Rheoliad 2
ATODLEN 1Gweithgareddau trwyddedadwy
RHAN 1Prawf busnes
1. Mae’r amgylchiadau y mae rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu pa un a yw gweithgaredd yn cael ei gynnal wrth gynnal busnes at ddibenion yr Atodlen hon yn cynnwys, er enghraifft, pa un a yw’r gweithredwr—
(a)yn gwneud unrhyw werthiant drwy’r gweithgaredd, neu fel arall yn cynnal y gweithgaredd gyda’r bwriad o wneud elw, neu
(b)yn ennill unrhyw gomisiwn neu ffi o’r gweithgaredd.
RHAN 2Gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes
2. Mae gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes (neu gyda’r bwriad o’u hailwerthu yn ddiweddarach fel anifeiliaid anwes) wrth gynnal busnes yn cynnwys cadw anifeiliaid wrth gynnal busnes gyda’r bwriad o’u gwerthu neu eu hailwerthu.
3. Nid yw gweithgaredd a ddisgrifir ym mharagraff 2 yn cynnwys—
(a)gwerthu anifeiliaid wrth gynnal busnes cynhyrchu dyframaethol a awdurdodir o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009(), neu
(b)person sydd yn dal trwydded dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 sydd yn gwerthu:
(i)ci bach y mae’r person wedi ei fridio ei hunain o’r fangre ble magwyd y ci bach hwnnw; neu
(ii)ci llawndwf y mae’r person wedi ei fridio eu hunain.
Rheoliad 2
ATODLEN 2Amodau cyffredinol
Arddangos trwydded
1.—(1) Rhaid i gopi o’r drwydded fod wedi ei arddangos yn glir ac yn amlwg ar unrhyw fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.
(2) Rhaid i enw deiliad y drwydded, wedi ei ddilyn gan rif trwydded deiliad y drwydded, fod wedi eu harddangos yn glir ac yn amlwg ar unrhyw wefan a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r gweithgaredd trwyddedadwy.
Cofnodion
2.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl gofnodion y mae’n ofynnol i ddeiliad y drwydded eu cadw fel un o amodau’r drwydded ar gael ar unrhyw adeg i’w harolygu gan arolygydd ar ffurf weladwy a darllenadwy neu, pan fo unrhyw gofnodion o’r fath yn cael eu storio ar ffurf electronig, ar ffurf y gellir cyflwyno’r cofnodion ar ffurf weladwy a darllenadwy yn rhwydd ohoni.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw’r holl gofnodion o’r fath am 3 blynedd o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y crëwyd y cofnod.
Defnyddio anifeiliaid, nifer yr anifeiliaid a’r mathau o anifeiliaid
3.—(1) Ni chaniateir defnyddio unrhyw anifeiliaid, neu unrhyw fathau o anifeiliaid, ac eithrio’r anifeiliaid hynny a’r mathau hynny o anifeiliaid a bennir yn y drwydded, mewn perthynas â’r gweithgaredd trwyddedadwy perthnasol.
(2) Ni chaniateir i nifer yr anifeiliaid a gedwir ar gyfer y gweithgaredd trwyddedadwy ar unrhyw adeg fod yn fwy na’r uchafswm sy’n rhesymol gan ystyried y cyfleusterau a’r staffio ar unrhyw fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.
Staffio
4.—(1) Rhaid i niferoedd digonol o bobl sy’n gymwys at y diben fod ar gael i ddarparu lefel o ofal sy’n sicrhau y diwellir anghenion lles pob anifail.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded neu reolwr dynodedig ac unrhyw staff a gyflogir i ofalu am yr anifeiliaid feddu ar gymhwysedd i adnabod ymddygiad arferol y rhywogaethau o dan eu gofal ac i adnabod arwyddion poen, dioddefaint, anaf, clefyd neu ymddygiad annormal, ac i gymryd camau priodol i liniaru neu atal yr effeithiau hynny.
(3) Rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu polisi hyfforddiant ysgrifenedig, sy’n cydymffurfio â gofynion paragraff 9 ar gyfer yr holl staff, a sicrhau y rhoddir y polisi hwnnw ar waith.
Amgylchedd addas
5.—(1) Rhaid i bob ardal, cyfarpar ac offer y mae gan yr anifeiliaid fynediad iddynt beri’r risgiau lleiaf posibl o achosi anaf, salwch a dianc, a rhaid iddynt fod wedi eu hadeiladu o ddeunydd cadarn, diogel a gwydn, bod mewn cyflwr da a bod wedi eu cynnal a’u cadw’n dda.
(2) Rhaid cadw anifeiliaid ar bob adeg mewn amgylchedd sy’n addas i’w rhywogaeth a’u cyflwr (gan gynnwys statws iechyd ac oedran) mewn cysylltiad ag—
(a)eu hanghenion ymddygiadol;
(b)ei sefyllfa, faint o le sydd ar gael, ansawdd yr aer, glendid a’r tymheredd;
(c)ansawdd y dŵr (pan fo’n berthnasol);
(d)lefelau sŵn;
(e)lefelau goleuni;
(f)awyriad.
(3) Rhaid i staff sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw’n lân ac yn gyfforddus.
(4) Pan fo’n briodol i’r rhywogaeth, rhaid darparu ardal doiled a chyfleoedd i’r anifeiliaid fynd i’r toiled.
(5) Rhaid i weithdrefnau fod yn eu lle i sicrhau bod y llety ac unrhyw gyfarpar ynddo yn cael eu glanhau mor aml ag y bo’n angenrheidiol, ac y cynhelir safonau hylendid da, a rhaid bod yn bosibl i lanhau a diheintio’r llety yn drwyadl.
(6) Rhaid cludo a thrin yr anifeiliaid mewn modd (gan gynnwys, er enghraifft, mewn perthynas â llety, tymheredd, awyru ac amlder) sy’n eu diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau.
(7) Rhaid i’r holl anifeiliaid fod yn hygyrch i’r staff ac ar gyfer arolygu a rhaid bod digon o oleuni i’r staff weithio’n effeithiol ac arsylwi ar yr anifeiliaid.
(8) Rhaid darparu’r holl adnoddau mewn ffordd (er enghraifft o ran amlder, lleoliad a mynedfeydd) sy’n lleihau ymddygiad cystadleuol neu oruchafiaeth anifeiliaid unigol.
(9) Ni chaniateir gadael yr anifeiliaid heb neb i ofalu amdanynt mewn unrhyw sefyllfa, nac am unrhyw gyfnod, sy’n debygol o beri gofid iddynt.
Deiet addas
6.—(1) Rhaid darparu deiet i’r anifeiliaid sy’n addas o ran ansawdd, maint ac amlder, a rhaid cyflwyno unrhyw fwydydd anifeiliaid newydd yn raddol er mwyn caniatáu i’r anifeiliaid ddod i arfer â hwy.
(2) Rhaid monitro cymeriant bwyd anifeiliaid a (pan fo’n briodol) dŵr, a rhaid cofnodi unrhyw broblemau a mynd i’r afael â hwy.
(3) Rhaid i’r bwyd anifeiliaid â’r dŵr yfed a ddarperir i’r anifeiliaid fod heb ei ddifetha a heb ei halogi.
(4) Rhaid gallu glanhau a diheintio daliedyddion bwyd anifeiliaid a dŵr yfed, neu rhaid iddynt fod yn rhai untro.
(5) Rhaid darparu mynediad parhaus i ddŵr yfed ffres a glân mewn daliedydd addas i’r rhywogaethau sydd ei angen.
(6) Pan fo bwyd anifeiliaid yn cael ei baratoi ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy, rhaid bod cyfleusterau hylan ar gael ar gyfer ei baratoi, gan gynnwys arwyneb gwaith, dŵr rhedegog poeth ac oer a chyfleusterau storio.
