2021 Rhif 838 (Cy. 195)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 5 Awst 2021.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 20192

1

Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 20192 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle Atodlen 1 rhodder—

ATODLEN 1Ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion

Rheoliad 3(2)

Math o arolygiad

Ffi

Arolygiad ffisegol a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw—

(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf;

£49.50

(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw

£12.38

3

Yn lle Atodlen 4A rhodder—

ATODLEN 4AFfioedd mewn cysylltiad â chais am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio: Cymru

Rheoliad 3(5A)

Gwasanaeth

Ffi

Ystyried cais, gan gynnwys dyroddi, pan fo’n briodol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio

£21.00

Archwilio neu brofi pren, cynhyrchion pren, rhisgl wedi ei wahanu neu beiriannau coedwigaeth a ddefnyddiwyd a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa)—

(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf;

£37.80

(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw

£10.50

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 (Cy. 114)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd am wasanaethau mewn perthynas ag awdurdodiadau pasbortau planhigion a cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) i adlewyrchu cynnydd chwyddiannol o ran y gost o ddarparu’r gwasanaethau hynny ers cyflwyno’r ffioedd hynny. Mae’r ffioedd sy’n ymwneud ag awdurdodiadau pasbortau planhigion wedi cynyddu 34% ar gyfer y cyfnod rhwng 2006 a 2020, tra bod y ffioedd ar gyfer tystysgrifau allforio wedi cynyddu 40% ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2020 (yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.