2022 Rhif 12 (Cy. 6) (C. 1)
Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84(2), (3) a (4) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 20211, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 11 Ionawr 20222
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 11 Ionawr 2022—
a
adran 56(1) o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno, a
b
adran 57(1) o’r Ddeddf at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 20223
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022—
a
adran 56 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, a
b
adran 57 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 i 5 | 29 Medi 2021 | |
Adrannau 6 a 7 (yn rhannol) | 29 Medi 2021 | |
Adran 8 (yn rhannol) | 23 Tachwedd 2021 |