Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1254 (Cy. 255)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

29 Tachwedd 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

30 Tachwedd 2022

Yn dod i rym

2 Rhagfyr 2022

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 2 Rhagfyr 2022.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2003” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003(2).

Asedau seilwaith

2.  Yn Rheoliadau 2003, ar ôl rheoliad 24K mewnosoder—

Infrastructure assets

24L.(1) In this regulation—

carrying amount” means the amount at which an asset is recognised after deducting any accumulated depreciation and impairment losses;

derecognised” means that all or part of an asset or liability is removed from an authority’s balance sheet;

infrastructure asset” means an asset owned by a local authority, which there is no prospect of the authority selling or using for any purpose other than that for which it was created, and which forms part of the infrastructure of the authority’s area, such as—

(a)

a highway,

(b)

a footpath,

(c)

a bridge,

(d)

a permanent way,

(e)

a coastal defence, or

(f)

a water supply and drainage system;

prior period adjustment” means a correction of a material accounting error within a local authority’s statement of accounts for a previous financial year.

(2) Paragraph (3) applies in relation to the accounts of a local authority—

(a)where the local authority is required to prepare a statement of accounts in accordance with regulation 8 of the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014(3), and

(b)the local authority has replaced a component of an infrastructure asset.

(3)  Where this paragraph applies the local authority, for the purposes of determining the carrying amount to be derecognised in respect of the component that has been replaced (“the relevant amount”), must—

(a)determine the relevant amount as nil, or

(b)calculate the relevant amount in accordance with the accounting practices identified in regulation 25.

(4) If a local authority determines the relevant amount in accordance with paragraph (3)(a) it must include a note to that effect in its statement of accounts for the year in relation to which that determination is made.

(5)  When preparing a statement of accounts to which this regulation applies, a local authority is not required to make any prior period adjustment to the balances of that statement of accounts in respect of infrastructure assets.

(6) This regulation applies in relation to accounts prepared for financial years falling within the periods beginning with 1 April 2021 and ending with 31 March 2025.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

29 Tachwedd 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) drwy fewnosod rheoliad 24L sy’n gwneud darpariaeth ynghylch yr arferion cyfrifyddu sydd i’w dilyn gan awdurdod lleol pan fo elfen arall wedi ei roi yn lle elfen o ased seilwaith. Mae rheoliad 24L yn gymwys i awdurdodau lleol y mae’n ofynnol iddynt lunio datganiad o gyfrifon yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Rhaid i awdurdod lleol naill ai cymryd mai dim yw swm cario ymlaen yr elfen nas cydnabyddir mwyach neu gyfrifo’r swm cario ymlaen yn unol â’r arferion cyfrifyddu a nodir o dan reoliad 25 o Reoliadau 2003.

Mae rheoliad 24L yn gymwys i gyfrifon ar gyfer blynyddoedd ariannol mewn cysylltiad â’r cyfnodau sy’n dechrau â 1 Ebrill 2021 ac sy’n gorffen â 31 Mawrth 2025.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2003 p. 26. Diwygiwyd adran 24 gan adran 238(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28). Mae’r pwerau o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fel y’i diwygiwyd.

(3)

O.S. 2014/3362 (Cy. 337), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/91 (Cy. 22); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.