Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 12 (Cy. 6) (C. 1)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022

Gwnaed

6 Ionawr 2022

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 11 Ionawr 2022

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 11 Ionawr 2022—

(a)adran 56(1) o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno, a

(b)adran 57(1) o’r Ddeddf at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022—

(a)adran 56 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, a

(b)adran 57 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

6 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn erthygl 2 yn dod i rym ar 11 Ionawr 2022 ond dim ond at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 56(1) o’r Ddeddf ac at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd o dan adran 57(1) o’r Ddeddf.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod adrannau 56 a 57 yn dod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ar 1 Medi 2022.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 1 i 529 Medi 2021O.S. 2021/1069 (Cy. 252)(C. 61)
Adrannau 6 a 7 (yn rhannol)29 Medi 2021O.S. 2021/1069 (Cy. 252)(C. 61)
Adran 8 (yn rhannol)23 Tachwedd 2021O.S. 2021/1069 (Cy. 252)(C. 61)