Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 17 (Cy. 9)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022

Gwnaed

7 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

11 Ionawr 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (6)

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—

(a)ar gyfer disgyblion a phlant y darperir addysg feithrin(2) ar eu cyfer,

(b)ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir,

(c)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir(3),

(d)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol(4) o dan Ran 2 o Ddeddf 2021,

(e)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn uned cyfeirio disgyblion(5),

(f)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm perthnasol ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021, ac

(g)ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD(6) iddynt pan fo gan yr awdurdod lleol gwricwlwm perthnasol sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir ac nad ydynt, ar 1 Medi 2022, o fewn paragraff (2)(d),

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),

(c)ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),

(d)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn ysgol a gynhelir,

(e)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(f)ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 8 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(4Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 9 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(5Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 10 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(6Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 11 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD” (“non-PRU EOTAS”) yw addysg a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 19A o Ddeddf 1996(7) ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion ac sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021;

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant a disgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—

(a)

mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu

(b)

gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(8);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(9);

mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf 1996;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996(10);

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

(a)

mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol honno,

(b)

mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,

(c)

mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a

(d)

mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996;

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “tymor ysgol” (“school term”) yw’r dyddiadau y mae tymhorau a gwyliau ysgol i ddechrau a gorffen arnynt;

mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;

ystyr “ymarferydd” (“practitioner”) yw person sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm perthnasol;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.

Gwneud asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol

3.—(1Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud trefniadau ar gyfer asesu pob disgybl a phlentyn yn barhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol gan ymarferydd yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth yr ysgol honno,

(b)mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,

(c)mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a

(d)mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996.

(3Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol—

(a)y cynnydd a wneir gan ddisgyblion a phlant,

(b)y camau nesaf yn eu cynnydd, ac

(c)yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.

(4Rhaid i’r trefniadau asesu fod yn addas ar gyfer disgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol.

(5Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud y trefniadau asesu yr un pryd â chynllunio’r cwricwlwm perthnasol.

(6Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion paragraff (1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.

Gweithredu asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol

4.  Rhaid i’r trefniadau asesu yn rheoliad 3 gael eu gweithredu gan y person perthnasol.

Adolygu a diwygio trefniadau asesu parhaus

5.—(1Rhaid i’r person perthnasol gadw’r trefniadau asesu yn rheoliad 3 o dan adolygiad.

(2Rhaid i’r person perthnasol ddiwygio’r trefniadau asesu yn rheoliad 3—

(a)os yw’r person hwnnw yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu yn bodloni gofynion rheoliadau 3 mwyach,

(b)os yw’r person hwnnw yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 12, 16, 51 neu 54 o Ddeddf 2021,

(c)mewn perthynas â darparwr sydd wedi mabwysiadu’r trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9, os yw Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r trefniadau asesu a gyhoeddir o dan reoliad 10, neu

(d)os yw’r person hwnnw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

Gwneud trefniadau ar gyfer asesu dechreuol

6.—(1Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud trefniadau i bob disgybl a phlentyn gael eu hasesu gan ymarferydd yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth yr ysgol honno,

(b)mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,

(c)mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a

(d)mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996.

(3Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol, alluoedd a doniau disgyblion a phlant er mwyn pennu—

(a)y camau nesaf yn eu cynnydd, a

(b)yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.

(4Rhaid i’r trefniadau asesu—

(a)bod yn addas ar gyfer disgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a

(b)cynnwys trefniadau ar gyfer asesu—

(i)sgiliau rhifedd a llythrennedd disgyblion a phlant, a

(ii)datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion a phlant.

(5Rhaid i’r asesiadau gael eu cynnal—

(a)o fewn 6 wythnos i addysg feithrin gael ei darparu gyntaf i’r plentyn neu’r disgybl,

(b)o fewn 6 wythnos i’r disgybl ddechrau gyntaf yn y flwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir pan nad oedd yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol honno yn flaenorol,

(c)o fewn 6 wythnos i’r disgybl ddechrau gyntaf ym mlwyddyn 1 mewn ysgol a gynhelir,

(d)o fewn 6 wythnos i’r disgybl gofrestru gyntaf fel disgybl mewn uned cyfeirio disgyblion,

(e)o fewn 6 wythnos i’r disgybl gofrestru fel disgybl mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion o dan unrhyw amgylchiadau eraill nad ydynt wedi eu nodi ym mharagraffau (b) i (d), ac

(f)o fewn 6 wythnos i addysg gael ei darparu i’r plentyn o dan adran 19A o Ddeddf 1996 ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion.

(6Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion paragraff (1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.

Gweithredu trefniadau ar gyfer asesu dechreuol

7.  Rhaid i’r trefniadau asesu yn rheoliad 6 gael eu gweithredu gan y person perthnasol.

Adolygu a diwygio’r trefniadau ar gyfer asesu dechreuol

8.—(1Rhaid i’r person perthnasol gadw’r trefniadau asesu yn rheoliad 6 o dan adolygiad.

(2Rhaid i’r person perthnasol ddiwygio’r trefniadau asesu a wneir o dan reoliad 6—

(a)os yw’r person hwnnw yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu yn bodloni gofynion rheoliadau 6 mwyach,

(b)os yw’r person hwnnw yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 12, 16, 51 neu 54 o Ddeddf 2021,

(c)mewn perthynas â darparwr sydd wedi mabwysiadu’r trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9, os yw Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r trefniadau asesu a gyhoeddir o dan reoliad 10, neu

(d)os yw’r person hwnnw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi trefniadau asesu

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi trefniadau asesu ar gyfer plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir iddynt (“trefniadau asesu rheoliad 9”).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r trefniadau asesu rheoliad 9 am y tro cyntaf heb fod yn hwyrach na 1 Medi 2023.

(3Rhaid i’r trefniadau asesu fodloni gofynion rheoliadau 3 a 6.

Adolygu a diwygio trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru

10.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cadw’r trefniadau asesu rheoliad 9 o dan adolygiad, a

(b)adolygu’r trefniadau asesu rheoliad 9 pan fyddant yn adolygu’r cwricwlwm perthnasol o dan adran 14 o Ddeddf 2021.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r trefniadau asesu rheoliad 9—

(a)os ydynt yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu hynny yn bodloni’r gofynion yn rheoliad 3(1) i (5) neu 6(1) i (5) mwyach,

(b)os ydynt yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 16 o Ddeddf 2021, neu

(c)os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

7 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru. Mae adran 56 o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer asesu mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol. Mae i “cwricwlwm perthnasol” yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer cychwyn y Rheoliadau hyn fesul grwpiau blwyddyn. Bydd hyn yn adlewyrchu’r dull arfaethedig o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser fesul grwpiau blwyddyn.

Daw’r Cwricwlwm i Gymru a’r Rheoliadau hyn yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a)ar 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)plant sy’n cael addysg feithrin,

(ii)disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,

(iii)disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,

(b)ar 1 Medi 2022 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgolion a lleoliadau eraill pan fo cwricwlwm wedi ei fabwysiadu neu wedi ei ddarparu fel arall yn unol â’r Ddeddf,

(c)ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 nad ydynt o fewn paragraff (b),

(d)ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8,

(e)ar 1 Medi 2024 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9,

(f)ar 1 Medi 2025 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(g)ar 1 Medi 2026 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r lleoliadau a ganlyn—

(a)ysgolion a gynhelir,

(b)ysgolion meithrin a gynhelir,

(c)darparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(d)unedau cyfeirio disgyblion, ac

(e)person sy’n trefnu neu’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (“asesiadau parhaus”).

Mae rheoliad 3(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau a ragnodir wneud trefniadau ar gyfer asesu disgyblion a phlant yn barhaus yn unol â’r gofynion a nodir ym mharagraffau (3) i (5) o reoliad 3 (“asesiadau parhaus”).

Mae rheoliad 3(6) yn darparu y caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion rheoliad 3(1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9 yn hytrach na chynllunio ei asesiadau parhaus ei hun. Mae i’r term “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” yr ystyr a roddir iddo gan adran 80(2) o’r Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwr o’r fath naill ai cynllunio ei drefniadau asesu ei hun neu fabwysiadu’r rheini a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r asesiadau parhaus gael eu cynnal ar adegau rhagnodedig. Fodd bynnag, mae rheoliad 3(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r asesiadau fod yn barhaus ac iddynt gael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ysgol. Bydd ffurf y trefniadau asesu yn amrywio a byddant yn defnyddio ystod o ddulliau asesu.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu’r asesiadau parhaus. Mae gweithredu’r asesiadau parhaus yn golygu gweinyddu’r asesiadau hynny.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu a diwygio’r asesiadau parhaus.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau a ragnodir yn y rheoliad hwnnw wneud trefniadau ar gyfer asesu disgyblion a phlant yn unol â gofynion paragraffau (4) a (5) o reoliad 6 (“asesiadau dechreuol”).

Mae diben y trefniadau ar gyfer asesu dechreuol wedi ei nodi ym mharagraff (3) o reoliad 6.

Mae rheoliad 6(5) yn darparu bod rhaid cynnal yr asesiadau dechreuol o fewn 6 wythnos i’r digwyddiadau a nodir yn y paragraff hwnnw.

Mae rheoliad 6(6) yn darparu y caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion rheoliad 6(1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9 yn hytrach na chynllunio ei asesiadau ei hun ar gyfer asesu dechreuol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwr o’r fath naill ai cynllunio ei drefniadau asesu ei hun neu fabwysiadu’r rheini a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu’r asesiadau dechreuol. Mae gweithredu’r asesiadau dechreuol yn golygu gweinyddu’r asesiadau hynny.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu a diwygio’r trefniadau ar gyfer asesu dechreuol.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi trefniadau asesu y caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir eu mabwysiadu at ddibenion rheoliad 3(1) a 6(1) (“trefniadau asesu rheoliad 9”). Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r set gyntaf o drefniadau asesu rheoliad 9 heb fod yn hwyrach na 1 Medi 2023.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu a diwygio’r trefniadau asesu rheoliad 9.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(2)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “addysg feithrin”.

(3)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “ysgol a gynhelir”.

(4)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “cwricwlwm perthnasol”.

(5)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “uned cyfeirio disgyblion”.

(6)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD”.

(7)

Mewnosodwyd adran 19A gan adran 73 o Ddeddf 2021 a pharagraff 4 o Atodlen 2 iddi.

(9)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi a diwygiwyd is-adran (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.

(10)

Amnewidiwyd is-adran (2) gan adran 52(2) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44). Amnewidiwyd is-adran (4) gan adran 53(3) o Ddeddf Addysg 1997.