Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Cyfraith Trosedd, Cymru
Gwnaed
23 Mawrth 2022
Yn dod i rym
25 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 17(4) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 114(3)(3) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mawrth 2022.
2. Yn adran 17(2)(4) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, ar ôl “a joint authority;” mewnosoder “a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (asc 1);”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 17(2) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) (“y Ddeddf”) i ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y rhestr o awdurdodau yn adran 17(2) o’r Ddeddf, ac fel y cyfryw maent yn agored i gydymffurfio ag adran 17(1).
Mae adran 17(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sy’n ddarostyngedig iddi, i roi sylw dyladwy i effaith debygol arfer eu swyddogaethau ar droseddu ac anhrefn yn eu hardaloedd, camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill yn eu hardaloedd, ac aildroseddu yn eu hardaloedd, a’r angen i wneud popeth y gellir yn rhesymol ei wneud i atal y pethau hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar yr adeg y gwnaed y rheoliadau sefydlu hynny, a dibynnir ar yr asesiad hwnnw at ddiben y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1998 p. 37. Mewnosodwyd adran 17(4) gan Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48).
Trosglwyddwyd y pŵer a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 17(4) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, fel “the appropriate authority” yn unol ag adrannau 5(7) a 17(5) o’r Ddeddf honno, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd adran 114(3) gan Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006; Deddf Plismona a Throseddu 2009 (p. 26); Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20); Deddf Plismona a Throseddu 2017 (p. 3); Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13); O.S. 2008/78; a Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Ceir diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.