Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1276 (Cy. 259)

Hadau, Cymru

Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022

Gwnaed

5 Rhagfyr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

7 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos i’r Gweinidogion yn rhai cysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2022.

Diwygio Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC

2.—(1Mae Penderfyniad y Cyngor 2003/17 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 6, yn lle “31 December 2022” rhodder “31 December 2029”.

Lesley Griffiths

Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

5 Rhagfyr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthygl 6 o Benderfyniad y Cyngor 2003/17 dyddiedig 16 Rhagfyr 2002 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd er mwyn estyn dyddiad dod i ben y Penderfyniad hwn.

(1)

1964 p. 14. Diwygiwyd adran 16(1), a mewnosodwyd adran 16(1A), gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Mae’r pwerau yn Neddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, o’u darllen ynghyd â pharagraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) yn caniatáu gwneud addasiadau i “retained direct minor EU legislation” fel y’i diffinnir yn adran 7(6) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964. Gweler adran 38(1) am y diffiniad o “the Minister”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

EUDN 2003/17. Mae diwygiadau i’r Penderfyniad hwn ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.