Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
31 Hydref 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
2 Tachwedd 2022
Yn dod i rym
24 Tachwedd 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 9(1) a 18A(3) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid(1).
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran Cymru;
(c)yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;
ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio(3).
(2) Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr â’r ymadrodd hwnnw yn [F1Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(2) wedi eu hamnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 25
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
3.—(1) Mae Atodlenni 1 i 11 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 11 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 23 Tachwedd 2032.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
4.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 306/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu a Suidae wedi eu diddyfnu heblaw Sus scrofa domesticus(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
5.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 787/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
6.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1020 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy a mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy(6) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
7.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2276 sy’n ymwneud ag awdurdodiad defnydd newydd o’r paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
8. Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 12 wedi eu dirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
9.—(1) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(3) Yn y rheoliad hwn—
mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad a gynhwysir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu(8);
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407, neu fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 sydd â’r rhif adnabod 4b1702, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
10.—(1) Caniateir i unrhyw sylwedd neu gynnyrch a labelwyd “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737” neu a labelwyd fel sylwedd neu gynnyrch sy’n cynnwys “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737”, ond sydd fel arall wedi cael ei gynhyrchu a’i labelu yn unol ag awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn a grybwyllir yn rheoliadau 4 i 7, barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan yr awdurdodiad hwnnw.
(2) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(3) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(4) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2024 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn—
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi(9), neu
Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid(10);
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 neu, fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Bacillus subtilis ATCC PTA-6737, sydd â’r rhif adnabod 4b1823, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
11.—(1) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a bwyd anifeiliaid sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(2) Yn y rheoliad hwn—
mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004 sy’n ymwneud ag awdurdodi am 10 mlynedd yr ychwanegyn Deccox® mewn bwydydd anifeiliaid, sy’n perthyn i’r grŵp o gocsidiostatau a sylweddau meddyginiaethol eraill(11);
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Decocwinad (Deccox®)a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw sydd â’r rhif adnabod E756.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
31 Hydref 2022
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2018)3918699 - 24/07/2018” a’r ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2019)7167892 - 20/11/2019” a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2020. Mae’r dogfennau hyn ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2018-0009?search&form-return | |
(2) O dan y cyfeirnod BS EN ISO 6869:2001 “Animal feeding stuffs. Determination of the contents of calcium, copper, iron, magnesium, manganese, potassium, sodium and zinc. Method using atomic absorption spectrometry”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 15 Mawrth 2001 (ISBN 0 580 36933 1). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(3) O dan y cyfeirnod BS EN 15510:2017 “Animal feeding stuffs. Methods of sampling and analysis. Determination of calcium, sodium, phosphorus, magnesium, potassium, iron, zinc, copper, manganese, cobalt, molybdenum and lead by ICP-AES”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Awst 2017 (ISBN 978 0 580 94541 0). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(4) O dan y cyfeirnod BS EN 15621:2017 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Determination of calcium, sodium, phosphorus, magnesium, potassium, sulphur, iron, zinc, copper, manganese and cobalt after pressure digestion by ICP-AES”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Awst 2017 (ISBN 978 0 580 94543 4). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(5) O dan y cyfeirnod BS EN 17053:2018 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Determination of trace elements, heavy metals and other elements in feed by ICP-MS (multi-method)”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 28 Chwefror 2018 (978 0 580 94471 0). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(6) O dan y cyfeirnod BS EN ISO 13903:2005 “Animal feeding stuffs. Determination of amino acids content”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 24 Hydref 2005 (ISBN 0 580 46218 8). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(7) Cynnwys yr elfen (Mn) mewn mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Celad manganîs o lysin ac asid glwtamig |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 3b509 |
Deiliad yr awdurdodiad | Dim un wedi ei bennu |
Categori ychwanegion | Ychwanegion maethol |
Grŵp gweithredol | Cyfansoddion elfennau hybrin |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o geladau manganîs gyda lysin a cheladau manganîs gydag asid glwtamig mewn cymhareb o 1:1 fel powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Manganîs-2, asid 6-diaminohecsanoïg, clorid a halwyn hydrogen sylffad (C6H19ClN2O8SMn) Asid manganîs-2-aminopentanedioïg, sodiwm a halwyn hydrogen sylffad (C5H10NNaO9SMn) |
Dulliau dadansoddi(1) | I feintioli cyfanswm y manganîs yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid : |
I feintioli cyfanswm y manganîs yn y rhag-gymysgeddau:
| |
I feintioli cyfanswm y manganîs yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
| |
I feintioli cynnwys lysin ac asid glwtamig yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
| |
I ganfod ffurf geladedig yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Pob rhywogaeth o anifail |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(7) | Dim |
Uchafswm cynnwys(7) | Pysgod: 100mg/kg (cyfanswm) |
Pob rhywogaeth arall o anifail: 150mg/kg (cyfanswm) | |
Darpariaethau eraill | Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd. |
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2019)4747322 - 22/07/2019” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 18 Hydref 2019. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2018-0093. | |
(2) O dan y cyfeirnod BS EN 15787:2021 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Detection and enumeration of Lactobacillus spp. used as feed additive”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Rhagfyr 2021 (ISBN 978 0 580 99831 7). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com | |
(3) Cynnwys yr elfen Lactobacillus buchneri DSM 29026 mewn CFU o ychwanegyn/kg o ddeunydd ffres. | |
(4) Porthiant hawdd i’w silweirio: > 3% o garbohydradau hydawdd mewn deunydd ffres; porthiant sy’n gymedrol anodd i’w silweirio: 1.5-3.0% o garbohydradau hydawdd yn y deunydd ffres yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 429/2008 ar reolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran llunio a chyflwyno ceisiadau ac asesu ac awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid(13). | |
Yr ychwanegyn | Lactobacillus buchneri DSM 29026 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 1k20759 |
Deiliad yr awdurdodiad | Dim un wedi ei bennu |
Categori ychwanegion | Ychwanegion technolegol |
Grŵp gweithredol | Ychwanegion silwair |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 sy’n cynnwys isafswm o 2 × 1010 CFU/g o’r ychwanegyn |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Celloedd hyfyw Lactobacillus buchneri DSM 29026 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Pob rhywogaeth o anifail |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | Isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair: 5 x 107 CFU/kg o ddeunydd ffres sy’n hawdd ac yn gymedrol anodd i’w silweirio(4) |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio. |
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
(1) Un PROT yw’r swm o broteas serin sy’n rhyddhau un micromol/munud o bara-nitroanilin (pNA) o 1 milimolar (mM) o swbstrad Suc-Ala-Ala-Pro-Phe-pNA ar pH 9 a 37°C. | |
(2) CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry. | |
(3) Stocrestr Ewropeaidd o Sylweddau Masnachol Presennol, y rhif fel y’i cyhoeddwyd yn OJ Rhif C 146 A, 15.6.90, t.1. | |
(4) Rhif adnabod a neilltuwyd gan yr Undeb Biocemeg Rhyngwladol (IUB), sef yr Undeb Biocemeg a Bioleg Foleciwlaidd Rhyngwladol (IUBMB) bellach iubmb.org. | |
(5) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2019)6802984 - 04/11/2019” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 27 Ionawr 2020. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2019-0010. | |
(6) Cynnwys Proteas serin mewn PROT/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Proteas serin (EC 3.4.21.-) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4a13 |
Deiliad yr awdurdodiad | DSM Nutritional Products Ltd (Y Swistir) |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sylweddau gwella treuliadwyedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad solet a hylifol o broteas serin (EC 3.4.21.-):
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | |
Dulliau dadansoddi(5) | I feintioli actifedd proteas serin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd a’r deunyddiau bwyd anifeiliaid:
|
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Ieir i’w pesgi |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(6) | 15,000 PROT(1)/kg |
Uchafswm cynnwys(6) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 4 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r sylwedd a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(14).
(1) CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry. | |
(2) Stocrestr Ewropeaidd o Sylweddau Masnachol Presennol, y rhif fel y’i cyhoeddwyd yn OJ Rhif C 146 A, 15.6.90, t.1. | |
(3) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6/CvH/GB/ag/ARES(2011)356822” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0139. | |
(4) European Pharmacopoeia, Cyfarwyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Ansawdd Meddyginiaethau a Gofal Iechyd, 10fed argraffiad. Cyhoeddwyd 1 Gorffennaf 2019 (ISBN 9789999146111). | |
(5) Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, 6ed atodiad 2006, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de. | |
(6) O dan y cyfeirnod BS EN 14164:2014 “Foodstuffs. Determination of vitamin B6 by high performance chromatography”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Mehefin 2014 (ISBN 978 0 580 77941 1). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(7) Cynnwys pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn mg o ychwanegyn/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 3a831 |
Deiliad yr awdurdodiad | Dim un wedi ei bennu |
Categori ychwanegion | Ychwanegion maethol |
Grŵp gweithredol | Fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Pyridocsin hydroclorid, gyda meini prawf puredd heb fod yn llai na 98.5% |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | |
Dulliau dadansoddi(3) | I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn rhag-gymysgeddau:
| |
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn bwyd anifeiliaid a dŵr:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Pob rhywogaeth o anifail |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(7) | Dim |
Uchafswm cynnwys(7) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres ac mewn dŵr. |
2. Gellir defnyddio pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn dŵr i’w yfed. |
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 5 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(15).
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6/CvH/DM/mds/ARES(2010)967257” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0038. | |
(2) O dan y cyfeirnod BS EN 15789:2021 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Detection and enumeration of Saccharomyces cerevisiae used as feed additive”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Tachwedd 2021 (ISBN 978 0 580 99832 4). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(3) O dan y cyfeirnod DD CEN/TS 15790:2008 “Animal Feeding Stuffs – PCR typing of probiotic strains of Sacccharomyces cerevisiae (yeast)”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Ionawr 2009 (ISBN 978 0 580 61806 2). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(4) Cynnwys Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1702 |
Deiliad yr awdurdodiad | S.I. Lesaffre |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5x109 CFU/g |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Celloedd sych hyfyw Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
Ar gyfer adnabod y straen burum: Y dull adwaith cadwynol polymerasau (PCR) (DD CEN/TS 15790:2008(3)). | |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Lloi magu |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(4) | 1.5 x 109 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(4) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 6 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(16).
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “D08/FSQ/CVH/SY/Ares(2009)61627” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen hon ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2008-0039. | |
(2) Nid yw’r dull hwn yn addas ar gyfer canfod Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 mewn deunyddiau bwyd anifeiliaid na bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar grynodiadau islaw lefel yr isafswm cynnwys. | |
(3) Cynnwys Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1823 |
Deiliad yr awdurdodiad | Kemin Europa N.V. |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 sy’n cynnwys isafswm o 8 x 1010 CFU/g o’r ychwanegyn |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Sborau hyfyw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | 1 x 107 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Os yw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
|
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 7 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2015)4524025 - 23/10/2015” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2015-0016. | |
(2) O dan y cyfeirnod BS EN 15784:2021 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Detection and enumeration of Bacillus spp. used as feed additive”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Tachwedd 2021 (ISBN 978 0 580 99829 4). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(3) Cynnwys Bacillus licheniformis DSM 28710 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Bacillus licheniformis DSM 28710 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1828 |
Deiliad yr awdurdodiad | HuvePharma NV |
Categori ychwanegion | Ychwanegyn bwyd anifeiliaid sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 3.2 × 109 CFU/g o ychwanegyn. |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Sborau hyfyw Bacillus licheniformis DSM 28710. |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | 1.6 x 109 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Os yw Bacillus licheniformis DSM 28710 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
|
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 8 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(17).
