xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
11 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr un ystyr ag yn adran 21(10) o Fesur 2009;
ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(2);
mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr un ystyr ag yn adran 171(1) o Ddeddf 2021;
ystyr “trefniant cydlafurio” (“collaboration arrangement”) yw unrhyw drefniant, unrhyw drafodiad, neu unrhyw gytundeb arall a wnaed yn unol ag unrhyw un o’r pwerau a restrir yn adran 9(2) o Fesur 2009.
(3) At ddibenion erthyglau 4 a 6, mae arolygiad arbennig yn cychwyn—
(a)ar yr adeg y mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn hysbysu prif gyngor o dan adran 21(7)(a) o Fesur 2009, neu
(b)mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiad yn unol ag adran 21(4) o Fesur 2009, ar yr adeg y gwneir y cais hwnnw.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Ebrill 2021, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adrannau 89 i 91;
(b)adrannau 95 i 115;
(c)Pennod 3 o Ran 6;
(d)Rhan 7;
(e)adran 159;
(f)adran 169;
(g)Atodlen 1, ac eithrio’r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 6 Mai 2022 yn unol ag adran 175(6)(b) o Ddeddf 2021;
(h)Atodlen 10;
(i)Atodlen 11;
(j)Atodlen 12.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 5 Mai 2022—
(a)adrannau 92 a 93;
(b)Pennod 2 o Ran 6.
4.—(1) Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), nid yw’r diwygiadau a wnaed gan y ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith (ac mae Mesur 2009 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym) mewn perthynas ag—
(a)trefniant cydlafurio yr ymrwymwyd iddo, neu y cytunwyd iddo, cyn 1 Ebrill 2021, pan fo o leiaf un o’r partïon yn brif gyngor;
(b)dyletswydd prif gyngor i wneud trefniadau yn unol ag adran 15 o Fesur 2009 ar gyfer cyhoeddi—
(i)yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2) o’r adran honno i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(ii)crynodeb o unrhyw adroddiad y cyfeirir ato yn is-adran (4) o’r adran honno mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o’r awdurdod a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021 (pa un a ddyroddwyd yr adroddiad cyn y dyddiad hwnnw ai peidio);
(c)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad o dan adran 17 o Fesur 2009 at ddiben penderfynu a yw prif gyngor, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, ac i ba raddau y mae’r awdurdod, yn ystod y flwyddyn honno, wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
(d)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, adroddiad neu adroddiadau o dan adran 19(1) o Fesur 2009 mewn cysylltiad â phob prif gyngor—
(i)sy’n ardystio, yn unol ag is-adran (1)(a) o’r adran honno, bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(ii)sy’n datgan, yn unol ag is-adran (1)(b) o’r adran honno, a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r archwiliad hwnnw, yn credu—
(aa)bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, a
(bb)bod yr awdurdod wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
(iii)sy’n argymell, os yw’r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni’r archwiliad hwnnw, unrhyw un neu ragor o’r materion a nodir yn adran 19(1)(f), (g) neu (h)(3) o Fesur 2009;
(e)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i anfon copi o adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 19(2) a (3) o Fesur 2009 ac unrhyw orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3)(b) o’r adran honno;
(f)pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd o dan adran 19(4) o Fesur 2009 mewn perthynas ag adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d);
(g)dyletswydd prif gyngor i ymateb i adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 20(1) i (3) a (5) o Fesur 2009 (ac mae is-adran (6) o’r adran honno yn parhau i gael effaith at y dibenion hynny);
(h)pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 21 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021;
(i)pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, cyhoeddi, ac anfon copïau o adroddiad o dan adran 22 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, yn unol ag is-adrannau (2), (3) a (5) o’r adran honno;
(j)graddfeydd ffioedd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag—
(i)arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
(ii)archwiliad o brif gyngor a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(k)pwerau a dyletswyddau prif gyngor a Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(3), (4) a (4A) mewn cysylltiad ag—
(i)arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
(ii)archwiliad o brif gyngor a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(l)unrhyw gymorth neu gynhorthwy a ddarperir i brif gyngor o dan adran 28 o Fesur 2009 ar 1 Ebrill 2021, ac mae adran 28 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gymorth neu gynhorthwy o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
(m)unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i brif gyngor o dan adran 29 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 29 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
(n)unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i brif gyngor o dan adran 30 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 30 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021.
