Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
20th Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
2. Y diwrnod penodedig i adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) ddod i rym yw 21 Ionawr 2021.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf ar 21 Ionawr 2021. Mae adran 1(2) yn darparu bod rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 25B(3)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”) yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol. Mae adran 1(3) yn mewnosod cofnod ar gyfer “nurse staffing level” yn y tabl yn adran 207 o Ddeddf 2006 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 (yn rhannol) | 3 Awst 2016 | 2016/829 (Cy. 208) (C. 59) |
Adran 1 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2017 | 2016/829 (Cy. 208) (C. 59) |
Adran 1 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2018 | 2016/829 (Cy. 208) (C. 59) |
Gweler hefyd adran 2(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 21 Mawrth 2016 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).