2022 Rhif 1156 (Cy. 239)

Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022.

2

Mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

Diwygio Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 20102

1

Mae Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 20102 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y tabl yn yr Atodlen, ym mhob lle y mae’n digwydd, hepgorer “+ TAW”.

Diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 20183

1

Mae Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 20183 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn nhestun Saesneg erthygl 2, yn y diffiniad o “collection centre”, yn lle “a premises” rhodder “premises”.

3

Yn lle’r Atodlen rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Darpariaeth drosiannol4

Nid yw’r diwygiadau a wneir gan erthyglau 2 a 3 yn cael unrhyw effaith mewn perthynas ag unrhyw ffi a godir mewn perthynas â chais sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Erthygl 3(3)

YR ATODLEN

Erthygl 3

Tabl 1Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Gweithgaredd

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023

Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu.

318

379

Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu.

550

685

Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygu.

279

340

Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly cynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu.

414

486

Tabl 2Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Gweithgaredd

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023

Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.

175

236

Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu.

327

408

Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol.

130

168

Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.

141

171

Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.

193

229

Tabl 3Ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Gweithgaredd

Ffi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny

Ffi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023

Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.

246

318

Ymweliad milfeddygol at ddiben ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.

246

318

Tâl atodol ar unrhyw ymweliad pan fo’r amser arolygu milfeddygol yn hwy na’r amser penodedig a ddarperir yn yr Atodlen hon.

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu nad ydynt wedi eu heithrio rhag ffioedd o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn.

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 132

22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 132

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio—

a

Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1781) (Cy. 170) (“y Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod”); a

b

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/645) (Cy. 119) (“y Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu darpariaethau yn y Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod sy’n darparu ar hyn o bryd fod Treth ar Werth (TAW) yn cael ei hychwanegu at ffioedd a godir o dan y Gorchymyn hwnnw. Mae hefyd yn cynyddu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a ddarperir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion mewn perthynas â’r Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid.

Mae erthygl 2 yn diwygio’r Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod er mwyn hepgor y geiriau “+ TAW” bob tro y maent yn digwydd yn y tabl yn yr Atodlen, fel nad yw TAW yn daladwy bellach mewn cysylltiad â’r ffioedd a nodir yn y tabl.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid er mwyn rhoi, yn lle’r Atodlen, Atodlen newydd sy’n darparu ar gyfer ffioedd uwch ar gyfer trwyddedu mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid. Mae’r Atodlen newydd yn darparu fel a ganlyn.

a

Mae Tabl 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4). Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 48% (rhes 3), 65% (rhes 4), 57% (rhes 5) a 42% (rhes 6).

b

Mae Tabl 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4). Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 107% (rhes 3), 67% (rhes 4), 85% (rhes 5), 55% (rhes 6) a 46% (rhes 7).

c

Mae Tabl 3 yn nodi ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd. Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 84% (rhesi 3 a 4), 38% (rhes 5) a 5% (rhes 6).

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.