Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
22 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Mawrth 2022
Yn dod i rym
5 Mai 2022
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(3) (llofnodi tystysgrifau – awdurdodau â phrif swyddog cyllid), ar ôl “1989 Act” mewnosoder “other than a county council or county borough council in Wales,”.
(3) Ar ôl rheoliad 7(3), mewnosoder—
“(4) A county council or county borough council in Wales which is under a duty to appoint a chief executive under section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 must ensure that a certificate issued by it is signed by one of the following officers of the council—
(a)one of the statutory chief officers within the meaning given to that expression in section 2(6) of the 1989 Act;
(b)a non-statutory chief officer within the meaning given to that expression in section 2(7) of the 1989 Act; or
(c)a deputy chief officer within the meaning given to that expression in section 2(8) of the 1989 Act.”
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(5) (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “prif swyddog”, yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)ei brif weithredwr;”;
(b)hepgorer y diffiniad o “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod”;
(c)yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw’r person a benodir yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
(3) Yn rheoliad 7(2)(a)(6) (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
(4) Yn rheoliad 8(1)(7) (rheolau sefydlog o ran camau disgyblu), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
(5) Yn lle rheoliad 9(1A)(a)(8) (ymchwilio i gamymddwyn honedig) rhodder—
“(a)prif weithredwr yr awdurdod;”.
(6) Yn Rhan 1 o Atodlen 3(9) (awdurdod gyda maer a chabinet gweithredol)—
(a)ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;
(b)yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—
“(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;”;
(c)ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.
(7) Yn Rhan 2 o Atodlen 3(10) (awdurdod gydag arweinydd a chabinet gweithredol)—
(a)ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;
(b)yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—
“(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;”;
(c)ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.
(8) Yn Atodlen 4(11) (darpariaethau i’w hymgorffori yn y rheolau sefydlog parthed camau disgyblu)—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” (“head of the authority’s paid service”) rhodder ““prif weithredwr” (“chief executve”)”;
(b)ym mharagraff 2(1), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae paragraff 12 o Ran Ff (swyddogaethau amrywiol) o’r tabl yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(12) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r cofnod yng ngholofn 1, rhodder “Y ddyletswydd i benodi prif weithredwr, ac i ddarparu staff, etc.”
(3) Yn lle’r cofnod yng ngholofn 2, rhodder “Adran 54(1) a (6) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
5. Yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(13), ym mharagraff 8(a)(i) o Ran 1 o’r Atodlen (y cod ymddygiad enghreifftiol), ar y diwedd mewnosoder “ar gyfer awdurdodau heblaw cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, a phrif weithredwr yr awdurdod os yw’r awdurdod yn gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
6. Yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013(14), yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiadau gan awdurdodau bilio) rhodder—
“(a)y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014(15), mae rheoliad 9(8) (datganiad o dâl) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “prif weithredwr”—
(a)ym mharagraff (a), hepgorer y geiriau “gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol,”;
(b)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)yn achos corff perthnasol sy’n gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol, y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf 2021;”.
(3) Yn y diffiniad o “cyflogai hŷn”, yn lle paragraff (a)(i) rhodder—
“(i)yn achos corff perthnasol heblaw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei ddynodi yn bennaeth y gwasanaeth cyflogedig o dan adran 4 o’r Ddeddf honno, ac yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei benodi yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf 2021;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
8. Yn Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014(16), yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiad gan awdurdodau lleol) rhodder—
“(a)y swyddog a benodwyd yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mae’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 i’w drin fel y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
(2) Nid yw’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 yn ddarostyngedig i’r broses benodi o dan baragraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 at ddibenion paragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
10. Mae rheoliad 11 (darpariaethau trosiannol a chanlyniadol) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 wedi ei ddirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 5.5.2022, gweler rhl. 1(2)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol i adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). Mae adran 54 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) benodi prif weithredwr. Mae’r gofyniad hwn yn disodli’r gofyniad ar brif gynghorau i ddynodi un o’u swyddogion yn bennaeth eu gwasanaeth taledig o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”).
Mae rheoliad 9(1) yn ddarpariaeth drosiannol, sy’n darparu bod y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod o dan adran 4 o Ddeddf 1989 yn union cyn 5 Mai 2022 i’w drin fel y prif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf 2021. Mae rheoliad 9(2) yn darparu nad yw’r gyfundrefn benodi a nodir ym mharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 yn gymwys i benaethiaid gwasanaeth taledig sy’n cael eu trin fel prif weithredwyr o dan reoliad 9(1).
Mae rheoliad 10 yn dirymu rheoliad 11 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 42. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 8(4), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p, 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Amnewidiwyd rheoliad 7 gan reoliad 6 o O.S. 2014/1514 (Cy. 155).
Diwygiwyd rheoliad 8 gan reoliad 7 o O.S. 2014/1514.
Amnewidiwyd rheoliad 9(1A) gan reoliad 8 o O.S. 2014/1514.
Diwygiwyd Rhan 1 o Atodlen 3 gan reoliad 10(1) o O.S. 2014/1514.
Diwygiwyd Rhan 2 o Atodlen 3 gan reoliad 10(2) o O.S. 2014/1514.
Diwygiwyd Atodlen 4 gan reoliad 11 o O.S. 2014/1514.
O.S. 2007/399 (Cy. 45), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2013/588 (Cy. 67), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2014/3362 (Cy. 337), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.