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6.CvH/DM/hn/ARES (2010)-355411” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0005. | |
(2) O dan y cyfeirnod BS ISO 15213:2003 “Microbiology of food and animal feeding stuffs – Horizontal method for the enumeration of sulfite-reducing bacteria growing under anaerobic conditions”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 16 Mai 2003 (ISBN 0 580 41892 8). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(3) Cynnwys Clostridium butyricum FERM BP-2789 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Clostridium butyricum FERM BP-2789 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1830 |
Deiliad yr awdurdodiad | Miyarisan Pharmaceutical Co Ltd |
Categori ychwanegion | Ychwanegyn sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5 × 108 CFU/g o’r ychwanegyn |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Sborau hyfyw Clostridium butyricum FERM BP-2789 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio: 1.25 x 108 CFU/kg |
Ar gyfer y rhywogaethau/categorïau eraill: 2.5 x 108 CFU/kg | |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Os yw Clostridium butyricum FERM BP-2789 ) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
|
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 9 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
(1) FTU = unedau ensym ffytas. Un FTU yw’r swm o’r ensym sy’n rhyddhau 1 micromol (µm) o ffosffad anorganig o sodiwm ffytad y funud o dan amgylchiadau adweithio o pH 5.5 a 37°C. | |
(2) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2020)762221 - 06/02/2020” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 4 Mai 2020. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2019-0052. | |
(3) Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, Dulliau sengl newydd 2016, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de. | |
(4) Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, 8fed atodiad 2012, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de. | |
(5) O dan y cyfeirnod BS EN ISO 30024:2009 “Animal feeding stuffs. Determination of phytase activity”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Medi 2009 (ISBN 978 0 580 62651 7). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(6) Cynnwys 6-ffytas mewn FTU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | 6-ffytas (EC 3.1.3.26) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4a32 |
Deiliad yr awdurdodiad | Huvepharma EOOD |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sylweddau gwella treuliadwyedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Komagataella phaffii DSM 32854 sydd ag isafswm actifedd o 5000 FTU (1)/g ar ffurf ronynnol, araenedig neu hylifol |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii DSM 32854 |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli actifedd ffytas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I feintioli actifedd ffytas yn y rhag-gymysgeddau:
| |
I feintioli actifedd ffytas yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(6) | 250 FTU/kg |
Uchafswm cynnwys(6) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 10 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r sylwedd decocwinad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(18).
(1) CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry. | |
(2) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2013)3639174 - 04/12/2013 ” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2013-0034. | |
(3) O dan y cyfeirnod BS EN 16162:2012 “Animal feeding stuffs. Determination of decoquinate by HPLC with fluorescence detection”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Mawrth 2012 (ISBN 978 0 580 67002 2). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(4) “Safety and efficacy of Deccox® (decoquinate) for chickens for fattening”. Cyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yng Nghyfnodolyn yr EFSA, Cyfrol 17, Rhifyn 1 ar 14 Ionawr 2019. Mae’r ddogfen hon ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://www.efsa.europa.eu/en/efsajournal/pub/5541. | |
(5) Cynnwys decocwinad (Deccox®) mewn mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Decocwinad (Deccox®) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 51756i |
Deiliad yr awdurdodiad | Zoetis Belgium SA |
Categori ychwanegion | Cocsidiostatau a Histomonostatau |
Grŵp gweithredol | Dim |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn |
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad)
|
Amhureddau cysylltiedig:
| |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Ieir i’w pesgi |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(5) | 30 mg/kg |
Uchafswm cynnwys(5) | 40 mg/kg |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd. | |
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad gyda chocsidiostatau eraill. | |
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit. | |
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031. |
Rheoliad 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 11 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Mae’r sylwedd decocwinad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(19).
(1) CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry. | |
(2) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2014)2704635 - 18/08/2014” a “JRC.D.5/SFB/CvH/MGH /mds/Ares” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2014-0014. | |
(3) O dan y cyfeirnod BS EN 16162:2012 “Animal feeding stuffs. Determination of decoquinate by HPLC with fluorescence detection”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Mawrth 2012 (ISBN 978 0 580 67002 2). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(4) “Safety and efficacy of Deccox® (decoquinate) for chickens for fattening”. Cyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yng Nghyfnodolyn yr EFSA, Cyfrol 17, Rhifyn 1 ar 14 Ionawr 2019. Mae’r ddogfen hon ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://www.efsa.europa.eu/en/efsajournal/pub/5541. | |
(5) Cynnwys decocwinad (Avi-Deccox®) mewn mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Decocwinad (Avi-Deccox® 60G) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 51756ii |
Deiliad yr awdurdodiad | Zoetis Belgium SA |
Categori ychwanegion | Cocsidiostatau a histomonostatau |
Grŵp gweithredol | Dim |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn |
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad) Fformiwla gemegol: C24H35NO5 Rhif CAS(1): 18507-89-6 |
Amhureddau cysylltiedig:
| |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Ieir i’w pesgi |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(5) | 30 mg/kg |
Uchafswm cynnwys(5) | 40 mg/kg |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd. | |
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad â chocsidiostatau eraill. | |
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit. | |
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031. |
Rheoliad 8
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 12 mewn grym ar 24.11.2022, gweler rhl. 1(2)(c)
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004 sy’n ymwneud ag awdurdodi am 10 mlynedd yr ychwanegyn Deccox® mewn bwydydd anifeiliaid, sy’n perthyn i’r grŵp o gocsidiostatau a sylweddau meddyginiaethol eraill(21).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 903/2009 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum FERM-BP 2789 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd, a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)(22).
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 8/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi’r proteas serin a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis (DSM 19670) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad DSM Nutritional Products Ltd, a gynrychiolir gan DSM Nutritional Products Sp.Z.o.o)(23).
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Kemin Europa NV)(24).
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu (deiliad yr awdurdodiad Société industrielle Lesaffre)(25).
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 168/2011 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 107/2010 ynghylch y defnydd o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys madwramisin amoniwm, monensin sodiwm, narasin, neu robenidin hydroclorid(26).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 373/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum FERM-BP 2789 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer mân rywogaethau adar ac eithrio adar dodwy, perchyll wedi eu diddyfnu a mân rywogaethau teulu’r moch (wedi’u diddyfnu) ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd, a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)(27).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 515/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi fitamin B6 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail(28).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid (deiliad yr awdurdodiad Kemin Europa NV)(29).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 357/2013 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 a Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 373/2011 ynghylch isafswm cynnwys paratoad o Clostridium butyricum (FERM BP-2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi a mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy) (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Miyarisan Pharmaceutical Europe S.L.U.)(30).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 374/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)(31).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 291/2014 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1289/2004 ynghylch y cyfnod cadw’n ôl a therfynau gweddillion uchaf yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid decocwinad(32).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1108/2014 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn a fegir ar gyfer bridio (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)(33).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1126 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 a Rheoliadau Gweithredu (EU) Rhif 373/2011, (EU) Rhif 374/2013 ac (EU) Rhif 1108/2014 ynghylch enw cynrychiolydd yn yr UE ddeiliad awdurdodiad paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789)(34).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid (“Rheoliad 1831/2003”). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi 11 o ychwanegion bwyd anifeiliaid.
Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 i 11 yn darparu ar gyfer awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a ganlyn—
mae Atodlen 1 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o gelad manganîs o lysin ac asid glwtamig (rhif adnabod 3b509);
mae Atodlen 2 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 (rhif adnabod 1k20759);
mae Atodlen 3 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Broteas serin (EC 3.4.21.-) a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis (DSM 19670) (rhif adnabod 4a13);
mae Atodlen 4 yn adnewyddu awdurdodiad Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) (rhif adnabod 3a831);
mae Atodlen 5 yn adnewyddu awdurdodiad paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (rhif adnabod 4b1702). Mae enw’r straen bacterol wedi ei newid o “Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47” i “Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407”;
mae Atodlen 6 yn adnewyddu awdurdodiad paratoad o Bacillus velezensis (ATCC PTA-6737) (rhif adnabod 4b1823) ac yn estyn y defnydd awdurdodedig presennol i gwmpasu pob mân rywogaeth dofednod (ac eithrio ar gyfer dodwy), adar addurnol, adar helwriaeth ac adar hela. Addaswyd yr awdurdodiad fel a ganlyn:
newidir enw’r straen bacterol o “Bacillus subtilis” i “Bacillus velezensis”;
cynyddir isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y paratoad o 1x1010 i 8x1010 o unedau ffurfio cytref fesul gram (CFU/g);
mae Atodlen 7 yn awdurdodiad newydd ar gyfer paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 (rhif adnabod 4b1828);
mae Atodlen 8 yn adnewyddu awdurdodiadau paratoad o Clostridium butyricum (FERM BP-2789) (rhif adnabod 4b1830) ac yn ei awdurdodi ar gyfer defnydd newydd mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, perchyll sugno a mân rywogaethau teulu’r moch (sugno);
mae Atodlen 9 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o 6-ffytas a gynhyrchir gan Komagataella phaffii DSM 32854 (rhif adnabod 4a32);
mae Atodlen 10 yn awdurdodi fformiwleiddiad newydd o ddecocwinad (Deccox®) (rhif adnabod E756) fel decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i);
mae Atodlen 11 yn awdurdodi ffurf addasedig o ddecocwinad (Deccox®) (rhif adnabod E756) fel decocwinad (Avi-Deccox® 60G) (rhif adnabod 51756ii). Mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn wahanol i ddecocwinad (Deccox®) o ran ei ffurf ffisegol ac oherwydd calsiwm sylffad deuhydrad yw’r gwanedydd a ddefnyddir.
Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn yn ddilys am gyfnod o ddeng mlynedd yn unol ag Erthygl 9(7) o Reoliad 1831/2003. Mae hyn yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) o’r Rheoliad hwnnw, sy’n darparu ar gyfer estyn cyfnod yr awdurdodiad o dan amgylchiadau penodol pan fo cais i adnewyddu wedi ei gyflwyno.
Mae rheoliadau 4 i 7 yn diwygio pedwar o Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 ar gyfer gwahanol is-grwpiau o ddofednod a moch. Mae enw’r straen bacterol wedi ei ddiweddaru o “Bacillus subtilis” i “Bacillus velezensis”. Mae rheoliad 10(1) yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu i gynhyrchion a labelwyd gan ddefnyddio’r enw “ Bacillus subtilis” barhau i gael eu marchnata a’u defnyddio o dan yr awdurdodiadau perthnasol er gwaethaf newid yr enw.
Mae rheoliad 8 ac Atodlen 12 yn dirymu, o ran Cymru, Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n cynnwys awdurdodiadau ymlaen llaw ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd bellach wedi eu hawdurdodi gan Atodlenni 3, 4, 5, 6, 8 a 10.
Mae rheoliadau 9, 10(2) i (5) ac 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n caniatáu parhau i gynhyrchu a labelu cynhyrchion, am gyfnodau cyfyngedig o amser, o dan amodau awdurdodiadau ymlaen llaw o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid perthnasol. Caiff yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny eu hawdurdodi bellach gan Atodlenni 5, 6 a 10 yn y drefn honno.
Gellir cael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlenni, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW neu drwy anfon e-bost i regulated.products.wales@food.gov.uk.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
EUR 2003/1831, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/654 a 2022/377. Diwygiwyd O.S. 2019/654 gan O.S. 2020/1504. Mae’r termau “prescribe” ac “appropriate authority” wedi eu diffinio yn Erthygl 2 o EUR 2003/1831.
EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641. Diwygiwyd O.S. 2019/641 gan O.S. 2020/1504.
EUR 2009/767, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/654. Diwygiwyd O.S. 2019/654 gan O.S. 2020/1504.
EUR 2013/306.
EUR 2013/787.
EUR 2015/1020.
EUR 2017/2276.
EUR 2010/883. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.
EUR 2010/107. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.
EUR 2011/885. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.
EUR 2004/1289. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.
EUR 2009/152, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
EUR 2008/429, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/654. Diwygiwyd O.S. 2019/654 gan O.S. 2020/1504.
Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiad a roddwyd o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 515/2011. Mae’r Rheoliad hwnnw wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.
Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiad a roddwyd o dan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010. Mae’r Rheoliad hwnnw wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn, ond gweler y ddarpariaeth drosiannol yn rheoliad 9.
Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiadau a roddwyd o dan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011. Mae’r Rheoliadau hynny wedi eu dirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn, ond gweler y ddarpariaeth drosiannol yn rheoliad 10.
Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiadau a roddwyd o dan Reoliadau Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 373/2011, Rhif 374/2013 a Rhif 1108/2014. Mae’r Rheoliadau hynny wedi eu dirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.
Mae’r awdurdodiad hwn yn disodli awdurdodiad decocwinad (Deccox®) o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn, ond gweler y ddarpariaeth drosiannol yn rheoliad 11. Gweler hefyd Atodlen 11 i’r Rheoliadau hyn sy’n cynnwys ailawdurdodiad ar wahân ar gyfer decocwinad (Deccox®), ond ar ffurf addasedig - decocwinad (Avi-Deccox® 60G).
Mae’r awdurdodiad hwn ar gyfer decocwinad (Deccox®) ar ffurf addasedig, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004, ac sydd bellach wedi ei awdurdodi o dan Atodlen 10 i’r Rheoliadau hyn.
EUD 2002/657, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1461.
EUR 2004/1289.
EUR 2009/903.
EUR 2010/8.
EUR 2010/107
EUR 2010/883.
EUR2011/168.
EUR 2011/373.
EUR 2011/515.
EUR 2011/885.
EUR 2013/357.
EUR 2013/374.
EUR 2014/291.
EUR 2014/1108.
EUR 2017/1126.