xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a dirymu

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.

(2Deuant i rym ar 1 Medi 2021.

(3Mae Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020(1) wedi eu dirymu.

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2018” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(2Mae i gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996(2).

(3Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf 2018 ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

(4Pan fo’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfnod y mae’n ofynnol gwneud rhywbeth ynddo, neu cyn ei ddiwedd, ac na fo diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, mae’r cyfnod yn cael ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.

Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rheoliadau hyn

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2Mae adran 88 o Ddeddf 2018 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon) yn gymwys i’r ddarpariaeth—

(a)fel pe bai’n ddarpariaeth yn Rhan 2 o Ddeddf 2018,

(b)fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr adran honno at gorff llywodraethu neu awdurdod lleol yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, ac

(c)fel pe bai’r cyfeiriad yn adran 88(4) at adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(3) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn gyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(4) (cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig).

Rhoi hysbysiad etc. o dan Ran 2 o Ddeddf 2018: diwygio adran 88

4.  Ar ddiwedd adran 88 o Ddeddf 2018 mewnosoder—

(6) Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig yn unol â’r adran hon i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.

(2)

1996 p. 56. Mae’r is-adrannau hyn wedi eu diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliadau 153 a 157.

(4)

2019 dccc 4. Mae adran 13 wedi ei diwygio gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), Atodlen 1, paragraff 5(1), (3)(b) a (4)(a). Mae diwygiadau eraill i adran 13 nad ydynt yn berthnasol.