Monitro ymddygiad a hyfforddi anifeiliaid
7.—(1) Rhaid cyfoethogi’r amgylchedd mewn ffordd weithredol ac effeithiol i’r anifeiliaid sydd yn unrhyw amgylcheddau dan do ac yn yr awyr agored.
(2) O ran rhywogaethau y mae eu lles yn dibynnu’n rhannol ar ymarfer corff, rhaid darparu cyfleoedd ymarfer corff sy’n llesol i iechyd corfforol a meddyliol yr anifeiliaid, oni bai bod cyngor gan filfeddyg yn awgrymu fel arall.
(3) Rhaid monitro ymddygiad yr anifeiliaid ac unrhyw newidiadau o ran eu hymddygiad a rhaid gofyn am gyngor, fel y bo’n briodol ac yn ddi-oed, gan filfeddyg neu, yn achos pysgod, gan unrhyw berson sy’n gymwys i roi cyngor o’r fath, os canfyddir ymddygiad andwyol neu annormal.
(4) Pan fônt yn cael eu defnyddio, ni chaniateir i ddulliau hyfforddi neu gyfarpar hyfforddi achosi poen, dioddefaint neu anaf.
(5) Rhaid rhoi cyfleoedd addas a digonol i bob anifail anaeddfed—
(a)dysgu sut i ryngweithio â phobl, â’i rywogaeth ei hun ac ag anifeiliaid eraill pan fo rhyngweithio o’r fath yn fuddiol i’w les, a
(b)ymgynefino â seiniau, gwrthrychau a gweithgareddau yn ei amgylchedd.
Trin anifeiliaid a rhyngweithio ag anifeiliaid
8.—(1) Rhaid i’r holl bobl sy’n gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid fod yn gymwys o ran trin pob anifail yn briodol i’w ddiogelu rhag poen, dioddefaint, anaf neu glefyd.
(2) Rhaid cadw’r anifeiliaid ar wahân neu mewn grwpiau cymdeithasol cydnaws addas sy’n briodol i’r rhywogaeth ac i’r anifeiliaid unigol ac ni chaniateir i unrhyw anifeiliaid o rywogaeth gymdeithasol gael eu hynysu na’u cadw ar wahân oddi wrth anifeiliaid eraill o’r un rywogaeth am unrhyw gyfnod sy’n hwy nag y bo’n angenrheidiol.
(3) Rhaid i anifeiliaid gael cyfleoedd o leiaf bob dydd i ryngweithio â phobl pan fo’r rhyngweithio hwnnw yn llesol iddynt.
Diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau
9.—(1) Rhaid i weithdrefnau ysgrifenedig—
(a)bod yn eu lle ac ar waith o ran—
(i)cyfundrefnau bwydo;
(ii)cyfundrefnau glanhau;
(iii)cludiant;
(iv)atal clefydau a rheoli eu lledaeniad;
(v)monitro a sicrhau iechyd a lles yr holl anifeiliaid;
(vi)anifail yn marw neu yn dianc (gan gynnwys storio carcasau);
(b)bod yn eu lle o ran gofalu am yr anifeiliaid yn dilyn atal dros dro neu ddirymu’r drwydded neu yn ystod argyfwng ac ar ôl argyfwng.
(2) Rhaid sicrhau bod yr holl bobl sy’n gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid yn llwyr ymwybodol o’r gweithdrefnau hyn.
(3) Rhaid i gyfleusterau ynysu priodol, mewn cyfleusterau hunangynhwysol ar wahân, fod ar gael i ofalu am anifeiliaid sâl, anifeiliaid a anafwyd neu anifeiliaid a all fod yn heintus.
(4) Rhaid cymryd pob rhagofal rhesymol i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus, pathogenau a pharasitiaid ymhlith yr anifeiliaid ac ymhlith pobl.
