PART 1Cyflwyniad
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 10 Medi 2021.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac eithrio paragraff 2 o Atodlen 5 sy’n gymwys o ran Cymru a Lloegr.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “amod cyffredinol” (“general condition”) yw’r amodau a nodir yn Atodlen 2;
ystyr “amodau penodol perthnasol” (“relevant specific conditions”) mewn perthynas â’r gweithgaredd o werthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes (neu gyda’r bwriad o’u hailwerthu’n ddiweddarach fel anifeiliaid anwes) fel a ddisgrifir ym mharagraff 2 o Atodlen 1, yw’r amodau a nodir yn Atodlen 3;
ystyr “amodau trwydded” (“licence conditions”) yw—
(a)
yr amodau cyffredinol, a
(b)
yr amodau penodol perthnasol;
ystyr “anifail anwes” (“pet”) yw anifail a gedwir yn bennaf neu’n barhaol, neu y bwriedir ei gadw’n bennaf neu’n barhaol, gan berson ar gyfer—
(c)
dibenion addurnol, neu
(d)
unrhyw gyfuniad o baragraffau (a) i (c);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “cath fach” (kitten”) yw cath sy’n iau na 6 mis oed;
ystyr “ci bach” (“puppy”) yw ci sy’n iau na 6 mis oed;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;
ystyr “gweithgaredd trwyddedadwy” (“licensable activity”) yw gweithgaredd a ddisgrifir ym mharagraff 2 o Atodlen 1;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw unigolyn—
(a)
sy’n cynnal y gweithgaredd trwyddedadwy, sy’n ceisio cynnal y gweithgaredd trwyddedadwy, neu sy’n caniatáu yn fwriadol i’r gweithgaredd trwyddedadwy gael ei gynnal, neu
(b)
pan fo trwydded wedi ei rhoi neu ei hadnewyddu, sy’n ddeiliad y drwydded;
ystyr “ci llawndwf” (“adult dog”) yw ci nad ydyw’n iau na 6 mis oed;
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrir yn y gofrestr milfeddygon neu yn y gofrestr filfeddygol atodol, a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1996();
ystyr “trwydded” (“licence”), ac eithrio fel y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall yn rheoliad 10(1)(b) neu pan ddarperir yr ystyr yn fwy penodol, yw trwydded i gynnal gweithgaredd trwyddedadwy a roddir neu a adnewyddir o dan y Rheoliadau hyn, ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
Trwyddedu gweithredwyr
3.—(1) Mae pob gweithgaredd trwyddedadwy yn weithgaredd penodedig at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf.
(2) Yr awdurdod lleol yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer unrhyw weithgaredd trwyddedadwy a gynhelir mewn mangre yn ei ardal.
RHAN 2Rhoi, adnewyddu ac amrywio trwydded â chydsyniad ac arolygu mangre
Amodau rhoi neu adnewyddu trwydded
4.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo awdurdod lleol wedi cael cais ysgrifenedig oddi wrth weithredwr i roi neu adnewyddu trwydded i gynnal gweithgaredd trwyddedadwy ar fangre yn ardal yr awdurdod lleol, a
(b)pan fo’r cais yn rhoi’r wybodaeth honno sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)penodi un neu ragor o arolygwyr sy’n meddu ar gymwysterau addas i arolygu unrhyw fangre y mae’r gweithgaredd trwyddedadwy, neu unrhyw ran ohono, yn cael ei gynnal neu i’w gynnal arni, a
(b)yn dilyn yr arolygiad hwnnw, roi trwydded i’r gweithredwr, neu adnewyddu trwydded y gweithredwr, yn unol â’r cais, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)y caiff amodau’r drwydded eu bodloni,
(ii)bod unrhyw ffi briodol wedi ei thalu yn unol â rheoliad 12, a
(iii)bod rhoi neu adnewyddu’r drwydded yn briodol ar ôl ystyried yr adroddiad a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 9.
(3) Rhaid i awdurdod lleol atodi i bob trwydded a roddir neu a adnewyddir—
(a)yr amodau cyffredinol, a
(b)yr amodau penodol perthnasol.
