Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1333 (Cy. 270)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

12 Rhagfyr 2022

Gwnaed

13 Rhagfyr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2022

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2022.

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

2.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff A1 (dehongli)—

(i)yn y diffiniad o “pla cwarantin parth gwarchodedig”, yn lle ““pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”)” rhodder ““pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu” (“PFA quarantine pest”)”;

(ii)yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;

(iii)yn y diffiniad o “pla cwarantin yr Undeb”, yn lle ““pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”)” rhodder ““pla cwarantin Prydain Fawr” (“GB quarantine pest”)”.

(b)ym mharagraffau 15, 28, 42 a 50 (gofynion cnydau a hadau), ym mhob lle y maent yn digwydd—

(i)yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu”;

(ii)yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

3.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.

Dirymu

4.  Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 wedi eu dirymu(4).

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

13 Rhagfyr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16. Gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”.

(2)

O.S. 2012/245 (Cy. 39). Mewnosodwyd paragraff A1 o Atodlen 2 gan O.S. 2020/833 (Cy. 182). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2017/691 (Cy. 163). Mewnosodwyd y diffiniad o “PRHG” gan O.S. 2020/833 (Cy. 182). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.