(5) Rhaid storio a gwaredu’r holl garthion a’r holl wasarn budr mewn modd hylan ac yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.
(6) Rhaid i anifeiliaid sy’n sâl neu wedi eu hanafu gael sylw prydlon gan filfeddyg neu, yn achos pysgod, gan berson cymwys priodol, a rhaid dilyn cyngor y milfeddyg hwnnw neu, yn achos pysgod, y person cymwys hwnnw.
(7) Pan fo’n angenrheidiol, rhaid i anifeiliaid dderbyn triniaeth ataliol gan berson cymwys priodol.
(8) Rhaid i ddeiliad y drwydded gofrestru â milfeddyg sy’n meddu ar lefel briodol o brofiad ym maes gofynion iechyd a lles unrhyw anifeiliaid a bennir yn y drwydded, a rhaid i fanylion cyswllt y milfeddyg hwnnw fod ar gael yn rhwydd i’r holl staff ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.
(9) Rhaid storio meddyginiaethau ar brescripsiwn yn saff ac yn ddiogel er mwyn eu diogelu rhag mynediad heb awdurdod, ar y tymheredd cywir, a rhaid iddynt gael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r milfeddyg.
(10) Rhaid i feddyginiaethau ac eithrio meddyginiaethau ar brescripsiwn gael eu storio, eu defnyddio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr neu’r milfeddyg.
(11) Rhaid i gynnyrch glanhau fod yn addas, yn ddiogel ac yn effeithiol yn erbyn pathogenau sy’n peri risg i’r anifeiliaid, a rhaid iddynt gael eu defnyddio, eu storio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’u defnyddio mewn ffordd sy’n atal gofid neu ddioddefaint i’r anifeiliaid.
(12) Ni chaniateir i unrhyw berson ewthaneiddio anifail ac eithrio milfeddyg neu berson a awdurdodwyd gan filfeddyg yn berson cymwys at y diben hwnnw neu yn achos pysgod, person sy’n gymwys at y diben hwnnw.
(13) Rhaid archwilio pob anifail o leiaf unwaith bob dydd, ac yn fwy rheolaidd fel y bo’n angenrheidiol i chwilio am unrhyw arwyddion poen, dioddefaint, anafiadau, clefydau neu ymddygiad annormal, a rhaid archwilio anifeiliaid hyglwyf yn fwy aml.
(14) Rhaid cofnodi unrhyw arwyddion poen, dioddefaint, anafiadau, clefydau neu ymddygiad annormal, a rhaid gofyn am gyngor, a chyngor pellach (os oes angen) gan filfeddyg (neu yn achos pysgod, gan berson cymwys priodol) a dilyn y cyngor hwnnw.
Argyfyngau
10.—(1) Rhaid i gynllun argyfwng ysgrifenedig sy’n dderbyniol i’r awdurdod lleol fod yn ei le, yn hysbys ac ar gael i’r holl staff ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy, a rhaid dilyn y cynllun hwnnw pan fo’n angenrheidiol i sicrhau y cymerir camau priodol i ddiogelu yr holl bobl ac anifeiliaid ar y fangre yn achos tân neu pe bai systemau gwresogi, awyru ac awyriad neu hidlo hanfodol yn torri i lawr, neu argyfyngau eraill yn codi.
(2) Rhaid i’r cynllun gynnwys manylion y camau sydd i’w cymryd mewn argyfwng i fynd â’r anifeiliaid ymaith pe bai’r fangre yn mynd i gyflwr nad yw’n addas i fyw ynddo, a rhestr o rifau ffôn mewn argyfwng sy’n cynnwys y gwasanaeth tân a’r heddlu.
(3) Rhaid i ddrysau a gatiau allanol fod yn gloadwy.
(4) Rhaid i ddeiliad allweddi dynodedig sydd â mynediad i’r holl fannau i anifeiliaid ar bob adeg fod o fewn pellter teithio rhesymol i’r fangre ac ar gael i fod yn bresennol mewn argyfwng.