(4) Wrth ystyried pa un a gaiff amodau’r drwydded eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol ystyried ymddygiad y ceisydd fel gweithredwr y gweithgaredd trwyddedadwy y mae’r cais am roi neu adnewyddu trwydded yn ymwneud ag ef, pa un a yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn weithredwr y gweithgaredd hwnnw ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.
(5) Ni chaniateir i awdurdod lleol roi trwydded i weithredwr, neu adnewyddu trwydded gweithredwr, o dan unrhyw amgylchiadau ac eithrio’r rhai a ddisgrifir yn y Rheoliadau hyn.
(6) Mae pob trwydded a roddir neu a adnewyddir mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau trwyddedadwy hyn yn ddarostyngedig i amodau’r drwydded.
Cyfnod trwydded
5. Caiff awdurdod lleol roi neu adnewyddu trwydded am unrhyw gyfnod hyd at 1 flwyddyn.
Pŵer i gymryd samplau o anifeiliaid
6. Caiff arolygydd, at ddibenion sicrhau y cydymffurfir ag amodau’r drwydded, gymryd samplau ar gyfer profion labordy o unrhyw anifeiliaid ar fangre a feddiennir gan weithredwr.
Dyletswydd i gynorthwyo o ran cymryd samplau o anifeiliaid
7. Rhaid i weithredwr gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan arolygydd i hwyluso adnabod ac archwilio anifail a chymryd samplau yn unol â rheoliad 6 ac, yn benodol, rhaid iddo drefnu i anifail gael ei atal mewn ffordd addas os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd.
Amrywio neu ddirymu trwydded ar gais deiliad trwydded, neu â chydsyniad deiliad trwydded
8. Caiff awdurdod lleol ar unrhyw adeg amrywio neu ddirymu trwydded—
(a)ar gais ysgrifenedig deiliad y drwydded, neu
(b)ar ei gymhelliad ei hun, gyda chydsyniad ysgrifenedig deiliad y drwydded.
Adroddiad yr arolygydd
9.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn trefnu arolygiad yn unol â rheoliad 4(2)(a), rhaid iddo drefnu i’r arolygydd gyflwyno adroddiad iddo.
(2) Rhaid i adroddiad yr arolygydd—
(a)cynnwys gwybodaeth am y gweithredwr, unrhyw fangre berthnasol, unrhyw gofnodion perthnasol, cyflwr unrhyw anifeiliaid, ac unrhyw faterion perthnasol eraill, a
(b)datgan pa un a yw’r arolygydd yn ystyried y caiff amodau’r drwydded eu bodloni ai peidio.
Personau na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded
10.—(1) Ni chaniateir i’r personau a ganlyn wneud cais am drwydded mewn cysylltiad ag unrhyw weithgaredd trwyddedadwy—
(a)person a restrir yn berson anghymwys ym mharagraffau 2 i 8 o Atodlen 4 pan fo’r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl yn erbyn yr anghymwyso hwnnw wedi dod i ben neu, os cyflwynwyd apêl, pan fo’r apêl honno wedi ei gwrthod;
(b)person a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 4 yn berson a oedd yn ddeiliad trwydded a ddirymwyd pan fo’r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl yn erbyn y dirymu hwnnw wedi dod i ben neu, os cyflwynwyd apêl, pan fo’r apêl honno wedi ei gwrthod.
(2) Mae unrhyw drwydded a roddir neu a adnewyddir, neu a ddelir, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) wedi ei dirymu yn awtomatig.
Marwolaeth deiliad trwydded
11.—(1) Os bydd deiliad trwydded yn marw, bernir bod y drwydded wedi ei rhoi i gynrychiolwyr personol y deiliad trwydded blaenorol hwnnw, neu wedi ei hadnewyddu mewn cysylltiad â chynrychiolwyr personol y deiliad trwydded blaenorol hwnnw.