(2) Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), mae’r diffiniad o “pwerau cydlafurio” sydd wedi ei gynnwys yn adran 11 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith at ddiben erthygl 4(1)(b), fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym.
5.—(1) Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), mae adrannau 33 a 34 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith, fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym, at ddiben rhannu gwybodaeth a dogfennau—
(a)a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru neu a ddangoswyd iddo wrth arfer swyddogaethau o dan adrannau 17 a 19 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, neu
(b)at ddiben arfer gan Archwilydd Cyffredinol Cymru y swyddogaethau hynny mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol honno.
(2) At y diben a ddisgrifir ym mharagraff (1), mae’r darpariaethau a ganlyn yn parhau i gael effaith fel pe na bai adran 113 o Ddeddf 2021 wedi dod i rym—
(a)y diffiniadau o “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol” sydd wedi eu cynnwys yn adran 16 o Fesur 2009;
(b)swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a grybwyllir yn adran 23(7)(b) o Fesur 2009.
6.—(1) Er bod adran 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(f)), nid yw’r diwygiadau a wnaed gan y ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith (ac mae Mesur 2009 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai adran 169 wedi dod i rym) mewn perthynas ag—
(a)trefniant cydlafurio yr ymrwymwyd iddo, neu y cytunwyd iddo, cyn 1 Ebrill 2021, pan fo o leiaf un o’r partïon yn awdurdod Parc Cenedlaethol;
(b)dyletswydd awdurdod Parc Cenedlaethol i wneud trefniadau yn unol ag adran 15 o Fesur 2009 ar gyfer cyhoeddi—
(i)yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2) o’r adran honno i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(ii)crynodeb o unrhyw adroddiad y cyfeirir ato yn is-adran (4) o’r adran honno mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o’r awdurdod a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021 (pa un a gyhoeddwyd yr adroddiad cyn y dyddiad hwnnw ai peidio);
(c)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad o dan adran 17 o Fesur 2009 at ddiben penderfynu a yw awdurdod Parc Cenedlaethol, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, ac i ba raddau y mae’r awdurdod wedi gweithredu yn ystod y flwyddyn honno yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
(d)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, adroddiad neu adroddiadau o dan adran 19(1) o Fesur 2009 mewn cysylltiad â phob awdurdod Parc Cenedlaethol—
(i)sy’n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol, yn unol ag is-adran (1)(a) o’r adran honno, wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(ii)sy’n datgan, yn unol ag is-adran (1)(b) o’r adran honno, a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r archwiliad hwnnw, yn credu—
(aa)bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, a
(bb)bod yr awdurdod wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
(iii)sy’n argymell, os yw’r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni’r archwiliad hwnnw, unrhyw un neu ragor o’r materion a nodir yn adran 19(1)(f), (g) neu (h)(4) o Fesur 2009;
(e)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i anfon copi o adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 19(2) a (3) o Fesur 2009 ac unrhyw orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3)(b) o’r adran honno;
(f)pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd o dan adran 19(4) o Fesur 2009 mewn perthynas ag adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d);
(g)dyletswydd awdurdod Parc Cenedlaethol i ymateb i adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 20(1) i (3) a (5) o Fesur 2009 (ac mae is-adran (6) o’r adran honno yn parhau i gael effaith at y dibenion hynny);
(h)pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 21 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021;
(i)pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, cyhoeddi, ac anfon copïau o adroddiad o dan adran 22 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, yn unol ag is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno;
(j)graddfeydd ffioedd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag—
(i)arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
(ii)archwiliad o awdurdod Parc Cenedlaethol a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(k)pwerau a dyletswyddau awdurdod Parc Cenedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(3), (4) a (4A) mewn cysylltiad â—
(i)arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
(ii)archwiliad o awdurdod Parc Cenedlaethol a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
(l)unrhyw gymorth neu gynhorthwy a ddarperir i awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 28 o Fesur 2009 ar 1 Ebrill 2021, ac mae adran 28 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gymorth neu gynhorthwy o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
(m)unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 29 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 29 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
(n)unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 30 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 30 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021.
(2) Er bod adran 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(f)), mae’r diffiniad o “pwerau cydlafurio” sydd wedi ei gynnwys yn adran 11 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith at ddiben erthygl 6(1)(b), fel pe na bai adran 169 wedi dod i rym.