Rheoliad 2
ATODLEN 3Amodau penodol: gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes
Dehongli
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “darpar berchennog” (“prospective owner”) yw person sy’n prynu anifail i’w gadw neu i gael ei gadw fel anifail anwes;
ystyr “mangre” (“premises”) yw’r fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy o werthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes (neu gyda’r bwriad o’u hailwerthu’n ddiweddarach fel anifeiliaid anwes);
ystyr “prynwr” (“purchaser”) yw person sy’n prynu anifail i’w gadw fel anifail anwes neu gyda’r bwriad o’i ailwerthu’n ddiweddarach fel anifail anwes.
Cofnodion a hysbysebion
2.—(1) Rhaid cadw cofrestr o’r holl anifeiliaid, neu yn achos pysgod, yr holl grwpiau o bysgod, ar y fangre, a rhaid iddi gynnwys—
(a)enw llawn cyflenwr yr anifail,
(b)rhyw yr anifail (pan fo’n hysbys),
(c)(ac eithrio yn achos pysgod) oedran yr anifail (pan fo’n hysbys),
(d)manylion unrhyw driniaeth filfeddygol (pan fo’n hysbys),
(e)dyddiad geni’r anifail neu, os caffaelwyd yr anifail gan ddeiliad y drwydded, dyddiad ei gaffael,
(f)dyddiad gwerthu’r anifail gan ddeiliad y drwydded, ac
(g)dyddiad marwolaeth yr anifail (os yw’n gymwys).
(2) Pan fo anifail yn cael unrhyw driniaeth feddygol—
(a)rhaid nodi’r ffaith honno yn glir—
(i)yn ysgrifenedig nesaf ato, neu
(ii)(pan fo’n briodol) drwy ei labelu yn unol â hynny, a
(b)ni chaniateir ei werthu.
(3) Rhaid i unrhyw hysbyseb ar gyfer gwerthu anifail—
(a)cynnwys rhif trwydded deiliad y drwydded,
(b)pennu’r awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded,
(c)cynnwys ffotograff adnabyddadwy o’r anifail sy’n cael ei hysbysebu,
(d)(ac eithrio yn achos pysgod) dangos oedran yr anifail sy’n cael ei hysbysebu,
(e)datgan ym mha wlad y mae’r anifail yn byw ac y mae’n cael ei werthu ohoni, ac
(f)datgan y wlad y mae’r anifail yn tarddu ohoni.
Darpar werthiannau: gofal anifeiliaid anwes a chyngor ynghylch hynny
3.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded a’r holl staff sicrhau bod unrhyw gyfarpar ac ategolion sy’n cael eu gwerthu gydag anifail yn addas i’r anifail.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded a’r holl staff sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i’r darpar berchennog ar ofal priodol yr anifail gan gynnwys mewn perthynas â—
(a)bwydo,
(b)llety,
(c)trin,
(d)hwsmonaeth,
(e)disgwyliad oes ei rywogaeth,
(f)darparu ategolion addas, ac
(g)gofal milfeddygol.
(3) Rhaid i ddeunyddiau cyfeirio priodol ynghylch gofal yr holl anifeiliaid sydd ar werth gael eu harddangos a’u darparu i’r darpar berchennog.
(4) Rhaid bod deiliad y drwydded a’r holl staff wedi cael hyfforddiant addas i roi cyngor i ddarpar berchnogion ynghylch yr anifeiliaid sy’n cael eu gwerthu.
(5) Rhaid i ddeiliad y drwydded a’r holl staff sicrhau bod y prynwr yn cael ei hysbysu ynghylch y wlad y mae’r anifail yn tarddu ohoni a’i rywogaeth, a phan fo’n hysbys, oedran, rhyw a chofnod milfeddygol yr anifail sy’n cael ei werthu.
