ATODLEN 2Amodau cyffredinol
Arddangos trwydded1
1
Rhaid i gopi o’r drwydded fod wedi ei arddangos yn glir ac yn amlwg ar unrhyw fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.
2
Rhaid i enw deiliad y drwydded, wedi ei ddilyn gan rif trwydded deiliad y drwydded, fod wedi eu harddangos yn glir ac yn amlwg ar unrhyw wefan a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r gweithgaredd trwyddedadwy.
Cofnodion2
1
Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl gofnodion y mae’n ofynnol i ddeiliad y drwydded eu cadw fel un o amodau’r drwydded ar gael ar unrhyw adeg i’w harolygu gan arolygydd ar ffurf weladwy a darllenadwy neu, pan fo unrhyw gofnodion o’r fath yn cael eu storio ar ffurf electronig, ar ffurf y gellir cyflwyno’r cofnodion ar ffurf weladwy a darllenadwy yn rhwydd ohoni.
2
Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw’r holl gofnodion o’r fath am 3 blynedd o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y crëwyd y cofnod.
Defnyddio anifeiliaid, nifer yr anifeiliaid a’r mathau o anifeiliaid3
1
Ni chaniateir defnyddio unrhyw anifeiliaid, neu unrhyw fathau o anifeiliaid, ac eithrio’r anifeiliaid hynny a’r mathau hynny o anifeiliaid a bennir yn y drwydded, mewn perthynas â’r gweithgaredd trwyddedadwy perthnasol.
2
Ni chaniateir i nifer yr anifeiliaid a gedwir ar gyfer y gweithgaredd trwyddedadwy ar unrhyw adeg fod yn fwy na’r uchafswm sy’n rhesymol gan ystyried y cyfleusterau a’r staffio ar unrhyw fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.
Staffio4
1
Rhaid i niferoedd digonol o bobl sy’n gymwys at y diben fod ar gael i ddarparu lefel o ofal sy’n sicrhau y diwellir anghenion lles pob anifail.
2
Rhaid i ddeiliad y drwydded neu reolwr dynodedig ac unrhyw staff a gyflogir i ofalu am yr anifeiliaid feddu ar gymhwysedd i adnabod ymddygiad arferol y rhywogaethau o dan eu gofal ac i adnabod arwyddion poen, dioddefaint, anaf, clefyd neu ymddygiad annormal, ac i gymryd camau priodol i liniaru neu atal yr effeithiau hynny.
3
Rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu polisi hyfforddiant ysgrifenedig, sy’n cydymffurfio â gofynion paragraff 9 ar gyfer yr holl staff, a sicrhau y rhoddir y polisi hwnnw ar waith.
Amgylchedd addas5
1
Rhaid i bob ardal, cyfarpar ac offer y mae gan yr anifeiliaid fynediad iddynt beri’r risgiau lleiaf posibl o achosi anaf, salwch a dianc, a rhaid iddynt fod wedi eu hadeiladu o ddeunydd cadarn, diogel a gwydn, bod mewn cyflwr da a bod wedi eu cynnal a’u cadw’n dda.
2
Rhaid cadw anifeiliaid ar bob adeg mewn amgylchedd sy’n addas i’w rhywogaeth a’u cyflwr (gan gynnwys statws iechyd ac oedran) mewn cysylltiad ag—
a
eu hanghenion ymddygiadol;
b
ei sefyllfa, faint o le sydd ar gael, ansawdd yr aer, glendid a’r tymheredd;
c
ansawdd y dŵr (pan fo’n berthnasol);
d
lefelau sŵn;
e
lefelau goleuni;
f
awyriad.
3
Rhaid i staff sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw’n lân ac yn gyfforddus.
4
Pan fo’n briodol i’r rhywogaeth, rhaid darparu ardal doiled a chyfleoedd i’r anifeiliaid fynd i’r toiled.
5
Rhaid i weithdrefnau fod yn eu lle i sicrhau bod y llety ac unrhyw gyfarpar ynddo yn cael eu glanhau mor aml ag y bo’n angenrheidiol, ac y cynhelir safonau hylendid da, a rhaid bod yn bosibl i lanhau a diheintio’r llety yn drwyadl.
6
Rhaid cludo a thrin yr anifeiliaid mewn modd (gan gynnwys, er enghraifft, mewn perthynas â llety, tymheredd, awyru ac amlder) sy’n eu diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau.
7
Rhaid i’r holl anifeiliaid fod yn hygyrch i’r staff ac ar gyfer arolygu a rhaid bod digon o oleuni i’r staff weithio’n effeithiol ac arsylwi ar yr anifeiliaid.
