2022 Rhif 178 (Cy. 58)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537 a 569(4) o Ddeddf Addysg 19961, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 20023 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy4, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2022.

Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 20112

1

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 20115 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl rheoliad 1B mewnosoder—

Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-20221C

Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2021-20226 gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.

3

Yn rheoliad 5(2)(a), ar ôl “rheoliad 1B” mewnosoder “neu 1C”.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 20113

Ar ôl rheoliad 1B o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 20117 mewnosoder—

Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-20221C

Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2021-20228 gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau er mwyn llacio nifer o ofynion ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-2022 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—

a

paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o berfformiad yr ysgol uwchradd),

b

paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig disgyblion a nifer absenoldebau anawdurdodedig disgyblion), ac

c

paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach sy’n ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).

Mae diwygiad canlyniadol wedi ei wneud hefyd i reoliad 5(2)(a) o’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol mewn perthynas â gofynion ffurf fer yr adroddiad blynyddol.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”) yn rhagnodi’r wybodaeth ysgol y mae rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Ystyrir yr effeithir yn benodol ar y data ynghylch absenoldebau disgyblion ac felly ni ddylid eu cyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Felly, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data a nodir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny (data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2021-2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.