Llety addas
4.—(1) Rhaid cadw anifeiliaid mewn llety sy’n lleihau straen, gan gynnwys straen a achosir gan anifeiliaid eraill a’r cyhoedd.
(2) Pan fo aelodau o’r cyhoedd yn gallu gweld yr anifeiliaid neu ddod i gysylltiad â hwy, rhaid bod arwyddion wedi eu gosod i annog pobl i beidio ag aflonyddu ar yr anifeiliaid.
(3) Rhaid cadw anifeiliaid gwyllt peryglus (os oes rhai) mewn caetsys sy’n ddiogel ac y gellir eu cloi ac sy’n addas ar gyfer y rhywogaeth.
(4) At ddibenion is-baragraff (3), ystyr “anifail gwyllt peryglus” yw anifail o fath a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976().
Gwerthu anifeiliaid
5.—(1) Ni chaniateir i unrhyw anifail o’r disgrifiadau a ganlyn gael ei werthu fel anifail anwes, neu ei werthu gyda’r bwriad o’i ailwerthu fel anifail anwes, gan ddeiliad y drwydded neu ar ei ran—
(a)mamaliaid heb eu diddyfnu;
(b)mamaliaid a ddiddyfnwyd ar oedran na ddylent fod wedi eu diddyfnu arno;
(c)anifeiliaid nad ydynt yn famaliaid nad ydynt yn gallu bwydo eu hunain;
(d)cŵn bach, cathod bach, ffuredau neu gwningod iau nag 8 wythnos oed;
(e)cŵn bach neu gathod bach nad oeddent wedi eu bridio gan ddeiliad y drwydded yn y fangre.
(2) Rhaid cwblhau gwerthiant ci yng ngŵydd y prynwr ar y fangre.
Diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau
6.—(1) Rhaid i’r holl anifeiliaid sydd ar werth fod mewn cyflwr da o ran eu hiechyd.
(2) Ni chaniateir i unrhyw anifail sydd â chyflwr sy’n debygol o effeithio ar ansawdd ei fywyd gael ei symud, ei drosglwyddo neu ei gynnig ar werth, ond caniateir ei symud i gyfleuster ynysu neu gyfleuster gofal milfeddygol os yw hynny’n angenrheidiol hyd nes i’r anifail wella.
(3) Wrth drefnu i dderbyn anifeiliaid, rhaid i ddeiliad y drwydded wneud ymdrechion rhesymol i sicrhau y cânt eu cludo mewn dull addas.
(4) Rhaid cludo anifeiliaid neu eu traddodi i brynwyr mewn cynwysyddion addas ar gyfer y rhywogaeth a hyd disgwyliedig y daith.
Rheoliad 10
ATODLEN 4Personau na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded
1. Person a oedd ar unrhyw adeg yn ddeiliad trwydded a ddirymwyd o dan reoliad 14 o’r Rheoliadau hyn.
2. Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 33 o Ddeddf Llesiant Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011().
3. Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 34 o’r Ddeddf.
4. Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 40(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006().
5. Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 6(2) o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976() rhag cadw anifail gwyllt peryglus.
6. Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 5(3) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951() rhag cadw siop anifeiliaid anwes.
7. Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954() rhag cael gwarchodaeth anifail.
8. Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid 1911() rhag bod yn berchen ar anifail.
Rheoliad 24
ATODLEN 5Diddymiadau a diwygiadau canlyniadol
Deddf Anifeiliaid Anwes 1951
1. Mae adran 1(1) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (cyfyngiad ar gadw siop anifeiliaid anwes) yn peidio â chael effaith o ran Cymru.
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Lloegr) 2018
2. Yn Atodlen 6(1)(c)(ii) i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Lloegr) 2018(), yn lle “the Pet Animals Act 1951 to keep the shop” rhodder “regulations 2 and 4 of the Animal Welfare (Licensing of Activities Involving Animals) (Wales) Regulations 2021”.