(2) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), mae’r drwydded i barhau mewn grym am 3 mis gan ddechrau â dyddiad marwolaeth deiliad blaenorol y drwydded neu am ba hyd bynnag yr oedd i barhau mewn grym oni bai am y farwolaeth (pa gyfnod bynnag yw’r byrraf) ond mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn Rhan 2.
(3) Rhaid i’r cynrychiolwyr personol hysbysu yn ysgrifenedig yr awdurdod lleol a roddodd neu a adnewyddodd y drwydded mai hwy yw deiliaid y drwydded bellach o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad marwolaeth deiliad blaenorol y drwydded.
(4) Os yw’r cynrychiolwyr personol yn methu â hysbysu’r awdurdod lleol yn unol â hynny o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3), bydd y drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben.
(5) Caiff yr awdurdod lleol a roddodd neu a adnewyddodd y drwydded, ar gais y cynrychiolwyr personol, estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2) am hyd at 3 mis os yw wedi ei fodloni bod angen yr estyniad at ddiben dirwyn i ben ystad deiliad blaenorol y drwydded a bod hynny’n briodol o dan yr holl amgylchiadau.
Ffioedd
12.—(1) Caiff awdurdod lleol godi’r ffioedd hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol am—
(a)ystyried cais i roi, adnewyddu neu amrywio trwydded gan gynnwys unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw, ac ar gyfer rhoi, adnewyddu neu amrywio trwydded,
(b)costau disgwyliedig rhesymol ystyried cydymffurfedd deiliad y drwydded â’r Rheoliadau hyn ac amodau’r drwydded y mae deiliad y drwydded yn ddarostyngedig iddynt o dan amgylchiadau ac eithrio’r rhai a ddisgrifir yn is-baragraff (a) gan gynnwys unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw,
(c)costau disgwyliedig rhesymol gorfodi mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd trwyddedadwy gan weithredwr didrwydded, a
(d)costau disgwyliedig rhesymol cydymffurfio â rheoliad 26.
(2) Ni chaniateir i’r ffi a godir am ystyried cais i roi, adnewyddu neu amrywio trwydded ac ar gyfer unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw fod yn fwy na chostau rhesymol yr ystyried hwnnw a’r arolygiad cysylltiedig.
Canllawiau
13. Rhaid i awdurdod lleol, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
RHAN 3Gorfodi a hysbysiadau
Seiliau dros atal trwydded dros dro, amrywio trwydded heb gydsyniad neu ddirymu trwydded
14. Caiff awdurdod lleol, heb unrhyw ofyniad i sicrhau cydsyniad deiliad y drwydded, benderfynu atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded ar unrhyw adeg os yw wedi ei fodloni—
(a)na chydymffurfir ag amodau’r drwydded,
(b)y torrwyd y Rheoliadau hyn,
(c)bod gwybodaeth a roddir gan ddeiliad y drwydded yn ffug neu’n gamarweiniol,
(d)bod hynny’n angenrheidiol i ddiogelu lles anifail, neu
(e)na fyddai deiliad y drwydded wedi gallu gwneud cais am drwydded newydd yn unol â rheoliad 10.
Y weithdrefn ar gyfer atal dros dro neu amrywio heb gydsyniad
15.—(1) Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae atal dros dro neu amrywio trwydded yn dilyn penderfyniad o dan reoliad 14 yn cael effaith ar ddiwedd cyfnod o 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir hysbysiad am y penderfyniad i ddeiliad y drwydded neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, y diwrnod gwaith nesaf.
(2) Os yw hynny’n angenrheidiol i ddiogelu lles anifail, caiff yr awdurdod lleol bennu yn yr hysbysiad am ei benderfyniad bod yr atal dros dro neu’r amrywio yn cael effaith ar unwaith.
(3) Mewn perthynas â phenderfyniad i atal dros dro neu amrywio trwydded, rhaid—
(a)hysbysu deiliad y drwydded yn ysgrifenedig amdano,
(b)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros yr atal dros dro neu’r amrywio,
(c)datgan pa bryd y bydd yn cael effaith,
(d)pennu mesurau y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i unioni’r seiliau hynny, ac
(e)esbonio hawl deiliad y drwydded i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (4) a rhoi manylion y person y caniateir cyflwyno’r sylwadau hynny iddo, ac erbyn diwedd pa ddyddiad y mae rhaid i’r sylwadau hynny ddod i’w law.
