- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018 nad oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person ifanc am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2), yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad o dan adran 13(1) o Ddeddf 2018 gael ei wneud.
(4) Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.
(5) Wrth roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol hefyd roi i’r person ifanc—
(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol;
(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;
(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;
(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;
(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 70 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: