NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“yr GDCG”).
Mae erthygl 3 o’r GDCG, ac Atodlen 2 iddo, yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygu penodol. Pan roddir yr hawliau hynny, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i’r GDCG drwy fewnosod Rhan 4A newydd (newid defnydd dros dro) i ganiatáu datblygu penodol yng Nghymru am gyfnodau cyfyngedig. Mae 6 dosbarth newydd o ddatblygu a ganiateir yn Rhan 4A.
Mae Dosbarth A yn caniatáu cyfnod ychwanegol o 28 o ddiwrnodau ar gyfer defnydd dros dro o dir, a chaniateir i 14 o’r diwrnodau hynny fod ar gyfer cynnal marchnad neu at ddibenion rasio ceir modur a beiciau modur (gan gynnwys treialon cyflymder, ac ymarfer ar gyfer y gweithgareddau hyn) yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 30 Ebrill 2021 ac sy’n dod i ben ar 3 Ionawr 2022. Caniateir darparu strwythurau symudol at ddiben y defnydd hefyd. Ni chaniateir datblygu adeilad neu ddatblygu yng nghwrtil adeilad lle y ceir hefyd heneb gofrestredig. Ni chaniateir rhai mathau o ddatblygu pan foְ’r tir yng nghwrtil adeilad rhestredig, pan fo o fewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu pan fo o fewn Parc Cenedlaethol.
Mae Dosbarth B yn caniatáu defnyddio tir i gynnal marchnad gan awdurdod lleol neu ar ei ran yn y cyfnod sy’n dechrau ar 30 Ebrill 2021 ac sy’n dod i ben ar 3 Ionawr 2022.
Mae Dosbarth C, Dosbarth D a Dosbarth E yn caniatáu newid defnydd dros dro ar gyfer adeiladau yng nghanol trefi o fewn dosbarthiadau defnydd A1, A2 ac A3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (“y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd”) i ddosbarthiadau defnydd penodedig eraill. Mae’r newid defnydd wedi ei gyfyngu i 6 mis a rhaid iddo ddod i ben ar 29 Ebrill 2022 neu cyn hynny. Mae’n ofynnol i ddatblygwyr hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol am y datblygu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Caniateir newid defnydd hefyd yn ôl i’r defnydd gwreiddiol a rhaid i hynny ddigwydd cyn diwedd 29 Ebrill 2022.
Mae Dosbarth F yn caniatáu, yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 30 Ebrill 2021 ac sy’n dod i ben ar 3 Ionawr 2022, newid defnydd rhan o briffordd sy’n gyfagos i fangre sydd o fewn Dosbarth Defnydd 3A o’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd, at ddibenion gosod cadeiriau a byrddau y gellir eu symud ymaith a dodrefn eraill y gellir eu symud ymaith at ddibenion gwerthu neu weini bwyd a diod a gyflenwir o’r fangre honno, neu fwyta ac yfed bwyd a diod o’r fath. Rhaid cael caniatâd gan y cyngor perthnasol ac ni chaniateir defnyddio’r dodrefn rhwng 10 pm ac 8 am.
Mae’r datblygu a ganiateir o dan bob dosbarth yn ddarostyngedig i amodau a chyfyngiadau sydd hefyd wedi eu nodi yn y Rhan 4A newydd.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 42 o Atodlen 2 i’r GDCG drwy fewnosod dosbarth newydd (Dosbarth D) o ddatblygu a ganiateir yng Nghymru am gyfnod cyfyngedig.
Mae’r Dosbarth D newydd yn caniatáu gosod adlen ôl-dynadwy dros flaen mangre yn Nosbarth Defnydd A3 (bwyd a diod) o’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd. Ni chaiff yr adlen fod yn hysbyseb a rhaid ei thynnu yn ôl rhwng 10 pm ac 8 am. Pan fydd adlen yn ymestyn dros briffordd, rhaid cael caniatâd gan y cyngor perthnasol. Rhaid gorffen gosod yr adlen erbyn diwedd 29 Ebrill 2022.
Mae’r datblygu a ganiateir o dan y dosbarth hwn yn ddarostyngedig i amodau a chyfyngiadau eraill sydd hefyd wedi eu nodi yn y Dosbarth D newydd o Ran 42.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.