2022 Rhif 17 (Cy. 9)
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (6)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 56 a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 20211, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—
a
ar gyfer disgyblion a phlant y darperir addysg feithrin2 ar eu cyfer,
b
ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir,
c
ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir3,
d
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol4 o dan Ran 2 o Ddeddf 2021,
e
ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn uned cyfeirio disgyblion5,
f
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm perthnasol ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021, ac
g
ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD6 iddynt pan fo gan yr awdurdod lleol gwricwlwm perthnasol sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—
a
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir ac nad ydynt, ar 1 Medi 2022, o fewn paragraff (2)(d),
b
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),
c
ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),
d
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn ysgol a gynhelir,
e
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
f
ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 8 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
4
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—
a
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir,
b
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
c
ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 9 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
5
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—
a
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir,
b
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
c
ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 10 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
6
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—
a
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir,
b
ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
c
ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 11 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD” (“non-PRU EOTAS”) yw addysg a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 19A o Ddeddf 19967 ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion ac sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021;
ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant a disgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—
- a
mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu
- b
gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
- a
mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19968;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 19969;
mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf 1996;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 199610;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
- a
mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol honno,
- b
mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,
- c
mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a
- d
mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996;
- a
mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “tymor ysgol” (“school term”) yw’r dyddiadau y mae tymhorau a gwyliau ysgol i ddechrau a gorffen arnynt;
mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;
ystyr “ymarferydd” (“practitioner”) yw person sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm perthnasol;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;
mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.
Gwneud asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol3
1
Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud trefniadau ar gyfer asesu pob disgybl a phlentyn yn barhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol gan ymarferydd yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
a
mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth yr ysgol honno,
b
mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,
c
mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a
d
mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996.
3
Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol—
a
y cynnydd a wneir gan ddisgyblion a phlant,
b
y camau nesaf yn eu cynnydd, ac
c
yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
4
Rhaid i’r trefniadau asesu fod yn addas ar gyfer disgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol.
5
Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud y trefniadau asesu yr un pryd â chynllunio’r cwricwlwm perthnasol.
6
Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion paragraff (1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.
Gweithredu asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol4
Rhaid i’r trefniadau asesu yn rheoliad 3 gael eu gweithredu gan y person perthnasol.
Adolygu a diwygio trefniadau asesu parhaus5
1
Rhaid i’r person perthnasol gadw’r trefniadau asesu yn rheoliad 3 o dan adolygiad.
2
Rhaid i’r person perthnasol ddiwygio’r trefniadau asesu yn rheoliad 3—
a
os yw’r person hwnnw yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu yn bodloni gofynion rheoliadau 3 mwyach,
b
os yw’r person hwnnw yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 12, 16, 51 neu 54 o Ddeddf 2021,
c
mewn perthynas â darparwr sydd wedi mabwysiadu’r trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9, os yw Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r trefniadau asesu a gyhoeddir o dan reoliad 10, neu
d
os yw’r person hwnnw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
Gwneud trefniadau ar gyfer asesu dechreuol6
1
Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud trefniadau i bob disgybl a phlentyn gael eu hasesu gan ymarferydd yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
a
mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth yr ysgol honno,
b
mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,
c
mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a
d
mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996.
3
Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol, alluoedd a doniau disgyblion a phlant er mwyn pennu—
a
y camau nesaf yn eu cynnydd, a
b
yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
4
Rhaid i’r trefniadau asesu—
a
bod yn addas ar gyfer disgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a
b
cynnwys trefniadau ar gyfer asesu—
i
sgiliau rhifedd a llythrennedd disgyblion a phlant, a
ii
datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion a phlant.
5
Rhaid i’r asesiadau gael eu cynnal—
a
o fewn 6 wythnos i addysg feithrin gael ei darparu gyntaf i’r plentyn neu’r disgybl,
b
o fewn 6 wythnos i’r disgybl ddechrau gyntaf yn y flwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir pan nad oedd yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol honno yn flaenorol,
c
o fewn 6 wythnos i’r disgybl ddechrau gyntaf ym mlwyddyn 1 mewn ysgol a gynhelir,
d
o fewn 6 wythnos i’r disgybl gofrestru gyntaf fel disgybl mewn uned cyfeirio disgyblion,
e
o fewn 6 wythnos i’r disgybl gofrestru fel disgybl mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion o dan unrhyw amgylchiadau eraill nad ydynt wedi eu nodi ym mharagraffau (b) i (d), ac
f
o fewn 6 wythnos i addysg gael ei darparu i’r plentyn o dan adran 19A o Ddeddf 1996 ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion.
6
Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion paragraff (1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.
Gweithredu trefniadau ar gyfer asesu dechreuol7
Rhaid i’r trefniadau asesu yn rheoliad 6 gael eu gweithredu gan y person perthnasol.
Adolygu a diwygio’r trefniadau ar gyfer asesu dechreuol8
1
Rhaid i’r person perthnasol gadw’r trefniadau asesu yn rheoliad 6 o dan adolygiad.
2
Rhaid i’r person perthnasol ddiwygio’r trefniadau asesu a wneir o dan reoliad 6—
a
os yw’r person hwnnw yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu yn bodloni gofynion rheoliadau 6 mwyach,
b
os yw’r person hwnnw yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 12, 16, 51 neu 54 o Ddeddf 2021,
c
mewn perthynas â darparwr sydd wedi mabwysiadu’r trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9, os yw Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r trefniadau asesu a gyhoeddir o dan reoliad 10, neu
d
os yw’r person hwnnw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi trefniadau asesu9
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi trefniadau asesu ar gyfer plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir iddynt (“trefniadau asesu rheoliad 9”).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r trefniadau asesu rheoliad 9 am y tro cyntaf heb fod yn hwyrach na 1 Medi 2023.
3
Rhaid i’r trefniadau asesu fodloni gofynion rheoliadau 3 a 6.
Adolygu a diwygio trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru10
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cadw’r trefniadau asesu rheoliad 9 o dan adolygiad, a
b
adolygu’r trefniadau asesu rheoliad 9 pan fyddant yn adolygu’r cwricwlwm perthnasol o dan adran 14 o Ddeddf 2021.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r trefniadau asesu rheoliad 9—
a
os ydynt yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu hynny yn bodloni’r gofynion yn rheoliad 3(1) i (5) neu 6(1) i (5) mwyach,
b
os ydynt yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 16 o Ddeddf 2021, neu
c
os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)