2022 Rhif 367 (Cy. 89)

Llywodraeth Leol, Cymru
Cyfraith Trosedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 17(4) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 19981, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 114(3)3 o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mawrth 2022.

Diwygio adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 19982

Yn adran 17(2)4 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, ar ôl “a joint authority;” mewnosoder “a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (asc 1);”.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 17(2) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) (“y Ddeddf”) i ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y rhestr o awdurdodau yn adran 17(2) o’r Ddeddf, ac fel y cyfryw maent yn agored i gydymffurfio ag adran 17(1).

Mae adran 17(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sy’n ddarostyngedig iddi, i roi sylw dyladwy i effaith debygol arfer eu swyddogaethau ar droseddu ac anhrefn yn eu hardaloedd, camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill yn eu hardaloedd, ac aildroseddu yn eu hardaloedd, a’r angen i wneud popeth y gellir yn rhesymol ei wneud i atal y pethau hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar yr adeg y gwnaed y rheoliadau sefydlu hynny, a dibynnir ar yr asesiad hwnnw at ddiben y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.