7. Er bod adrannau 113 a 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b) ac (f)), mae adran 26 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith, fel pe na bai adrannau 113 a 169 wedi dod i rym, at ddiben—
(a)arolygiad arbennig o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
(b)archwiliad o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.
8. Er bod adrannau 113 a 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b) ac (f))—
(a)rhaid i brif gynghorau ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol barhau i roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8) o Fesur 2009 wrth gyflawni eu dyletswydd o dan adran 15 i wneud trefniadau i gyhoeddi’r wybodaeth a ddisgrifir yn erthyglau 4(1)(b) a 6(1)(b);
(b)rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru barhau i roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 21(9) o Fesur 2009 wrth gynnal arolygiad arbennig a ddisgrifir yn erthyglau 4(1)(h) a 6(1)(h).
9. Nid yw’r ffaith bod adrannau 113 a 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b) ac (f)) yn cael unrhyw effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd, neu yr honnir iddi gael ei chyflawni, o dan adran 26(9) o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Ebrill 2021, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adrannau 89 i 91 a 95 i 115 (perfformiad prif gynghorau), gan gynnwys Atodlen 10 (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio);
(b)Pennod 3 o Ran 6 (cydgysylltu rhwng rheoleiddwyr);
(c)Rhan 7 (uno ac ailstrwythuro prif ardaloedd), gan gynnwys Atodlen 1 (adolygiad cychwynnol o’r trefniadau etholiadol), ac eithrio’r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 6 Mai 2022 yn unol ag adran 175(6)(b) o Ddeddf 2021, Atodlen 11 (pwyllgorau pontio cynghorau sy’n uno a chynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro) ac Atodlen 12 (cyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio etc. gan gynghorau sy’n uno a chynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro);
(d)adran 159 (rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru);
(e)adran 169 (datgymhwyso Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”) mewn perthynas ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol).
Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 5 Mai 2022—
(a)adrannau 92 a 93 (asesiadau panel o berfformiad);
(b)Pennod 2 o Ran 6 (aelodaeth a thrafodion pwyllgorau llywodraethu ac archwilio).
Mae erthyglau 4 i 9 yn cynnwys darpariaethau arbed sy’n ymwneud â chychwyn adrannau 113 (datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau) a 169 o Ddeddf 2021.
Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaethau arbed sy’n ymwneud â datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau, fel bod arfer swyddogaethau penodol a phethau eraill a wneir o dan Fesur 2009 yn parhau i gael effaith yn dilyn cychwyn adran 113 o Ddeddf 2021.
Mae erthygl 5 yn cynnwys darpariaethau arbed sy’n ymwneud ag adrannau 33 (rhannu gwybodaeth) a 34 (y modd y mae gwybodaeth i’w defnyddio gan reoleiddwyr) o Fesur 2009.
Mae erthygl 6 yn cynnwys darpariaethau arbed sy’n ymwneud â datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol, fel bod arfer swyddogaethau penodol a phethau eraill a wneir o dan Fesur 2009 yn parhau i gael effaith yn dilyn cychwyn adran 169 o Ddeddf 2021.
Mae erthygl 7 yn cynnwys darpariaethau arbed sy’n ymwneud ag adran 26 (pwerau a dyletswyddau arolygwyr) o Fesur 2009.
Mae erthygl 8 yn cynnwys darpariaethau arbed sy’n ymwneud â chanllawiau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 15(8) (cyhoeddi gwybodaeth am welliannau) a 21(9) (arolygiadau arbennig) o Fesur 2009.
Mae erthygl 9 yn darparu nad yw cychwyn adrannau 113 a 169 o Ddeddf 2021 yn cael unrhyw effaith mewn perthynas â throsedd a gyflawnir o dan adran 26(9) (pan fo person, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer arolygydd rhag cael ei arfer neu’n methu â chydymffurfio â gofyniad gan arolygydd) cyn 1 Ebrill 2021.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Gweler adran 175(1) o Ddeddf 2021 ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 175(3) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2021 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Gweler hefyd adran 175(4) o Ddeddf 2021 ar gyfer darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2021.
Ond nid yw adrannau 21, 28, a 29 o Fesur 2009 wedi eu harbed at y dibenion hynny.
Ond nid yw adrannau 21, 28, a 29 o Fesur 2009 wedi eu harbed at y dibenion hynny.