Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
10 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
11 Awst 2021
Yn dod i rym
1 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 97(1) a (2) a 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
2.—(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 1, mewnosoder—
“(ba)adran 48(1) i (5) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(3);”.
3.—(1) Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 14(2)—
(a)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder “neu”;
(b)hepgorer is-baragraff (iii) a’r “neu” o’i flaen.
4.—(1) Mae Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
“ystyr “DADYTA 2018” (“the ALNETA 2018”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(6);”;
“mae i “anghenion addysgol arbennig”, mewn perthynas â phlentyn y mae Pennod 1 o Ran 4 o DA 1996(7) yn parhau i fod yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o DA 1996;”;
“mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”), mewn perthynas â phlentyn y mae Rhan 2 o DADYTA 2018 yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir gan adran 2 o DADYTA 2018;”;
“ystyr “plentyn sydd â chynllun datblygu unigol” (“child with an individual development plan”) yw plentyn y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ef o dan Ran 2 o DADYTA 2018;”;
(b)yn y diffiniad o “addysg addas”, ar ôl “arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
“2A. Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sydd â chynllun datblygu unigol a dderbyniwyd i’r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol, o ganlyniad i enwi’r ysgol yng nghynllun datblygu unigol y plentyn o dan adran 48 o DADYTA 2018.”;
(b)ym mharagraff 14, ar ôl “addysgol arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.
5.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “ysgol arbennig”, yn lle “337(1)” rhodder “337”.
6.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (2)(c)(iii);
(b)yn lle paragraff (2)(c)(iv) rhodder—
“(iv)pan gymeradwywyd yr ysgol o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996(10) (cymeradwyo ysgolion annibynnol sy’n darparu addysg arbennig) cyn 1 Medi 2021 a’i bod yn parhau i fod wedi ei chymeradwyo yn union cyn y dyddiad hwnnw, awdurdod lleol sy’n talu’r ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996(11) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef; a
(v)pan fo gan ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gynllun datblygu unigol y mae’r ysgol wedi ei henwi ynddo o dan adran 14(6) neu 19(4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(12), yr awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol o dan yr adran 14 neu 19 honno;”.
7. O ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 1996(13) gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, mae’r canlynol wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a)Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(14);
(b)Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(15);
(c)Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) (Diwygio) 1998(16);
(d)Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017(17).
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
10 Awst 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”). Mae Deddf 2018 yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth. Mae rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau a wnaed o dan bwerau sydd wedi eu diwygio fel nad ydynt mwyach yn gymwys o ran Cymru, neu sydd wedi eu diddymu, yn ôl-weithredol, gan adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2018. Mae erthygl 8 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)) yn dwyn adrannau 57 a 58 i rym ar 1 Medi 2021, sef yr un diwrnod ag y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/175 (Cy. 26). Mae paragraff 2 o’r Atodlen wedi ei ddiwygio gan O.S. 2010/1142, erthygl 2(3).
O.S. 2013/1141 (Cy. 121). Mae diwygiadau i’r Atodlen nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56. Mae Pennod 1 o Ran 4 wedi ei diddymu gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Atodlen 1, paragraff 4(9). Mae diwygiadau perthnasol eraill i adran 312 yn cynnwys y rheini sydd wedi eu gwneud gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3, Rhan 1, paragraffau 1 ac 11.
O.S. 2015/484 (Cy. 41). Mae diwygiad i reoliad 3 nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1599 (Cy. 198). Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56. Mae adran 347 wedi ei diddymu gan adran 58 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2). Mae diwygiadau eraill i adran 347 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae Pennod 1 o Ran 4 wedi ei diddymu gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Atodlen 1, paragraff 4(9).
2018 dccc 2. Mae diwygiad i adran 14 nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56. Mae’r diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud gan adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2018.
O.S. 1994/651. Gwnaed y Rheoliadau 1994 hyn o dan bwerau a roddir gan Ddeddf Addysg 1993 (p. 35) ac ar ôl ei chydgrynhoi, maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan Ddeddf Addysg 1996, adrannau 328(6), 347(2) a 569(4). Diwygiwyd adran 347 gan adran 146 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) i gyfyngu ei chymhwysiad i Gymru. Cyfyngwyd ar gymhwysiad adran 328(6) i fod mewn perthynas â phlant yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3, Rhan 1, paragraffau 1 a 10 (gan fewnosod adran 311A yn Neddf Addysg 1996).
O.S. 1994/652. Gwnaed y Rheoliadau 1994 hyn o dan bwerau a roddir gan Ddeddf Addysg 1993 ac ar ôl ei chydgrynhoi, maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan Ddeddf Addysg 1996, adrannau 328(6), 339(1), (5), 342(2), (4), (5), (6), a 569(4). Dirymwyd y Rheoliadau 1994 hyn o ran Lloegr gan O.S. 1999/2257, rheoliad 1(3).