2021 Rhif 916 (Cy. 209)
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 71, 76(9) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2021 ymlaen.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
4
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972.
Diwygio rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol2
Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
a
yn lle “£58.87” rhodder “£59.98”, a
b
yn lle “£21.31” rhodder “£21.71”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)