2022 Rhif 355 (Cy. 88)
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Enwi a chychwynI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997I22
1
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 19973 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 7(3) (llofnodi tystysgrifau – awdurdodau â phrif swyddog cyllid), ar ôl “1989 Act” mewnosoder “other than a county council or county borough council in Wales,”.
3
Ar ôl rheoliad 7(3), mewnosoder—
4
A county council or county borough council in Wales which is under a duty to appoint a chief executive under section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 must ensure that a certificate issued by it is signed by one of the following officers of the council—
a
one of the statutory chief officers within the meaning given to that expression in section 2(6) of the 1989 Act;
b
a non-statutory chief officer within the meaning given to that expression in section 2(7) of the 1989 Act; or
c
a deputy chief officer within the meaning given to that expression in section 2(8) of the 1989 Act.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006I33
1
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 20064 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 25 (dehongli)—
a
yn y diffiniad o “prif swyddog”, yn lle paragraff (a) rhodder—
a
ei brif weithredwr;
b
hepgorer y diffiniad o “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod”;
c
yn y lle priodol, mewnosoder—
ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw’r person a benodir yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
3
Yn rheoliad 7(2)(a)6 (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
4
Yn rheoliad 8(1)7 (rheolau sefydlog o ran camau disgyblu), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
5
Yn lle rheoliad 9(1A)(a)8 (ymchwilio i gamymddwyn honedig) rhodder—
a
prif weithredwr yr awdurdod;
6
Yn Rhan 1 o Atodlen 39 (awdurdod gyda maer a chabinet gweithredol)—
a
ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;
b
yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—
a
y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;
c
ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.
7
Yn Rhan 2 o Atodlen 310 (awdurdod gydag arweinydd a chabinet gweithredol)—
a
ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;
b
yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—
a
y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;
c
ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.
8
Yn Atodlen 411 (darpariaethau i’w hymgorffori yn y rheolau sefydlog parthed camau disgyblu)—
a
ym mharagraff 1, yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” (“head of the authority’s paid service”) rhodder ““prif weithredwr” (“chief executve”)”;
b
ym mharagraff 2(1), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007I44
1
Mae paragraff 12 o Ran Ff (swyddogaethau amrywiol) o’r tabl yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 200712 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle’r cofnod yng ngholofn 1, rhodder “Y ddyletswydd i benodi prif weithredwr, ac i ddarparu staff, etc.”
3
Yn lle’r cofnod yng ngholofn 2, rhodder “Adran 54(1) a (6) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008I55
Yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 200813, ym mharagraff 8(a)(i) o Ran 1 o’r Atodlen (y cod ymddygiad enghreifftiol), ar y diwedd mewnosoder “ar gyfer awdurdodau heblaw cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, a phrif weithredwr yr awdurdod os yw’r awdurdod yn gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol”.
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013I66
Yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 201314, yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiadau gan awdurdodau bilio) rhodder—
a
y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014I77
1
Yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 201415, mae rheoliad 9(8) (datganiad o dâl) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn y diffiniad o “prif weithredwr”—
a
ym mharagraff (a), hepgorer y geiriau “gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol,”;
b
ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
aa
yn achos corff perthnasol sy’n gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol, y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf 2021;
3
Yn y diffiniad o “cyflogai hŷn”, yn lle paragraff (a)(i) rhodder—
i
yn achos corff perthnasol heblaw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei ddynodi yn bennaeth y gwasanaeth cyflogedig o dan adran 4 o’r Ddeddf honno, ac yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei benodi yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf 2021;
Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014I88
Yn Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 201416, yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiad gan awdurdodau lleol) rhodder—
a
y swyddog a benodwyd yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu
Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â swyddogion cyfredol a ddynodwyd yn benaethiaid y gwasanaeth taledigI99
1
Mae’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 i’w drin fel y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
2
Nid yw’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 yn ddarostyngedig i’r broses benodi o dan baragraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 at ddibenion paragraff (1).
DirymuI1010
Mae rheoliad 11 (darpariaethau trosiannol a chanlyniadol) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 wedi ei ddirymu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)