Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Close

Print Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 9 (Cy. 4)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021

Gwnaed

6 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

7 Ionawr 2021

Yn dod i rym

28 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1ENWI A CHYCHWYN

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ionawr 2021.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (FFIOEDD A DYFARNIADAU) (CYMRU) 2007

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(ch).

4.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(ch).

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (ATHROFA BRIFYSGOL EWROPEAIDD) (CYMRU) 2014

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

5.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(6) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 6 i 11.

6.  Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.

7.  Ar ôl rheoliad 6(9A) mewnosoder—

(9B) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(7),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

8.  Yn rheoliad 6(11), ar ôl “(9A),” mewnosoder “(9B),”.

9.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid) mewnosoder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

4ZA.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person sydd â chaniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.

10.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

11.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

RHAN 4DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG UWCH (CYRSIAU CYMHWYSOL, PERSONAU CYMHWYSOL A DARPARIAETH ATODOL) (CYMRU) 2015

Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

12.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(8) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 13 a 14.

13.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teulu)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

14.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

RHAN 5DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

15.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(9) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 16 i 34.

16.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.

17.  Ar ôl rheoliad 4(9A) mewnosoder—

(9B) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

18.  Yn rheoliad 4(11), ar ôl “(9A),” mewnosoder “(9B),”.

19.  Yn lle rheoliad 15(b) rhodder—

(b)bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

20.  Yn lle rheoliad 23(12)(b) rhodder—

21.  Yn lle rheoliad 49(2)(b) rhodder—

22.  Ar ôl rheoliad 64(10A) mewnosoder—

(10B) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

23.  Yn rheoliad 64(12), ar ôl “(10A),” mewnosoder “(10B),”.

24.  Yn lle rheoliad 65(4)(b) rhodder—

(b)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

25.  Ar ôl rheoliad 81(9A) mewnosoder—

(9B) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

26.  Yn rheoliad 81(11), ar ôl “(9A),” mewnosoder “(9B),”.

27.  Yn lle rheoliad 82(4)(b) rhodder—

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

28.  Ar ôl rheoliad 110(11A) mewnosoder—

(11B) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

29.  Yn rheoliad 110(13), ar ôl “(11A),” mewnosoder “(11B),”.

30.  Yn lle rheoliad 111(2)(b) rhodder—

(b)y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

31.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

4ZA.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.

32.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

33.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

34.  Yn Atodlen 4, yn lle paragraff 6(a) rhodder—

(a)bod y myfyriwr, neu briod, partner sifil neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

RHAN 6DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD FEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

35.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(10) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 36 i 40.

36.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.

37.  Yn lle rheoliad 8(b) rhodder—

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant, priod ei riant neu bartner sifil ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

38.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

4ZA.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.

39.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teulu)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

40.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

41.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(11) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 42 i 51.

42.  Yn rheoliad 23—

(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “yn fyfyriwr cymwys Categori 3 (gweler Atodlen 2)” rhodder “yn fyfyriwr cymwys Categori 3 neu’n fyfyriwr cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo (gweler Atodlen 2)”;

(b)ym mharagraff (1)(b)(ii), ar ôl “fyfyriwr cymwys Categori 3” mewnosoder “neu’n fyfyriwr cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo”.

43.  Yn rheoliad 80—

(a)yn lle paragraff (2)(b)(i) rhodder—

(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;;

(b)ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.

44.  Yn lle rheoliad 81(3)(b)(i) rhodder—

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

45.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2 (Categori 2 - ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Categori 2ZA - Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

2ZA.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.

46.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A (Categori 2A - personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

47.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3 (Categori 3 - personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd), yn is-baragraff (4)(a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.

48.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3A (Categori 3A - personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

49.  Yn Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl), ym mharagraff 13 (personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 (gweler Atodlen 2)” rhodder “yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 neu’n fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo (gweler Atodlen 2)”;

(b)yn is-baragraff (1)(b)(ii), ar ôl “yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3” mewnosoder “neu’n fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo”.

50.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 14 (dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

(a)yn lle is-baragraff (3)(b)(i) rhodder—

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;;

(b)yn is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.

51.  Yn Atodlen 5, ym mharagraff 4 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

(a)yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—

(a)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;;

(b)yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.

RHAN 8DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

52.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(12) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 53 i 57.

53.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.

54.  Yn lle rheoliad 8(b) rhodder—

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant, priod ei riant neu bartner sifil ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

55.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

4A.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.

56.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5 (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

57.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

RHAN 9DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (GRADDAU MEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2019

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

58.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(13) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 59 i 63.

59.  Yn rheoliad 16—

(a)yn lle paragraff (1)(b)(i) rhodder—

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;;

(b)ym mharagraff (2), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.

60.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2 (Categori 2 - ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Categori 2A - Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

2A.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.

61.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3 (Categori 3 - personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

62.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4 (Categori 4 - personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd), yn is-baragraff (4)(a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.

63.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 5 (Categori 5 - personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

6 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”),

(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau’r ABE”),

(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPC”),

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),

(e)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2017”),

(f)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),

(g)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”), ac

(h)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2019”).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau. Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn darparu, o dan amgylchiadau penodol, ei bod yn gyfreithlon i sefydliadau wahaniaethu rhwng rhai neu bob un o’r personau hynny a grybwyllir yn yr Atodlen ac unrhyw berson arall, drwy godi ffioedd uwch ar bersonau nas crybwyllir yn yr Atodlen na’r ffioedd a godir ar bersonau a grybwyllir felly. Er mwyn dod o fewn yr Atodlen honno, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (“caniatâd i aros o dan adran 67”) a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r ABE. Mae Rheoliadau’r ABE yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy’n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau’r ABE ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i reoliadau 3 a 6 o Reoliadau’r ABE.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau CPC. Mae’r Rheoliadau CPC yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd, neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd, mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol. Terfyn ffioedd yw’r uchafswm sy’n daladwy gan berson cymhwysol mewn perthynas â chwrs cymhwysol ac mae’r Atodlen i’r Rheoliadau CPC yn rhestru’r personau hynny a all fod yn bersonau cymhwysol. Er mwyn dod o fewn yr Atodlen honno, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017. Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau 2017 ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau 2017.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Graddau Meistr 2017. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau Graddau Meistr 2017 ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau Graddau Meistr 2017.

Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 2ZA) yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 ac yn diwygio paragraffau 2A, 3 a 3A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau 2018.

Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4A) yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Graddau Doethurol ac yn diwygio paragraffau 5 a 6A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i’r Rheoliadau Graddau Doethurol.

Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Graddau Meistr 2019. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2019 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer naill ai yn y Deyrnas Unedig neu yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 2A) yn Atodlen 2 i Reoliadau Graddau Meistr 2019 ac yn diwygio paragraffau 3, 4 a 5 o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau Graddau Meistr 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238 (Cy. 243), Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011, adran 76; O.S. 2013/1881 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adran (2)(a), (c) a (k) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac ”a ragnodir”, a “rheoliadau”.

(5)

O.S. 2007/2310 (Cy. 181), a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/1259 (Cy. 126); O.S. 2010/1142 (Cy. 101); O.S. 2011/1043; O.S. 2011/1978 (Cy. 218); O.S. 2013/1792 (Cy. 179); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

(6)

O.S. 2014/3037 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

(8)

O.S. 2015/1484 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/276 (Cy. 100); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

(9)

O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/708 (Cy. 159); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

(10)

O.S. 2017/523 (Cy. 109), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/712 (Cy. 169); O.S. 2018/277 (Cy. 53); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/895 (Cy. 161); O.S. 2019/1094; ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

(11)

O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/708 (Cy. 159); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

(12)

O.S. 2018/656 (Cy. 124), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/153 (Cy. 27); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

(13)

O.S. 2019/895 (Cy. 161), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/918 (Cy. 206); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).

Back to top

Options/Help