- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, Adran 22.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
22.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo plentyn neu berson ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,
(b)pan fo’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac
(c)pan oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal neu ei gadw ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno, ac unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) o Ddeddf 2018 yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).
(3) Ond nid yw’r ddyletswydd i gynnal y cynllun ym mharagraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chynllun a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol oni thynnir sylw’r awdurdod lleol perthnasol at y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal neu ei gadw.
(4) Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.
(5) Pan oedd y cynllun, yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, yn cael ei gadw o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol—
(a)rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ei fod wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun,
(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn, ac
(c)adolygu’r cynllun,
(ar gyfer pan oedd y cynllun yn cael ei gynnal gan gorff arall yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, gweler adrannau 22(2) a 23 o Ddeddf 2018 fel y’u cymhwysir gan y rheoliad hwn).
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o’r cynllun yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty.
(7) Nid oes angen i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 7 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.
(8) At ddibenion paragraff (6), mae adolygiad wedi ei gwblhau pan yw’r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi, o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig;
(b)hysbysiad o benderfyniad na ddylid diwygio’r cynllun;
(c)hysbysiad o benderfyniad nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach;
(d)os yw’r person yn berson ifanc, hysbysiad o benderfyniad nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 22 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: