NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy’n ymwneud yng Nghymru â gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.
Mae rheoliad 3 yn pennu’r gweithgareddau hyn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (“Deddf 2006”) ac yn darparu i awdurdodau lleol fod yr awdurdodau trwyddedu. Canlyniad y pennu hwn, yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso, yw bod rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cynnal unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hyn yng Nghymru gael trwydded oddi wrth yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r gofynion hyn yn disodli’r gofynion, yng Nghymru, i gael trwydded o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.
Mae person sy’n cynnal unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hyn yng Nghymru heb drwydded o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd o dan adran 13(6) o Ddeddf 2006 ac yn agored i gael ei garcharu am gyfnod hyd at 6 mis, neu i gael dirwy, neu’r ddau. O dan adran 30 o Ddeddf 2006, caiff awdurdodau lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Ddeddf honno.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn nodi sut y caiff person wneud cais i’r awdurdod lleol am drwydded ac yn nodi materion y mae rhaid i awdurdod lleol fod wedi ei fodloni mewn cysylltiad â hwy wrth ystyried rhoi trwydded neu adnewyddu trwydded. Mae’n darparu i awdurdod lleol godi ffioedd i dalu’r costau y mae’n mynd iddynt wrth gyflawni’r swyddogaeth hon, gan ystyried cydymffurfedd deiliad trwydded â’r Rheoliadau hyn, gorfodi a gweinyddu. Mae’n pennu bod rhaid i awdurdod lleol osod amodau trwydded penodol ar bob trwydded a roddir neu a adnewyddir. Mae’n darparu bod rhaid i awdurdod lleol benodi arolygydd pan fydd yn ystyried bod hynny’n briodol, at ddiben sicrhau cydymffurfedd ag amodau’r drwydded. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn. Mae’n darparu pwerau i arolygwyr gymryd samplau o anifeiliaid.
Mae Rhan 3 yn nodi’r amgylchiadau a’r gweithdrefnau y caniateir atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded oddi tanynt. Mae hefyd yn darparu bod torri amod trwydded neu rwystro unrhyw arolygydd a benodir at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn yn drosedd ac mae’n cymhwyso pwerau perthnasol yn dilyn euogfarn sydd wedi eu cynnwys yn Neddf 2006.
Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau trwyddedu gan awdurdodau lleol.
Mae Rhan 5 yn gwneud diddymiadau, diwygiadau canlyniadol a darpariaeth arbed.
Mae Rhan 6 yn nodi bod rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth benodol i Weinidogion Cymru.
Mae Atodlen 1 yn disgrifio pob math o weithgaredd trwyddedadwy.
Mae Atodlen 2 yn nodi’r amodau cyffredinol sy’n gymwys i’r holl weithgareddau trwyddedadwy.
Mae Atodlen 3 yn nodi’r amodau penodol sy’n gymwys i bob gweithgaredd trwyddedadwy.
Mae Atodlen 4 yn rhestru personau na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded.
Mae Atodlen 5 yn darparu ar gyfer diddymiadau a diwygiadau canlyniadol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu drwy e-bostio cais i: LlesAnifeiliaidAnwes@llyw.cymru.