Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau
6.—(1) Rhaid i’r holl anifeiliaid sydd ar werth fod mewn cyflwr da o ran eu hiechyd.
(2) Ni chaniateir i unrhyw anifail sydd â chyflwr sy’n debygol o effeithio ar ansawdd ei fywyd gael ei symud, ei drosglwyddo neu ei gynnig ar werth, ond caniateir ei symud i gyfleuster ynysu neu gyfleuster gofal milfeddygol os yw hynny’n angenrheidiol hyd nes i’r anifail wella.
(3) Wrth drefnu i dderbyn anifeiliaid, rhaid i ddeiliad y drwydded wneud ymdrechion rhesymol i sicrhau y cânt eu cludo mewn dull addas.
(4) Rhaid cludo anifeiliaid neu eu traddodi i brynwyr mewn cynwysyddion addas ar gyfer y rhywogaeth a hyd disgwyliedig y daith.
Back to top