Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaidd

11.  Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-ddwyrain (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth

12.—(1Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-ddwyrain, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

(2Mae Rhan 2 o Deddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-ddwyrain a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(2).

Swyddogaethau cynllunio strategol

13.  Mae gan CBC y De-ddwyrain y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-ddwyrain (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Is-bwerau

14.—(1Caniateir i CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw beth—

(a)i hwyluso, neu

(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

(2Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)mynd i wariant;

(b)codi ffioedd;

(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Dirprwyo swyddogaethau

15.—(1Caiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—

(a)paragraff (2);

(b)unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.

(2Ni chaiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—

(a)rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);

(b)rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);

(c)rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);

(d)rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);

(e)rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);

(f)paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);

(g)paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);

(h)paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);

(i)paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);

(j)paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources