Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2022/1066 (Cy. 224) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

2022 Rhif 1188 (Cy. 244)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 30(1), (3) a (4), 37(2)(a), 38(2), (3), (4) a (5) a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20101, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwynI21

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2022 yn union ar ôl Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 20222.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 1 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

DehongliI32

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 20023 ar y sail a nodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o’r adran honno4;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19895;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 20006;

  • ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw—

    1. a

      gorchymyn a wneir gan Lys y Goron, y Llys Apêl, y Llys Milwrol neu Lys Apêl y Llys Milwrol bod yr unigolyn o dan sylw yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, neu

    2. b

      gorchymyn gwarcheidiaeth7;

  • mae i “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yr ystyr a roddir gan adran 19(6) o’r Mesur;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant neu’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) wedi ei “gael wedi cyflawni” trosedd—

a

os yw P wedi ei euogfarnu o drosedd;

b

os yw P wedi ei ddyfarnu’n ddieuog o drosedd oherwydd gorffwylledd;

c

os cafwyd bod P o dan anabledd a’i fod wedi gwneud y weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â throsedd o’r fath;

d

os yw P, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybuddiad gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd;

e

os yw P, ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013, wedi cael rhybuddiad ieuenctid gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd y mae P wedi ei chyfaddef8.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd sy’n “gysylltiedig â” throsedd os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd fel a ganlyn—

a

ceisio cyflawni’r drosedd honno, neu gynllwynio neu ysgogi i’w chyflawni, neu

b

cynorthwyo i gyflawni’r drosedd honno, neu annog, cwnsela neu beri ei chyflawni.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 2 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Gofalu am blant a throseddau yn erbyn plant neu oedolionI43

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11) a rheoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8) yn gymwys.

2

Mae unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion neu’r penderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1 wedi eu gwneud—

a

mewn cysylltiad â P,

b

sy’n atal P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster y mae plant yn derbyn gofal ynddo neu rhag bod yn rhan o reoli unrhyw gyfleuster o’r fath neu rhag ymwneud fel arall â darparu unrhyw gyfleuster o’r fath, neu

c

mewn cysylltiad â phlentyn sydd wedi bod yng ngofal P.

3

Mae gorchymyn wedi ei wneud mewn cysylltiad â P o dan adran 104 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 20039 er bod y drosedd wedi ei diddymu yng Nghymru a Lloegr.

4

Mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 200010 er bod y drosedd wedi ei diddymu.

5

Mae P—

a

wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

b

yn dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

6

Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd ac eithrio trosedd y cyfeirir ati ym mharagraff (4) neu (5) sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.

7

Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir yn Atodlen 3 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath.

8

Mae P—

a

wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 200011 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

b

wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath y mae uwchlys wedi gosod gorchymyn perthnasol mewn cysylltiad â hi,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

9

Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraffau (1) i (8) mewn cysylltiad ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu drosedd—

a

os yw P wedi apelio’n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn,

b

os yw rhybuddiad mewn cysylltiad â’r drosedd honno wedi ei dynnu’n ôl neu ei osod o’r neilltu,

c

os yw cyfarwyddyd sy’n seiliedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar y drosedd wedi ei ddirymu, neu

d

os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 200012 neu adran 79 neu 80 o’r Cod Dedfrydu13 sy’n rhyddhau P yn ddiamod neu’n amodol mewn cysylltiad â’r drosedd honno.

10

Nid yw P wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd paragraff (2)—

a

os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan Ddeddf 1989 y lleolwyd P yng ngofal awdurdod lleol dynodedig neu gorff tebyg neu o dan oruchwyliaeth awdurdod neu gorff o’r fath odano, oni bai bod gorchymyn hefyd wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am ei blentyn ei hun, neu

b

pan fo P yn ofalwr maeth neu’n rhiant mabwysiadol i blentyn, a bo’r plentyn hwnnw yn cael neu wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio o dan Ddeddf 1989, oni bai bod y gorchymyn wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am y plentyn hwnnw.

11

Nid yw P wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn rhinwedd paragraff (2) mewn cysylltiad â gwrthod neu ganslo unrhyw gofrestriad o dan y darpariaethau a nodir ym mharagraff 23(c) o Atodlen 1—

a

os yw’r gwrthod neu’r canslo mewn cysylltiad â chofrestru ag asiantaeth gwarchod plant, neu

b

os yr unig reswm dros wrthod neu ganslo’r cofrestriad oedd methu â thalu unrhyw ffi a ragnodir o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196814.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 3 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Troseddau tramorI54

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P wedi ei gael wedi gwneud gweithred—

a

a oedd yn drosedd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

b

a fyddai’n drosedd a’i gwnâi’n ofynnol anghymhwyso person rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi ei gwneud mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

2

Ym mharagraff (1), mae P “wedi ei gael wedi gwneud gweithred a oedd yn drosedd” os yw’r canlynol wedi digwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

a

mae P wedi ei euogfarnu o drosedd (pa un a yw P wedi ei gosbi amdani ai peidio),

b

mae P wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd,

c

mae llys sy’n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd, neu

d

mae llys o’r fath wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P o dan anabledd ac iddo wneud y weithred y cyhuddwyd P ohoni.

3

Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw ganfyddiad os yw’r canfyddiad hwnnw, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad o dan sylw, wedi ei wrthdroi.

4

Mae gweithred sydd i’w chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn drosedd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn ym mha ffordd bynnag y’i disgrifir yn y gyfraith honno.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 4 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Rhestr y Ddeddf Amddiffyn PlantI65

Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 199915 (rhestr o’r rheini y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 5 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Cyfarwyddyd mewn perthynas â chyflogi athrawon etc.I76

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y rheoliad hwn yn gymwys i P.

2

Mae P yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd.

3

Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wneir o dan erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 198616.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 6 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Personau sydd wedi eu gwahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlantI87

Mae person sydd wedi ei wahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn ystyr “barred from regulated activity relating to children” yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei anghymhwyso.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 7 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Personau sy’n byw neu’n gweithio mewn mangre lle y mae person sydd wedi ei anghymhwyso yn bywI98

Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P—

a

i

yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru, neu

ii

yn byw ar aelwyd y mae unrhyw berson o’r fath wedi ei gyflogi ynddi, a

b

yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig a ddefnyddir gan yr aelwyd y mae P yn aelod ohoni.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 8 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

HepgoriadauI109

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fyddai person (“P”) wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a (3), neu 8 ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai fel arall yn achosi bod P wedi ei anghymhwyso, a phan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig ac na fônt wedi tynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna nid yw’r person, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, i’w ystyried fel pe bai wedi ei anghymhwyso at ddiben y Rheoliadau hyn.

2

Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 200017.

3

Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw’r person, cyn 1 Ebrill 2002—

a

wedi datgelu’r ffeithiau a fyddai’n anghymhwyso’r person o dan y Rheoliadau hyn i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 198918, a

b

wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 9 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

ApelauI1110

Mae unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9(1) yn benderfyniad rhagnodedig at ddibenion adran 37(2)(a) o’r Mesur (apelau).

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 10 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd datgeluI1211

1

Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur (“person cofrestredig”) ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i Weinidogion Cymru—

a

manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru a wneir neu sy’n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2) sy’n golygu bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn;

b

y dyddiad pryd y gwnaed y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn neu pryd y cododd unrhyw sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru;

c

y corff neu’r llys a wnaeth y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn a’r ddedfryd, os oes un, a osodwyd;

d

mewn perthynas â gorchymyn neu euogfarn, copi o’r gorchymyn perthnasol neu’r gorchymyn llys perthnasol a ardystiwyd gan y corff dyroddi neu’r llys dyroddi.

2

Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â hwy yw—

a

y person cofrestredig, a

b

unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi yn yr aelwyd honno.

3

Rhaid darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg pan ddaeth y person cofrestredig yn ymwybodol o’r wybodaeth honno neu pan ddylai fod wedi dod yn ymwybodol yn rhesymol ohoni pe bai’r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.

4

Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(b) ond yn gymwys mewn cysylltiad ag aelodau’r aelwyd neu’r rheini sydd wedi eu cyflogi yn aelwyd gwarchodwr plant cofrestredig.

5

Caiff Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw honiad bod person cofrestredig wedi methu â bodloni gofynion y rheoliad hwn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Mesur (gan gynnwys canslo cofrestriad yn unol ag adran 31(1) o’r Mesur).

6

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o drosedd.

7

Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 11 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Dirymu a diwygiad canlyniadolI112

1

Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 wedi eu dirymu19.

2

Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 201020, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “wedi ei anghymhwyso”, ym mharagraff (a) ar ôl “(Anghymhwyso)” mewnosoder “(Rhif 2)”.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 12 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1GORCHMYNION ETC. SY’N YMWNEUD Â GOFALU AM BLANT

Rheoliadau 3(2) a 3(11)

Gorchmynion gofal, goruchwylio a sefydlogrwydd

I131

Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf 1989 (gorchymyn gofal).

I142

Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf 1989 (gorchymyn goruchwylio).

I153

Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 199521 (gorchymyn gofal).

I164

Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(b) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn goruchwylio).

I175

Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 196722 (gorchymyn person addas neu orchymyn gofal arbennig).

I186

Gorchymyn a wnaed yn dilyn cais fel y’i caniatawyd o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 200823 (gorchymyn rhianta cymunedol).

I197

Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)24 (gorchymyn gofal).

I208

Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gorchymyn goruchwylio).

I219

Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 200225.

I2210

Unrhyw orchymyn a fyddai wedi cael ei farnu’n orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i Ddeddf 1989 (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym.

I2311

Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant a wneir o dan erthygl 7 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

I2412

Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 199526 neu o dan adran 37 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 201127.

I2513

Gorchymyn sefydlogrwydd a wnaed, neu a drinnir fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 80 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 200728.

Gorchmynion sy’n gosod gofyniad preswylio neu wahardd

I2614

Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 200029, adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 196930 (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol), paragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 200831 neu baragraff 25 o Atodlen 6 i’r Cod Dedfrydu.

I2715

Gorchymyn person addas o dan adran 91, 92, 95 neu 97 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196832, gorchymyn hawliau rhiant o dan adran 104 neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan adran 78, adrannau 83 i 90, adran 95 neu adran 97 o’r Ddeddf honno.

I2816

Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

I2917

Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol)33.

I3018

Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n gosod gofyniad goruchwylio mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—

a

adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 196834, neu

b

adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 199535.

I3119

Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n breinio hawliau a phwerau P mewn cysylltiad â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—

a

o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 196836, neu

b

yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 199537.

I3220

Gorchymyn goruchwylio gorfodol, o fewn ystyr “compulsory supervision order” yn adran 83 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011, neu orchymyn goruchwylio gorfodol interim, o fewn ystyr “interim compulsory supervision order” yn adran 86 o’r Ddeddf honno, a wneir ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P.

Penderfyniadau mewn perthynas ag addasrwydd P i ddarparu gofal

I3321

Mewn perthynas â chofrestru cartref plant—

a

gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000,

b

canslo cofrestriad P o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000,

c

canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu y mae gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, neu

d

gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 200338.

I3422

Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201639 (“Deddf 2016”))—

a

gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016,

b

gwrthod o dan adran 12 o Ddeddf 2016 gais P i amrywio cofrestriad P (a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o’r Ddeddf honno),

c

canslo cofrestriad P o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016,

d

canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel, y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P fuddiant ariannol ynddo, neu

e

gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.

I3523

Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ganslo cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a oedd yn cael ei gynnal gan P neu yr oedd P fel arall yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl y digwydd—

a

paragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 198940,

b

paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 198941,

c

adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196842,

d

erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 199543,

e

Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 200144 (gwasanaethau cartrefi gofal),

f

paragraff 2 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)45, neu

g

Rhan 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 201046.

I3624

Gwaharddiad a osodir ar unrhyw adeg o dan—

a

adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 198047 neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)48,

b

erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat),

c

adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)49, neu

d

adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod gwaharddiadau o dan faethu preifat).

I3725

Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196850 (gwrthod cydsynio i berson ofalu am y plentyn a’i gynnal).

I3826

Gwrthod ar unrhyw adeg gofrestriad mewn cysylltiad â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru o’r fath neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan—

a

adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 194851,

b

Rhan 10 neu 10A o Ddeddf 198952,

c

Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 200653,

d

Rhan 11 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995,

e

adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196854,

f

Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 200155,

g

adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 197456 (Deddf Tynwald),

h

adran 65 neu 6657 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) neu Atodlen 758 iddi,

i

Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972, neu

j

Rhan 2 o’r Mesur.

I3927

Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 200359.

I4028

Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 196860 (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

I4129

Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 12 neu 18 o’r Ddeddf honno61.

I4230

Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.

I4331

Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 60 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.

I4432

Cynnwys enw P ar unrhyw adeg ar restr o bersonau sy’n anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw62.

ATODLEN 2TROSEDDAU STATUDOL SYDD WEDI EU DIDDYMU

Rheoliad 3(5)

I451

1

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 195663

a

adran 1 (treisio);

b

adran 2 neu 3 (caffael menyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);

c

adran 4 (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach);

d

adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed);

e

adran 6 (cyfathrach â merch rhwng 13 ac 16 oed);

f

adran 14 neu 15 (ymosod anweddus);

g

adran 16 (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth);

h

adran 17 (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);

i

adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);

j

adran 24 (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall);

k

adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach);

l

adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).

2

Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)64.

3

Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach)65.

4

Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)66.

5

Trosedd o dan adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 198067 neu adran 14 o Ddeddf Plant 195868 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

6

Trosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5 iddi neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)69.

7

Trosedd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 200170

a

adran 21 (troseddau mewn perthynas â chofrestru),

b

adran 22 (datganiadau anwir mewn ceisiadau), neu

c

adran 29(10) (troseddau o dan reoliadau).

8

Trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 200971 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol).

I462

Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn erbyn plentyn neu sy’n ymwneud â phlentyn—

a

adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 195672 (cyfathrach â pherson diffygiol),

b

adran 9 o’r Ddeddf honno (caffael person diffygiol),

c

adran 10 o’r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn),

d

adran 11 o’r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw),

e

adran 12 o’r Ddeddf honno (sodomiaeth) ac eithrio os oedd y parti arall i’r weithred o anwedduster difrifol yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cydsynio i’r weithred,

f

adran 21 o’r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad),

g

adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod),

h

adran 23 o’r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed),

i

adran 27 o’r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre i gael cyfathrach),

j

adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra),

k

adran 31 o’r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain),

l

adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)73,

m

adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 196774 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol),

n

adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw),

o

adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 196875 (bwrgleriaeth), neu

p

trosedd sy’n gysylltiedig â throsedd a bennir yn is-baragraffau (a) i (o).

ATODLEN 3TROSEDDAU PENODEDIG

Rheoliad 3(7)

Troseddau yng Nghymru a LloegrI471

1

Trosedd o dan adran 1 (trosedd anfon llythyrau etc. gan fwriadu achosi trallod neu bryder) o Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus 198876.

2

Trosedd o dan adran 49 neu 50(9) o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal).

3

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 199777

a

adran 4 (rhoi pobl o dan ofn trais), neu

b

adran 4A (stelcio sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol)78.

4

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 200079

a

adran 11 (aelodaeth),

b

adran 12 (cefnogaeth),

c

adran 13 (lifrai),

d

adran 15 (codi arian),

e

adran 54 (hyfforddiant arfau)80,

f

adran 56 (sefydliad cyfarwyddo terfysgwyr),

g

adran 58A (ennyn, cyhoeddi neu gyfathrebu gwybodaeth am aelodau o’r lluoedd arfog etc)81,

h

adran 59 (Cymru a Lloegr), neu

i

adran 63 (cyllid terfysgwyr: awdurdodaeth).

5

Trosedd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000—

a

adran 11(1) (methiant i gofrestru),

b

adran 24 (methiant i gydymffurfio ag amodau),

c

adran 25 (torri rheoliadau),

d

adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau), neu

e

adran 27 (datganiadau anwir mewn ceisiadau).

6

Trosedd o dan adran 127 (defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus) o Ddeddf Cyfathrebiadau 200382.

7

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003—

a

adran 15A (cyfathrebu rhywiol â phlentyn)83,

b

adran 62 neu 63 (cyflawni trosedd neu dresmasu gan fwriadu cyflawni trosedd rywiol),

c

adran 64 neu 65 (rhyw â pherthynas sy’n oedolyn),

d

adran 67A (voyeuriaeth: troseddau ychwanegol),

e

adran 69 (cyfathrach ag anifail)84, neu

f

adran 70 (treiddio’n rhywiol i gorff marw).

8

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 200685

a

adran 1 (annog terfysgaeth),

b

adran 2 (lledaenu cyhoeddiadau terfysgol),

c

adran 5 (paratoi gweithredoedd terfysgol),

d

adran 6 (hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth)86,

e

adran 8 (presenoldeb mewn man a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant terfysgwyr),

f

adran 9 (gwneud dyfeisiau neu ddeunyddiau a meddu arnynt), neu

g

adran 11 (bygythiadau terfysgol sy’n ymwneud â dyfeisiau, deunyddiau neu gyfleusterau).

9

Trosedd o dan adran 62 (meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 200987.

10

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 201588

a

adran 20 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan weithiwr gofal),

b

adran 21 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan ddarparwr gofal), neu

c

adran 33 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).

11

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddu Difrifol 201589

a

adran 69 (meddu ar lawlyfr i bedoffiliaid)90, neu

b

adran 76 (ymddygiad rheolaethol neu ymddygiad gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).

12

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 201591

a

adran 1 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol),

b

adran 2 (masnachu pobl),

c

adran 4 (cyflawni trosedd gan fwriadu cyflawni trosedd o dan adran 2), neu

d

adran 30 (troseddau)92.

13

Trosedd o dan adran 5 (cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol) o Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 201693.

14

Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016—

a

adran 5 (gofyniad i gofrestru),

b

adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod),

c

adran 44 (disgrifiadau anwir),

d

adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau), neu

e

adran 47 (datganiadau anwir).

15

Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

16

Trosedd o dan adran 121 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 201494 (trosedd priodas o dan orfod: Cymru a Lloegr).

17

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 200395

a

adran 1 (trosedd anffurfio organau cenhedlu benywod),

b

adran 2 (cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun),

c

adran 3 (cynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio dramor organau cenhedlu merch), neu

d

adran 3A (methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).

Troseddau yn yr AlbanI482

1

Trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 200996.

2

Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199597.

3

Trosedd plagiwm yn y gyfraith gyffredin (dwyn plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).

4

Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 198298 (troseddau sy’n ymwneud â ffotograffau anweddus o blant).

5

Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 200099 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).

6

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—

a

adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995100, adran 59(1) neu 171(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968101 (troseddau llochesu);

b

adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984102 (mynd â phlentyn neu anfon plentyn allan o’r Deyrnas Unedig);

c

adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

7

Trosedd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968103 (troseddau sy’n ymwneud â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

8

Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—

a

adran 78 (rheoliadau: gwasanaethau gofal),

b

adran 80 (troseddau mewn perthynas â chofrestru o dan Bennod 3), neu

c

adran 81 (datganiadau anwir mewn cais o dan Bennod 3).

9

Trosedd o dan adran 122 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: yr Alban).

Troseddau yng Ngogledd IwerddonI493

1

Trosedd treisio o dan erthygl 5 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008104.

2

Trosedd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003105.

3

Trosedd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.

4

Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968106 ac eithrio unrhyw droseddau a bennir o dan Ddeddf Cyfraith Trosedd (Diwygio) 1995 yn yr Atodlen honno.

5

Trosedd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978107 (ffotograffau anweddus).

6

Trosedd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980108 (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol).

7

Trosedd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988109 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).

8

Trosedd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003110 (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).

9

Trosedd o dan Ran 3 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (troseddau rhywiol yn erbyn plant).

10

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—

a

erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal),

b

erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968111 (troseddau sy’n ymwneud â gwarchod plant a gofal dydd),

c

erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968112 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat), neu

d

erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995113, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968114 (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).

11

Trosedd yn groes i adran 2 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015115 (masnachu pobl).

12

Trosedd yn groes i adran 51 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2016116 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).

Troseddau yn JerseyI504

Trosedd yn groes—

a

i Ran 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969117,

b

i Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002118, neu

c

i Gyfraith Gofal Dydd Plant (Jersey) 2002119.

Troseddau yn GuernseyI515

Trosedd yn groes—

a

i’r ‘Loi pour la Punition d’Inceste’ (Cyfraith Cosbi Llosgach) 1909120;

b

i’r ‘Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures’ (Cyfraith Amddiffyn Menywod a Merched Ifanc) 1914121;

c

i’r ‘Loi relative à la Sodomie’ (Cyfraith sy’n ymwneud â Sodomiaeth) 1929122;

d

erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, paragraff 1 o erthygl 41 neu baragraff 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o’r ‘Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes’ (Cyfraith sy’n ymwneud ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917123;

e

Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;

f

Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985124.

Troseddau ar Ynys ManawI526

Trosedd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

Troseddau eraillI537

1

Trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979125 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876126 (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.

2

Trosedd yn rhinwedd—

a

adran 72 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau y tu allan i’r Deyrnas Unedig)127, neu

b

adran 16B o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995128 (cyflawni troseddau rhywiol penodol y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

3

Trosedd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (cadw pobl sy’n absennol yn gaeth).Trosedd yn groes i erthygl 10(2) (trosedd sy’n ymwneud â dianc) neu erthygl 11(1) (trosedd rhwystro bwriadol) o Orchymyn Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013129

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/1066) (Cy. 224) (“Rheoliadau 2022”). Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r categorïau o bersonau sydd wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru yn warchodwyr plant neu’n ddarparwyr gofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) (“y Mesur”).

Ni chaiff personau sydd wedi eu hanghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn weithredu fel gwarchodwyr plant yng Nghymru, darparu gofal dydd nac ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd. Ni chânt ychwaith fod wedi eu cyflogi mewn cysylltiad â gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn ynghyd ag Atodlen 1 iddynt yn nodi’r gorchmynion a’r penderfyniadau ynglŷn â gofalu am blant y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy a goruchwylio’r plant hynny. Mae rheoliad 3, ynghyd ag Atodlenni 2 a 3, hefyd yn nodi categorïau o droseddau yn erbyn plant neu oedolion y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy, neu droseddau sy’n ymwneud â’r plant hynny neu’r oedolion hynny. Mae rheoliad 3(10) yn egluro nad yw anghymhwyso yn gymwys i bersonau sydd wedi bod yn destun gorchmynion gofal neu oruchwylio eu hunain neu i ofalwyr maeth neu rieni mabwysiadol y mae plentyn sy’n destun neu a oedd yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio yn byw gyda hwy, oni wnaed y gorchymyn o ganlyniad i ofal y ceisydd hwnnw am y plentyn.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r troseddau a gyflawnir dramor sy’n gymaradwy â’r troseddau a nodir yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod personau sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p. 14) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 6(1) a (2) yn darparu bod personau y mae cyfarwyddyd wedi ei wneud mewn cysylltiad â hwy o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) (a elwir yn Rhestr 99) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 7 yn nodi bod personau sydd wedi eu gwahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o dan adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant os yw’r person hwnnw yn byw gyda pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn, neu’n byw ar aelwyd y mae person o’r fath wedi ei gyflogi ynddi ac yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig sydd hefyd yn gartref iddo.

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer hepgor yr anghymwyso o dan amgylchiadau penodol. Pan fo cydsyniad Gweinidogion Cymru, neu awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2002, wedi ei roi, nid ystyrir bod person wedi ei anghymhwyso.

Mae rheoliad 9(2) yn nodi amgylchiadau pan na fo’r broses hepgor yn gymwys. Mae hyn pan fo unigolyn wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn, pan fo’r drosedd ei hun wedi ei diddymu ers hynny a phan fo’r llys sy’n dedfrydu wedi gorchymyn bod yr unigolyn yn cael ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant.

Mae rheoliad 10 yn nodi hawl i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru am fanylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r rhwymedigaeth honno yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud â’r person cofrestredig (ac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi ar yr aelwyd honno lle y mae’r person cofrestredig yn warchodwr plant). Mae methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon yn drosedd.

Mae rheoliad 12 yn dirymu Rheoliadau 2022 ac yn darparu ar gyfer diwygiad canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.