8
Rhaid darparu’r holl adnoddau mewn ffordd (er enghraifft o ran amlder, lleoliad a mynedfeydd) sy’n lleihau ymddygiad cystadleuol neu oruchafiaeth anifeiliaid unigol.
9
Ni chaniateir gadael yr anifeiliaid heb neb i ofalu amdanynt mewn unrhyw sefyllfa, nac am unrhyw gyfnod, sy’n debygol o beri gofid iddynt.
Deiet addas6
1
Rhaid darparu deiet i’r anifeiliaid sy’n addas o ran ansawdd, maint ac amlder, a rhaid cyflwyno unrhyw fwydydd anifeiliaid newydd yn raddol er mwyn caniatáu i’r anifeiliaid ddod i arfer â hwy.
2
Rhaid monitro cymeriant bwyd anifeiliaid a (pan fo’n briodol) dŵr, a rhaid cofnodi unrhyw broblemau a mynd i’r afael â hwy.
3
Rhaid i’r bwyd anifeiliaid â’r dŵr yfed a ddarperir i’r anifeiliaid fod heb ei ddifetha a heb ei halogi.
4
Rhaid gallu glanhau a diheintio daliedyddion bwyd anifeiliaid a dŵr yfed, neu rhaid iddynt fod yn rhai untro.
5
Rhaid darparu mynediad parhaus i ddŵr yfed ffres a glân mewn daliedydd addas i’r rhywogaethau sydd ei angen.
6
Pan fo bwyd anifeiliaid yn cael ei baratoi ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy, rhaid bod cyfleusterau hylan ar gael ar gyfer ei baratoi, gan gynnwys arwyneb gwaith, dŵr rhedegog poeth ac oer a chyfleusterau storio.
Monitro ymddygiad a hyfforddi anifeiliaid7
1
Rhaid cyfoethogi’r amgylchedd mewn ffordd weithredol ac effeithiol i’r anifeiliaid sydd yn unrhyw amgylcheddau dan do ac yn yr awyr agored.
2
O ran rhywogaethau y mae eu lles yn dibynnu’n rhannol ar ymarfer corff, rhaid darparu cyfleoedd ymarfer corff sy’n llesol i iechyd corfforol a meddyliol yr anifeiliaid, oni bai bod cyngor gan filfeddyg yn awgrymu fel arall.
3
Rhaid monitro ymddygiad yr anifeiliaid ac unrhyw newidiadau o ran eu hymddygiad a rhaid gofyn am gyngor, fel y bo’n briodol ac yn ddi-oed, gan filfeddyg neu, yn achos pysgod, gan unrhyw berson sy’n gymwys i roi cyngor o’r fath, os canfyddir ymddygiad andwyol neu annormal.
4
Pan fônt yn cael eu defnyddio, ni chaniateir i ddulliau hyfforddi neu gyfarpar hyfforddi achosi poen, dioddefaint neu anaf.
5
Rhaid rhoi cyfleoedd addas a digonol i bob anifail anaeddfed—
a
dysgu sut i ryngweithio â phobl, â’i rywogaeth ei hun ac ag anifeiliaid eraill pan fo rhyngweithio o’r fath yn fuddiol i’w les, a
b
ymgynefino â seiniau, gwrthrychau a gweithgareddau yn ei amgylchedd.
Trin anifeiliaid a rhyngweithio ag anifeiliaid8
1
Rhaid i’r holl bobl sy’n gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid fod yn gymwys o ran trin pob anifail yn briodol i’w ddiogelu rhag poen, dioddefaint, anaf neu glefyd.
2
Rhaid cadw’r anifeiliaid ar wahân neu mewn grwpiau cymdeithasol cydnaws addas sy’n briodol i’r rhywogaeth ac i’r anifeiliaid unigol ac ni chaniateir i unrhyw anifeiliaid o rywogaeth gymdeithasol gael eu hynysu na’u cadw ar wahân oddi wrth anifeiliaid eraill o’r un rywogaeth am unrhyw gyfnod sy’n hwy nag y bo’n angenrheidiol.
3
Rhaid i anifeiliaid gael cyfleoedd o leiaf bob dydd i ryngweithio â phobl pan fo’r rhyngweithio hwnnw yn llesol iddynt.
Diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau9
1
Rhaid i weithdrefnau ysgrifenedig—
a
bod yn eu lle ac ar waith o ran—
i
cyfundrefnau bwydo;
ii
cyfundrefnau glanhau;
iii
cludiant;
iv
atal clefydau a rheoli eu lledaeniad;
v
monitro a sicrhau iechyd a lles yr holl anifeiliaid;
vi
anifail yn marw neu yn dianc (gan gynnwys storio carcasau);
b
bod yn eu lle o ran gofalu am yr anifeiliaid yn dilyn atal dros dro neu ddirymu’r drwydded neu yn ystod argyfwng ac ar ôl argyfwng.