(4) Caiff deiliad y drwydded gyflwyno sylwadau ysgrifenedig y mae rhaid iddynt ddod i law’r awdurdod lleol o fewn cyfnod o 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â dyddiad dyroddi’r hysbysiad am y penderfyniad o dan reoliad 14 i atal dros dro neu amrywio’r drwydded neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, y diwrnod gwaith nesaf.
(5) Ac eithrio mewn perthynas â hysbysiadau o dan baragraff (2), pan fo deiliad trwydded yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig sy’n dod i law’r awdurdod lleol o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4), nid yw’r atal dros dro neu’r amrywio i gael effaith oni bai bod yr awdurdod lleol, ar ôl ystyried y sylwadau, yn atal y drwydded dros dro neu’n ei hamrywio yn unol â pharagraff (6)(a).
(6) O fewn 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) yn dod i law, rhaid i’r awdurdod lleol, ar ôl ystyried y sylwadau—
(a)atal dros dro neu amrywio’r drwydded,
(b)canslo ei benderfyniad o dan reoliad 14 i atal dros dro neu amrywio’r drwydded,
(c)cadarnhau atal dros dro neu amrywio’r drwydded o dan baragraff (2), neu
(d)adfer y drwydded os yw wedi ei hatal dros dro, neu ganslo amrywio’r drwydded os yw wedi ei hamrywio, o dan baragraff (2).
(7) Rhaid i’r awdurdod lleol ddyroddi i ddeiliad y drwydded hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan baragraff (6) a’r rhesymau drosto o fewn 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (4) yn dod i law neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith nesaf.
(8) Mae penderfyniad yr awdurdod lleol o dan baragraff (6) i gael effaith pan fo’n cyflwyno ei hysbysiad o dan baragraff (7).
(9) Mae paragraff (10) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â pharagraff (6) neu (7).
(10) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ar ôl 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (4) yn dod i law neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith nesaf—
(a)bernir bod trwydded a ataliwyd dros dro o dan baragraff (2) wedi ei hadfer;
(b)bernir bod trwydded a amrywiwyd o dan baragraff (2) yn cael effaith fel pe na bai wedi ei hamrywio;
(c)bernir bod trwydded a ataliwyd dros dro o dan baragraff (6)(a) wedi ei hadfer;
(d)bernir bod trwydded a amrywiwyd o dan baragraff (6)(a) yn cael effaith fel pe na bai wedi ei hamrywio;
(e)bernir bod unrhyw drwydded a ddelir gan ddeiliad y drwydded ac eithrio trwydded a ataliwyd dros dro neu a amrywiwyd o dan baragraff (2) neu (6)(a) y penderfynodd yr awdurdod lleol ei hatal dros dro neu ei hamrywio o dan reoliad 14 yn parhau mewn grym ac nad yw wedi ei hamrywio felly.
(11) Unwaith y mae trwydded wedi ei hatal dros dro am 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r awdurdod lleol, ar y diwrnod gwaith nesaf—
(a)adfer y drwydded heb ei hamrywio,
(b)amrywio’r drwydded a’i hadfer wedi ei hamrywio, neu
(c)dirymu’r drwydded.
(12) Os yw’r awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â pharagraff (11), bernir bod y drwydded wedi ei hadfer heb ei hamrywio gan gael effaith ar unwaith.
Adfer trwydded a ataliwyd dros dro gan awdurdod lleol
16.—(1) Rhaid i awdurdod lleol adfer trwydded a ataliwyd dros dro drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig unwaith y mae wedi ei fodloni bod y seiliau a bennwyd yn yr hysbysiad atal dros dro wedi eu hunioni, neu y cânt eu hunioni.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn adfer trwydded o dan baragraff (1), caiff lleihau’r cyfnod y mae wedi ei hadfer ar ei gyfer.
