2021 Rhif 61 (Cy. 14)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 20161, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.

Y diwrnod penodedig i adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf ddod i rym2

Y diwrnod penodedig i adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) ddod i rym yw 21 Ionawr 2021.

Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf ar 21 Ionawr 2021. Mae adran 1(2) yn darparu bod rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 25B(3)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”) yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol. Mae adran 1(3) yn mewnosod cofnod ar gyfer “nurse staffing level” yn y tabl yn adran 207 o Ddeddf 2006 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 1 (yn rhannol)

3 Awst 2016

2016/829 (Cy. 208) (C. 59)

Adran 1 (yn rhannol)

6 Ebrill 2017

2016/829 (Cy. 208) (C. 59)

Adran 1 (yn rhannol)

6 Ebrill 2018

2016/829 (Cy. 208) (C. 59)

Gweler hefyd adran 2(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 21 Mawrth 2016 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).