yn y diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig”, ar y diwedd mewnosoder “ac, mewn perthynas â phrif swyddog Awdurdod Iechyd Arbennig, swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.

Diwygio rheoliad 7 oʼr prif Reoliadau

3.—(1Mae rheoliad 7 (gofynion cymhwystra i aelodau’r pwyllgor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2), yn lle “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Fwrdd Iechyd Lleol” rhodder “Fwrdd Iechyd Lleol, i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu fel prif swyddog neu brif weithredwr i Awdurdod Iechyd Arbennig”.

(3Ym mharagraff (3), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.

(4Ym mharagraff (4), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012 (“y prif Reoliadau”), yn benodol rheoliadau 2 a 7 o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “prif swyddogion” yn y prif Reoliadau i gynnwys prif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig yng Nghymru. Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig” yn y prif Reoliadau i gynnwys swyddog enwebedig i bob Awdurdod Iechyd Arbennig.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau i gynnwys yn rheoliad 7(2) gyfeiriad at brif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig, ac yn rheoliad 7(3) a (4) gyfeiriad at swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog neu’r prif weithredwr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2012/1261 (Cy. 156), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.