Hysbysiad dirymu
17.—(1) Mewn perthynas â phenderfyniad dirymu, rhaid—
(a)hysbysu deiliad y drwydded yn ysgrifenedig amdano,
(b)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros ddirymu, ac
(c)rhoi hysbysiad am hawl deiliad y drwydded i apelio i lys ynadon a’r cyfnod o dan reoliad 23 y caniateir cyflwyno apêl o’r fath o’i fewn.
(2) Mae’r penderfyniad yn cael effaith pan gyflwynir yr hysbysiad.
Rhwystro arolygwyr
18. Ni chaniateir i berson rwystro yn fwriadol arolygydd a benodir at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn wrth arfer unrhyw bwerau a roddir gan y Ddeddf neu oddi tani.
Troseddau
19.—(1) Mae’n drosedd i berson, heb awdurdod cyfreithlon neu esgus cyfreithlon—
(a)torri amod trwydded;
(b)methu â chydymffurfio â rheoliad 7 neu 18.
(2) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
Pwerau mynediad
20. Rhaid trin torri amod trwydded fel trosedd berthnasol at ddibenion adran 23 o’r Ddeddf (mynd i fangre a’i chwilio o dan warant mewn cysylltiad â throseddau).
Pwerau ar ôl euogfarnu
21. Mae’r pwerau perthnasol ar ôl euogfarnu sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 34 a 42 o’r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas ag euogfarn am drosedd o dan reoliad 19.
Hysbysiadau
22.—(1) Caniateir i’r awdurdod lleol ddiwygio, atal dros dro neu ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg unrhyw hysbysiad a ddyroddir ganddo o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caniateir cyflwyno hysbysiad i berson—
(a)drwy ei draddodi i’r person,
(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad post cyfredol neu hysbys diwethaf y person neu ei anfon drwy’r post i’r cyfeiriad post hwnnw, neu
(c)drwy ei anfon mewn neges e-bost i gyfeiriad e-bost cyfredol neu hysbys diwethaf y person.
RHAN 4Apelau
Apelau
23.—(1) Caiff unrhyw weithredwr sydd wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad gan awdurdod lleol i wrthod rhoi neu adnewyddu trwydded, neu’r penderfyniad i ddirymu trwydded, apelio i lys ynadon.
(2) Mae’r weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980() yn gymwys i’r achos.
(3) Y cyfnod pan ganiateir dwyn apêl yw 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad.
RHAN 5Diddymiadau, diwygiadau canlyniadol a darpariaeth arbed
Diddymiadau a diwygiadau canlyniadol
24. Mae Atodlen 5 (diddymiadau a diwygiadau canlyniadol) i gael effaith.
Darpariaeth arbed
25. Bydd unrhyw drwydded sydd heb ddod i ben a roddir yn unol â darpariaethau Deddf Anifeiliaid Anwes 1951() yn parhau mewn grym am weddill ei chyfnod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf honno fel yr oedd yn cael effaith ar y dyddiad perthnasol.
RHAN 6Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru
Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru
26.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu’r wybodaeth a ganlyn yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru—
(a)nifer y trwyddedau mewn grym yn ei ardal ar bob dyddiad cyfeirio, a
(b)lefel gyfartalog y ffioedd a godwyd gan yr awdurdod lleol am drwyddedau a roddwyd neu a adnewyddwyd ganddo ym mhob cyfnod cyfeirio.
(2) Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu’r wybodaeth i Weinidogion Cymru—
(a)ar ffurf electronig, neu sicrhau ei bod yn hygyrch i Weinidogion Cymru ar ffurf electronig, a
(b)heb fod yn hwyrach na’r 31 Mai nesaf yn dilyn y dyddiad cyfeirio perthnasol.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod cyfeirio” (“reference period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 10 Medi 2021 ac sy’n gorffen â 31 Mawrth 2022 a phob cyfnod dilynol o 12 mis sy’n dechrau â 1 Ebrill;
ystyr “dyddiad cyfeirio” (“reference date”) yw 31 Mawrth.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2021