2022 Rhif 28 (Cy. 13)
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161.
Enwi a chychwynI11
DehongliI22
1
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
2
Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf.
Datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau rhagnodedigI3I33
1
Mae’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i—
a
contract meddiannaeth diogel, wedi ei nodi yn Atodlen 1;
b
contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 2;
c
contract safonol cyfnod penodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 3.
2
At ddibenion y rheoliad hwn—
a
ystyr “contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol” yw contract meddiannaeth safonol cyfnodol—
i
nad yw’n gontract safonol â chymorth;
ii
nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol;
iii
nad yw’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
iv
nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd yn bodoli ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf;
v
nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd o fewn Atodlen 8A3 (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 94 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf;
b
ystyr “contract safonol cyfnod penodol perthnasol” yw contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—
i
nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord o dan adran 1945 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,
ii
nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, a
iii
nad yw o fewn Atodlen 9B6 (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.
I4F2ATODLEN 1
Atod. 1 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau “y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(2)
I5F3F4ATODLEN 2
Atod. 2 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau "y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(3)(a)
Atod. 2 Rhn. 3: ar ddechrau paragraff (3)(a) mae'r geiriau “cyn i’r contract hwn ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad," wedi eu mewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(3)(b)(ii)(aa)
I6F5F6F7F8ATODLEN 3
Atod. 3 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau “y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(i)
Atod. 3 Rhn. 1: ar ôl paragraff (c) mae paragraff newydd "Os ydych yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod penodol, rydych chi a’r landlord i’ch trin fel pe baech wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd." wedi ei fewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(ii)
Atod. 3 Rhn. 2: yn Rhan 2 (contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol – materion allweddol), yn y paragraff cyntaf, mae'r geiriau “a nodir isod” wedi eu hamnewid i “o ____________________ (mewnosoder cyfnod y contract meddiannaeth mewn dyddiau/wythnosau/misoedd/blynyddoedd)”wedi eu hamnewid (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(b)
Atod. 3 Rhn. 3: yn Rhan 3 (contract safonol cyfnod penodol – telerau sylfaenol ac atodol), ar ddiwedd is-bennawd teler 39 (hysbysiadau adennill meddiant) mae “(F+)”.wedi ei fewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(c)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Atod. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1) (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 7), gweler rhl. 1