Enwi, cychwyn a dehongliI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
2
3
4
Daw rheoliad 25(5) i rym yn union ar ôl i adran 1207 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 8 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
5
Daw rheoliad 25(6) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 9 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
6
Daw rheoliad 25(9) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 11 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
7
Daw rheoliad 25(10) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 12 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
8
Daw rheoliad 25(11)(a) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 11 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
9
Daw rheoliad 25(11)(b) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 13(3) o Atodlen 8 iddi ddod i rym.
10
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.