2022 Rhif 1027 (Cy. 220)
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20171.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 10 Hydref 2022.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
a
ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 20182;
b
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Cymhwyso
3
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl—
a
sydd â dyddiad cael effaith ar neu ar ôl 10 Hydref 2022; a
b
y mae Tabl 1 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt.
4
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3—
a
os yw’r prynwr yn gwneud dewis yn unol â rheoliad 6; a
b
naill ai:
i
y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 10 Hydref 2022; neu
ii
y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ond nas cyflawnwyd yn sylweddol cyn 10 Hydref 2022 ac nad yw wedi ei eithrio gan reoliad 5.
5
Mae trafodiad wedi ei eithrio gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3 y rhoddir effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 10 Hydref 2022 ac—
a
pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022;
b
pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 10 Hydref 2022; neu
c
pan geir, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drosglwyddiad o ganlyniad iddo.
6
1
Rhaid i ddewis o dan reoliad 4—
a
cael ei gynnwys mewn ffurflen dreth a gyflwynir i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno; a
b
cydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir gan ACC ynghylch ei ffurf neu’r modd y caiff ei gynnwys.
2
Ni chaiff prynwr ond gwneud dewis o dan reoliad 4 pan nad yw effaith dewis o’r fath yn arwain at godi mwy o dreth na fyddai wedi digwydd fel arall.
Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 20187
1
Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
2
Yn lle Tabl 1 rhodder—
Tabl 1Trafodiadau eiddo preswyl
Band treth
Y gydnabyddiaeth berthnasol
Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero
Nid mwy na £225,000
0%
Y band treth cyntaf
Mwy na £225,000 ond nid mwy na £400,000
6%
Yr ail fand treth
Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000
7.5%
Y trydydd band treth
Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000
10%
Y pedwerydd band treth
Mwy na £1,500,000
12%
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)