Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 314 (Cy. 82)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022

Gwnaed

16 Mawrth 2022

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021(1) a wnaed o dan adran 37(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”).

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r camgymeriad hwnnw ac yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pŵer a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).

Diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021

2.—(1Mae Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 4(b) (cymuned Rhymni: newidiadau i wardiau cymunedol), yn lle “Moriah” rhodder “Dewi Sant”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 (“Gorchymyn 2021”), sy’n gweithredu’r argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel yr oeddent wedi eu cynnwys yn adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dyddiedig mis Tachwedd 2020 (“yr Adroddiad”), gydag addasiadau.

Rhoddodd erthygl 4 o Orchymyn 2021 effaith i argymhellion y Comisiwn ar gyfer newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol yng nghymuned Rhymni. Drwy gamgymeriad, cyfeiriodd yr Adroddiad at drosglwyddo ardal oddi wrth ward gymunedol Moriah i ward gymunedol Twyncarno pan ddylai fod wedi bod oddi wrth ward gymunedol Dewi Sant i ward gymunedol Twyncarno. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(3)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”).

(4)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.