Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 862 (Cy. 201)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 3.51 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.30 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

17 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2)) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16(1)—

(a)o dan bennawd “Cam 2”, ar ôl “coronafeirws” mewnosoder “, gan gynnwys gwybodaeth i’r rheini sy’n gweithio yn y fangre ynglŷn â’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a nodir o dan yr asesiad a gynhelir o dan Gam 1, a’r mesurau sydd i’w cymryd o dan Gam 3 a Cham 4 i leihau’r risg”;

(b)o dan bennawd “Cam 3”—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “bersonau” mewnosoder “o dan do”;

(ii)yn is-baragraff (b), ar ôl “aros” rhodder “o dan do”;

(c)o dan bennawd “Cam 4”—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “yn agos at ei gilydd” rhodder “yn y fangre”;

(ii)yn is-baragraff (c), yn y geiriau o flaen paragraff (i)—

(aa)yn lle “agos wyneb yn wyneb” rhodder “corfforol agos”;

(bb)ar ôl “fangre” mewnosoder “, yn benodol rhyngweithio wyneb yn wyneb”.

(3Yn rheoliad 17(4A)—

(a)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Nid yw is-baragraffau (b)(i) a (ii) o baragraff (1)” rhodder “Nid yw paragraff (1)(b)”;

(b)yn is-baragraff (b), hepgorer “sy’n cael ei gynnal yn yr awyr agored”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad o dan do mewn annedd breifat sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai—

(a)bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu

(b)pan na fo’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, fod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.;

(ii)hepgorer is-baragraff (1A);

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “(1A)” rhodder “(1)”;

(bb)ym mharagraff (a), yn lle “30 o aelwydydd” rhodder “6 aelwyd”;

(iv)hepgorer is-baragraff (5)(d);

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd o dan do ac eithrio mewn annedd breifat neu mewn llety gwyliau neu lety teithio sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.;

(ii)yn lle is-baragraff (1A) rhodder—

(1A) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd o dan do mewn llety gwyliau neu lety teithio sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai—

(a)bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu

(b)pan na fo’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, fod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.;

(iii)hepgorer is-baragraff (1B);

(iv)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “(1B)” rhodder “(1A)”;

(bb)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu;

(v)yn is-baragraff (5)—

(aa)yn lle paragraff (i) rhodder—

(i)cymryd rhan mewn cynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig sy’n digwydd i unrhyw raddau o dan do ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio, yn mynd i gynulliad neu ddigwyddiad o’r fath neu’n hwyluso cynulliad neu ddigwyddiad o’r fath;;

(bb)hepgorer paragraffau (j) a (k);

(cc)ym mharagraff (ka)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “blant ysgol gynradd” rhodder “ddim mwy na 30 o blant”;

(ii)yn lle paragraff (i) rhodder—

(i)cynulliad rheoleiddiedig er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);;

(vi)hepgorer is-baragraff (6);

(c)ym mharagraff 4—

(i)yn is-baragraff (1)—

(aa)ym mharagraff (a), ar y diwedd mewnosoder “a”;

(bb)hepgorer paragraff (b), gan gynnwys yr “ac” ar y diwedd;

(cc)ym mharagraff (c), ar y dechrau mewnosoder “pan fo’r digwyddiad yn cael ei gynnal i unrhyw raddau o dan do,”;

(ii)yn is-baragraff (1A)—

(aa)ym mharagraff (a), yn lle “10000” rhodder “1000”;

(bb)ym mharagraff (b), yn lle “4000” rhodder “200”;

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)hepgorer paragraffau (f) ac (ga);

(bb)ym mharagraff (k), yn lle “lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.” rhodder

(i)lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol,

(ii)lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu

(iii)pan na fo’r holl bersonau sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.;

(d)ym mharagraff 7(1), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “, 10 neu 11” rhodder “neu 10”;

(e)hepgorer paragraff 11.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 3.51 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau (sy’n nodi’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n cael effaith yng Nghymru ar hyn o bryd fel ardal Lefel Rhybudd 1) er mwyn—

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliadau 16 a 17 o’r prif Reoliadau.

Mae’r diwygiadau i reoliad 16 yn darparu bod rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig ddarparu gwybodaeth i bersonau sy’n gweithio yn y fangre ynghylch yr asesiad o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’r mesurau sydd i’w cymryd i leihau’r risg. Maent hefyd yn darparu nad yw’r gofyniad penodol i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y fangre ond yn gymwys bellach i fangreoedd o dan do (ond mae dyletswydd o hyd i gymryd mesurau rhesymol i leihau risgiau mewn mangreoedd awyr agored, a all gynnwys cyfyngu ar ryngweithio corfforol agos rhwng pobl yn y fangre).

Mae’r diwygiadau i reoliad 17 yn darparu nad yw’n ofynnol i bersonau sy’n mynd i gynulliadau neu ddigwyddiadau rheoleiddiedig mewn mangreoedd trwyddedig eistedd wrth fwyta neu yfed.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill, gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.