Search Legislation

Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/05/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 355 (Cy. 88)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022

Gwnaed

22 Mawrth 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

25 Mawrth 2022

Yn dod i rym

5 Mai 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 173(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1) ac adran 8(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2).

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(3) (llofnodi tystysgrifau – awdurdodau â phrif swyddog cyllid), ar ôl “1989 Act” mewnosoder “other than a county council or county borough council in Wales,”.

(3Ar ôl rheoliad 7(3), mewnosoder—

(4) A county council or county borough council in Wales which is under a duty to appoint a chief executive under section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 must ensure that a certificate issued by it is signed by one of the following officers of the council—

(a)one of the statutory chief officers within the meaning given to that expression in section 2(6) of the 1989 Act;

(b)a non-statutory chief officer within the meaning given to that expression in section 2(7) of the 1989 Act; or

(c)a deputy chief officer within the meaning given to that expression in section 2(8) of the 1989 Act.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006LL+C

3.—(1Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(5) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “prif swyddog”, yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)ei brif weithredwr;;

(b)hepgorer y diffiniad o “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod”;

(c)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw’r person a benodir yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;.

(3Yn rheoliad 7(2)(a)(6) (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.

(4Yn rheoliad 8(1)(7) (rheolau sefydlog o ran camau disgyblu), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.

(5Yn lle rheoliad 9(1A)(a)(8) (ymchwilio i gamymddwyn honedig) rhodder—

(a)prif weithredwr yr awdurdod;.

(6Yn Rhan 1 o Atodlen 3(9) (awdurdod gyda maer a chabinet gweithredol)—

(a)ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;

(b)yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—

(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;;

(c)ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.

(7Yn Rhan 2 o Atodlen 3(10) (awdurdod gydag arweinydd a chabinet gweithredol)—

(a)ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;

(b)yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—

(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;;

(c)ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.

(8Yn Atodlen 4(11) (darpariaethau i’w hymgorffori yn y rheolau sefydlog parthed camau disgyblu)—

(a)ym mharagraff 1, yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” (“head of the authority’s paid service”) rhodder ““prif weithredwr” (“chief executve”)”;

(b)ym mharagraff 2(1), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007LL+C

4.—(1Mae paragraff 12 o Ran Ff (swyddogaethau amrywiol) o’r tabl yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(12) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle’r cofnod yng ngholofn 1, rhodder “Y ddyletswydd i benodi prif weithredwr, ac i ddarparu staff, etc.”

(3Yn lle’r cofnod yng ngholofn 2, rhodder “Adran 54(1) a (6) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008LL+C

5.  Yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(13), ym mharagraff 8(a)(i) o Ran 1 o’r Atodlen (y cod ymddygiad enghreifftiol), ar y diwedd mewnosoder “ar gyfer awdurdodau heblaw cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, a phrif weithredwr yr awdurdod os yw’r awdurdod yn gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013LL+C

6.  Yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013(14), yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiadau gan awdurdodau bilio) rhodder—

(a)y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014LL+C

7.—(1Yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014(15), mae rheoliad 9(8) (datganiad o dâl) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “prif weithredwr”—

(a)ym mharagraff (a), hepgorer y geiriau “gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol,”;

(b)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn achos corff perthnasol sy’n gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol, y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf 2021;.

(3Yn y diffiniad o “cyflogai hŷn”, yn lle paragraff (a)(i) rhodder—

(i)yn achos corff perthnasol heblaw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei ddynodi yn bennaeth y gwasanaeth cyflogedig o dan adran 4 o’r Ddeddf honno, ac yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei benodi yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf 2021;.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014LL+C

8.  Yn Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014(16), yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiad gan awdurdodau lleol) rhodder—

(a)y swyddog a benodwyd yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â swyddogion cyfredol a ddynodwyd yn benaethiaid y gwasanaeth taledigLL+C

9.—(1Mae’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 i’w drin fel y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(2Nid yw’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 yn ddarostyngedig i’r broses benodi o dan baragraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 at ddibenion paragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

DirymuLL+C

10.  Mae rheoliad 11 (darpariaethau trosiannol a chanlyniadol) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 wedi ei ddirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol i adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). Mae adran 54 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) benodi prif weithredwr. Mae’r gofyniad hwn yn disodli’r gofyniad ar brif gynghorau i ddynodi un o’u swyddogion yn bennaeth eu gwasanaeth taledig o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”).

Mae rheoliad 9(1) yn ddarpariaeth drosiannol, sy’n darparu bod y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod o dan adran 4 o Ddeddf 1989 yn union cyn 5 Mai 2022 i’w drin fel y prif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf 2021. Mae rheoliad 9(2) yn darparu nad yw’r gyfundrefn benodi a nodir ym mharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 yn gymwys i benaethiaid gwasanaeth taledig sy’n cael eu trin fel prif weithredwyr o dan reoliad 9(1).

Mae rheoliad 10 yn dirymu rheoliad 11 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

1989 p. 42. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 8(4), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p, 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

Amnewidiwyd rheoliad 7 gan reoliad 6 o O.S. 2014/1514 (Cy. 155).

(7)

Diwygiwyd rheoliad 8 gan reoliad 7 o O.S. 2014/1514.

(8)

Amnewidiwyd rheoliad 9(1A) gan reoliad 8 o O.S. 2014/1514.

(9)

Diwygiwyd Rhan 1 o Atodlen 3 gan reoliad 10(1) o O.S. 2014/1514.

(10)

Diwygiwyd Rhan 2 o Atodlen 3 gan reoliad 10(2) o O.S. 2014/1514.

(11)

Diwygiwyd Atodlen 4 gan reoliad 11 o O.S. 2014/1514.

(12)

O.S. 2007/399 (Cy. 45), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

O.S. 2013/588 (Cy. 67), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(15)

O.S. 2014/3362 (Cy. 337), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources