Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 925 (Cy. 210)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 2.15 p.m. ar 6 Awst 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.00 p.m. ar 6 Awst 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio paragraffau (3), (12) i (14), (16) i (18) a (22) i (26) o reoliad 2, i rym ar ddechrau’r diwrnod ar 7 Awst 2021.

(3Daw paragraffau (3), (12) i (14), (16) i (18) a (22) i (26) o reoliad 2 i rym am 6.00 a.m. ar 7 Awst 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2)) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn lle “27 Awst” rhodder “26 Tachwedd”.

(3Ar ôl rheoliad 4(6) mewnosoder—

(6ZA) Ond caiff Atodlen 5 ddarparu nad yw’r un o Atodlenni 1 i 4 yn gymwys i ardal drwy bennu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i’r ardal.

(4Yn rheoliad 5(2), yn lle “rheoliadau 6 ac 8” rhodder “rheoliad 6”.

(5Hepgorer rheoliad 9.

(6Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “, 8(2) neu 9(2)” rhodder “neu 8(2)”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “, 8(2) a 9(2)” rhodder “ac 8(2)”;

(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Nid yw rheoliad 8(2) yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig, ac—

(i)bod y cwrs hwnnw o ddosau wedi ei weinyddu i’r person yn y Deyrnas Unedig,

(ii)bod y diwrnod y cafodd y person y cysylltiad agos a arweiniodd at yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) yn fwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cwblhaodd y person y cwrs hwnnw o ddosau, a

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog olrhain cysylltiadau a roddodd yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1), sy’n darparu tystiolaeth ei fod wedi cwblhau’r cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig yn unol ag is-baragraff (a).

(6) Nid yw rheoliad 8(2) yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(3), a

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog olrhain cysylltiadau a roddodd yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1), sy’n darparu tystiolaeth ei fod wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol yn unol ag is-baragraff (a).

(7) At ddibenion paragraff (5), mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw’r person hwnnw wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—

(a)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu

(b)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(4) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.

(8) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “brechlyn awdurdodedig” yw cynnyrch meddyginiaethol—

(i)a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu

(ii)a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012,

ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws;

(b)mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004;

(c)mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(d)mae i “awdurdodiad marchnata” yr ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(e)mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012.

(7Ar ôl rheoliad 10 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: gofynion ynysu

10A.  Pan—

(a)bo person—

(i)yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10(5) neu (6), neu’n blentyn, a

(ii)o dan ofyniad i beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu 9(2) yn union cyn 7 Awst 2021, a

(b)bo diwrnod olaf ynysiad y person (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 8(4) neu (5) neu reoliad 9(4) neu (5)) ar 7 Awst 2021 neu’n ddiweddarach,

daw’r gofyniad i beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, i ben ar ddechrau 7 Awst 2021.

(8Yn rheoliad 11—

(a)ym mharagraff (1)(a), hepgorer “neu 9(2)”;

(b)ym mharagraff (5)(b), hepgorer “neu 9 yn ôl y digwydd”;

(c)hepgorer paragraff (6).

(9Yn rheoliad 12, hepgorer “neu 9(2)”.

(10Yn rheoliad 13(1)(a), yn lle “, 8(1) neu 9(1)” rhodder “neu 8(1)”.

(11Yn rheoliad 14—

(a)ym mharagraff (2)(a), yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “, 8(2) neu 9(2)” rhodder “neu 8(2)”;

(b)ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “, 8(1) neu 9(1)” rhodder “neu 8(1)”;

(c)ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “, 8 neu 9” rhodder “ neu 8”.

(12Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer—

(ii)o dan y pennawd “Cam 2”, hepgorer “a Cham 4”.

(b)hepgorer paragraff (2);

(c)ym mharagraff (5)(a), yn lle “regulations 16, 17 and 17A” rhodder “regulation 16”;

(d)hepgorer paragraff (6).

(13Hepgorer rheoliadau 17 a 17A.

(14Yn rheoliad 18(1), hepgorer “, 17(1) neu 17A”.

(15Yn rheoliad 19—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “mewn cerbyd” rhodder “mewn rhan o dan do o gerbyd”;

(b)hepgorer paragraff (3)(c)(i), gan gynnwys y “neu” ar y diwedd.

(16Yn rheoliad 20—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “gael mynediad iddynt” mewnosoder “, ac eithrio mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre”;

(b)hepgorer paragraff (3)(h);

(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) At ddibenion paragraff (1), pan—

(a)bo busnes (“busnes A”) yn gwerthu, neu fel arall yn darparu, bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre busnes,

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), ac

(c)bo busnes B hefyd yn cynnal ei fusnes yn y fangre, ond na fo’n gwerthu, neu fel arall yn darparu, bwyd na diod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno,

mae P i’w drin fel pe bai mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre dim ond pan fo P yn y rhan o’r fangre lle y mae busnes A yn cynnal ei fusnes.

(17Yn rheoliad 25(3)(a)(i), hepgorer “, 17(1) neu 17A”.

(18Yn rheoliad 26, hepgorer “, 17(1) a 17A”.

(19Yn rheoliad 30, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “, 8(2) neu 9(2)” rhodder “ neu 8(2)”.

(20Yn rheoliad 40—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “, 9(2)”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “, 8(3) neu 9(3)” rhodder “neu 8(3)”;

(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “, 8(3) neu 9(3)” rhodder “neu 8(3)”.

(21Yn rheoliad 57(5), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)mae cerbyd, neu ran o gerbyd, o dan do os yw’n gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw;.

(22Yn Atodlen 1, paragraff 5(4A), yn lle “rheoliadau 16, 17 a 17A” rhodder “rheoliad 16”.

(23Yn Atodlen 2, paragraff 5(4A), yn lle “rheoliadau 16, 17 a 17A” rhodder “rheoliad 16”.

(24Yn Atodlen 3, paragraff 6(4A), yn lle “rheoliadau 16, 17 a 17A” rhodder “rheoliad 16”.

(25Yn Atodlen 5, yng Ngholofn 3, yn lle “1” rhodder “Dim lefel rhybudd”.

(26Yn Atodlen 8—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “, 17 neu 17A”;

(ii)yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “, 17 neu 17A”;

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (3)(a), hepgorer “, 17 neu 17A”;

(ii)yn is-baragraff (4)(b)(ii), hepgorer “, 17 neu 17A”;

(iii)yn is-baragraff (4)(c), hepgorer “, 17 neu 17A”;

(c)ym mharagraff 3(3)(c), hepgorer “a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17 neu 17A”;

(d)ym mharagraff 4(1)(b), hepgorer “a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17 neu 17A”.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

3.  Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(5), yn lle “27 Awst” rhodder “26 Tachwedd”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 2.15 p.m. ar 6 Awst 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru o 6.00 a.m. ar 7 Awst 2021. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Yr effaith yw:

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion mewn rhannau eraill (ar wahân i Atodlenni 1 i 4) o’r prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys, gan gynnwys gofynion ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd, a gofynion i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do.

Er gwaethaf llacio’r rheolau ar bobl yn ymgynnull ac yn mynd i ddigwyddiadau, mae’r mesurau rhesymol (o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau) sy’n dal i fod yn ofynnol mewn mangre reoleiddiedig yn golygu y gall fod angen i’r rheini sy’n gyfrifol am y fangre bennu terfynau ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, ac ar gapasiti digwyddiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad yn Rhan 3 o’r prif Reoliadau i berson ynysu ar ôl cael ei hysbysu gan swyddog olrhain cysylltiadau ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws. Mae’r Rheoliadau yn mewnosod esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) o’r prif Reoliadau i ddarparu nad yw’n ofynnol mwyach i oedolion ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath os ydynt wedi cwblhau, yn y Deyrnas Unedig, gwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddynt gael y cysylltiad agos, neu os ydynt yn cymryd rhan mewn treial clinigol yn y Deyrnas Unedig o frechlyn yn erbyn y coronafeirws. Mae’r diwygiadau hefyd yn hepgor rheoliad 9 o’r prif Reoliadau fel nad oes gofyniad mwyach i bersonau o dan 18 oed ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn mewnosod rheoliad newydd 10A yn y prif Reoliadau i ddarparu, pan fo’n ofynnol i blentyn, neu berson y mae’r esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) yn gymwys iddo, ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ar ôl cael ei hysbysu ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, y daw’r gofyniad i ynysu i ben ar ddechrau’r diwrnod ar 7 Awst 2021.

Nid oes unrhyw newid i’r gofynion i bersonau ynysu ar ôl cael eu hysbysu eu bod wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn—

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill, gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 26 Tachwedd 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.