2
Rhaid sicrhau bod yr holl bobl sy’n gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid yn llwyr ymwybodol o’r gweithdrefnau hyn.
3
Rhaid i gyfleusterau ynysu priodol, mewn cyfleusterau hunangynhwysol ar wahân, fod ar gael i ofalu am anifeiliaid sâl, anifeiliaid a anafwyd neu anifeiliaid a all fod yn heintus.
4
Rhaid cymryd pob rhagofal rhesymol i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus, pathogenau a pharasitiaid ymhlith yr anifeiliaid ac ymhlith pobl.
5
Rhaid storio a gwaredu’r holl garthion a’r holl wasarn budr mewn modd hylan ac yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.
6
Rhaid i anifeiliaid sy’n sâl neu wedi eu hanafu gael sylw prydlon gan filfeddyg neu, yn achos pysgod, gan berson cymwys priodol, a rhaid dilyn cyngor y milfeddyg hwnnw neu, yn achos pysgod, y person cymwys hwnnw.
7
Pan fo’n angenrheidiol, rhaid i anifeiliaid dderbyn triniaeth ataliol gan berson cymwys priodol.
8
Rhaid i ddeiliad y drwydded gofrestru â milfeddyg sy’n meddu ar lefel briodol o brofiad ym maes gofynion iechyd a lles unrhyw anifeiliaid a bennir yn y drwydded, a rhaid i fanylion cyswllt y milfeddyg hwnnw fod ar gael yn rhwydd i’r holl staff ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.
9
Rhaid storio meddyginiaethau ar brescripsiwn yn saff ac yn ddiogel er mwyn eu diogelu rhag mynediad heb awdurdod, ar y tymheredd cywir, a rhaid iddynt gael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r milfeddyg.
10
Rhaid i feddyginiaethau ac eithrio meddyginiaethau ar brescripsiwn gael eu storio, eu defnyddio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr neu’r milfeddyg.
11
Rhaid i gynnyrch glanhau fod yn addas, yn ddiogel ac yn effeithiol yn erbyn pathogenau sy’n peri risg i’r anifeiliaid, a rhaid iddynt gael eu defnyddio, eu storio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’u defnyddio mewn ffordd sy’n atal gofid neu ddioddefaint i’r anifeiliaid.
12
Ni chaniateir i unrhyw berson ewthaneiddio anifail ac eithrio milfeddyg neu berson a awdurdodwyd gan filfeddyg yn berson cymwys at y diben hwnnw neu yn achos pysgod, person sy’n gymwys at y diben hwnnw.
13
Rhaid archwilio pob anifail o leiaf unwaith bob dydd, ac yn fwy rheolaidd fel y bo’n angenrheidiol i chwilio am unrhyw arwyddion poen, dioddefaint, anafiadau, clefydau neu ymddygiad annormal, a rhaid archwilio anifeiliaid hyglwyf yn fwy aml.
14
Rhaid cofnodi unrhyw arwyddion poen, dioddefaint, anafiadau, clefydau neu ymddygiad annormal, a rhaid gofyn am gyngor, a chyngor pellach (os oes angen) gan filfeddyg (neu yn achos pysgod, gan berson cymwys priodol) a dilyn y cyngor hwnnw.
Argyfyngau10
1
Rhaid i gynllun argyfwng ysgrifenedig sy’n dderbyniol i’r awdurdod lleol fod yn ei le, yn hysbys ac ar gael i’r holl staff ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy, a rhaid dilyn y cynllun hwnnw pan fo’n angenrheidiol i sicrhau y cymerir camau priodol i ddiogelu yr holl bobl ac anifeiliaid ar y fangre yn achos tân neu pe bai systemau gwresogi, awyru ac awyriad neu hidlo hanfodol yn torri i lawr, neu argyfyngau eraill yn codi.
2
Rhaid i’r cynllun gynnwys manylion y camau sydd i’w cymryd mewn argyfwng i fynd â’r anifeiliaid ymaith pe bai’r fangre yn mynd i gyflwr nad yw’n addas i fyw ynddo, a rhestr o rifau ffôn mewn argyfwng sy’n cynnwys y gwasanaeth tân a’r heddlu.
3
Rhaid i ddrysau a gatiau allanol fod yn gloadwy.
4
Rhaid i ddeiliad allweddi dynodedig sydd â mynediad i’r holl fannau i anifeiliaid ar bob adeg fod o fewn pellter teithio rhesymol i’r fangre ac ar gael i fod yn bresennol mewn argyfwng.