- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, neu os yw’r awdurdod lleol, wrth lunio neu gynnal y cynllun ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o Ddeddf 2018 i ddisgrifio darpariaeth o fath a restrir yn adran 14(7) o’r Ddeddf honno.
(2) Mae hefyd yn angenrheidiol i awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os yw’r person ifanc i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru i ddilyn rhaglen astudio.
(3) Ar gyfer achosion nad ydynt yn dod o fewn paragraff (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—
(a)yn achos person ifanc sydd i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;
(b)yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn ysgol a gynhelir yn Lloegr, Academi neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr, neu sydd i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, a fyddai corff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad neu, yn achos Academi, y perchennog, yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
(4) Wrth ystyried mater y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r corff llywodraethu neu’r perchennog.
(5) Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc—
(a)os yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), yn ystyried nad yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;
(b)os nad yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), wedi ei fodloni y byddai’r corff llywodraethu neu’r perchennog yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
(6) Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.
(7) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani gan anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc er mwyn dilyn y rhaglen astudio neu barhau i ddilyn y rhaglen astudio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: