- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
5 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym
30 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddir gan adran 16(1) i (4) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1) wedi eu breinio bellach ynddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos i’r Gweinidogion yn rhai cysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2022.
2.—(1) Mae Penderfyniad y Cyngor 2003/17 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 6, yn lle “31 December 2022” rhodder “31 December 2029”.
Lesley Griffiths
Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthygl 6 o Benderfyniad y Cyngor 2003/17 dyddiedig 16 Rhagfyr 2002 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd er mwyn estyn dyddiad dod i ben y Penderfyniad hwn.
1964 p. 14. Diwygiwyd adran 16(1), a mewnosodwyd adran 16(1A), gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Mae’r pwerau yn Neddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, o’u darllen ynghyd â pharagraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) yn caniatáu gwneud addasiadau i “retained direct minor EU legislation” fel y’i diffinnir yn adran 7(6) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964. Gweler adran 38(1) am y diffiniad o “the Minister”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
EUDN 2003/17. Mae diwygiadau i’r Penderfyniad hwn ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: