2022 Rhif 1276 (Cy. 259)

Hadau, Cymru

Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddir gan adran 16(1) i (4) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 19641 wedi eu breinio bellach ynddynt2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos i’r Gweinidogion yn rhai cysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2022.

Diwygio Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC2

1

Mae Penderfyniad y Cyngor 2003/17 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd3 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn Erthygl 6, yn lle “31 December 2022” rhodder “31 December 2029”.

Lesley GriffithsGweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthygl 6 o Benderfyniad y Cyngor 2003/17 dyddiedig 16 Rhagfyr 2002 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd er mwyn estyn dyddiad dod i ben y Penderfyniad hwn.