Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
1 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
3 Awst 2021
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 71, 76(9) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2021 ymlaen.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
2. Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a)yn lle “£58.87” rhodder “£59.98”, a
(b)yn lle “£21.31” rhodder “£21.71”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Awst 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy’n darparu ar gyfer taliadau i’w gwneud drwy system dalebau o ran y costau yr eir iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 1.9% yn y ffi ar gyfer prawf golwg y GIG.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2006 p. 42; gweler adran 206(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
O.S. 1997/818, a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1600 (Cy. 199); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.