2021 Rhif 911 (Cy. 207)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd a Diod (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru2 ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Diod (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Awst 2021.

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20142

Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20144, ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—

Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE15

1

Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 9(1)(h), ac Erthygl 9(1)(i) fel y’i darllenir gydag Erthygl 26(3)—

a

pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny, a

b

pe na bai’r mater wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn dyddiad cwblhau’r cyfnod gweithredu.

2

Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—

a

pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a

b

pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

3

Caniateir i gynhyrchion y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.

4

Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—

a

pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, a

b

pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

5

Caniateir i gynhyrchion gwin y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.

6

Caniateir i gynhyrchion eraill y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata hyd 31 Rhagfyr 2023.

7

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cynnyrch gwin” (“wine product”) yw cynnyrch y mae Rhan 2 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol5fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn gymwys iddo;

  • ystyr “cynnyrch penodedig” (“specifiedproduct”) yw cynnyrch y gellir ei adnabod yn unigol, gan gynnwys cynnyrch gwin, sy’n dwyn dangosiad a restrir ym mhwynt 5, 6 neu 7 o Atodiad 10 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 668/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a deunydd bwyd6fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).

Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 20153

Yn Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 20157, ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE7

1

Ni chaiff swyddog awdurdodedig gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag ail is-baragraff Erthygl 5(1), Erthygl 6 neu Erthygl 7—

a

pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a roddwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a

b

pe na bai’r mater sy’n fethiant honedig i gydymffurfio wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

2

Ni chaiff swyddog awdurdodedig gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag ail is-baragraff Erthygl 5(1), Erthygl 6 neu Erthygl 7—

a

pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a roddwyd ar y farchnad ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny;

b

pe bai’r cynnyrch yn dwyn un o’r dangosiadau y darperir ar eu cyfer yn y darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; ac

c

pe na bai defnyddio’r dangosiad yn fethiant i gydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 6(1) fel y’i darllenir gyda Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Lynne NeagleY Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaethau trosiannol mewn is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru ym maes safonau a labelu bwyd a diod ac maent yn ymwneud â diwygiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed gan offerynnau statudol Ymadael â’r UE eraill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.