2022 Rhif 403 (Cy. 100)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a (b) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2:

RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mai 2022.

Cymhwyso2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

3

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20173 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras

Diwygiadau i reoliad 24

Yn rheoliad 2(1)—

a

hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

b

yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).

Diwygiadau i reoliad 35

Yn rheoliad 3(10)(a)—

a

ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;

b

ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiad i Atodlen 16

Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

7

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 20184 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras

Diwygiadau i reoliad 28

Yn rheoliad 2(1)—

a

hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

b

yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).

Diwygiadau i reoliad 39

Yn rheoliad 3(11)(a)—

a

ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;

b

ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiad i Atodlen 110

Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).

PENNOD 3Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan

Diwygiad i reoliad 211

Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person—

    1. a

      y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;

    2. b

      y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;

    3. c

      y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu

    4. d

      y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (c) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;

Diwygiad i reoliad 812

Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (bb), mewnosoder—

bc

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

Diwygiadau i Atodlen 113

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A(4)(b)—

a

yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ddiwedd is-baragraff (iv), mewnosoder “neu”;

b

ar ôl is-baragraff (iv), mewnosoder—

v

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

PENNOD 4Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol

Diwygiadau i reoliad 1314

Yn rheoliad 13—

a

ym mharagraff (1), yn lle “£27,265” rhodder “£27,880”;

b

ym mharagraff (2)(b), yn lle “£27,265” rhodder “£27,880”.

PENNOD 5Diwygiadau sy’n ymwneud â rhaglenni seicoleg addysgol penodol

Diwygiad i reoliad 315

Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

3A

Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—

a

os yw A yn ymgymryd â rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n arwain at ddyfarnu doethuriaeth mewn seicoleg addysgol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, a

b

os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r rhaglen honno unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a gyllidir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

PENNOD 1Cyflwyniad

16

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20195 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras

Diwygiadau i reoliad 12A17

Yn rheoliad 12A(a)—

a

yn is-baragraff (i), hepgorer “(iii),”;

b

yn is-baragraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiadau i Atodlen 118

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(1)—

a

hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

b

yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii) o’r diffiniad hwnnw.

Diwygiad i Atodlen 219

Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 1(2)(a)(iii).

Diwygiad i Atodlen 420

Yn Atodlen 4, hepgorer y cofnod yn y tabl ar gyfer “cyfnod gras”.

PENNOD 3Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan

Diwygiadau i reoliad 1621

Yn rheoliad 16—

a

ym mharagraff (1)(b), ar ôl is-baragraff (i), mewnosoder—

ia

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

ym mharagraff 2, yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.

Diwygiadau i Atodlen 222

Yn Atodlen 2, paragraff 2A—

a

yn is-baragraff (4)(b)—

i

hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (iii);

ii

ar ddiwedd paragraff (iv), yn lle’r hanner colon rhodder “, neu”;

iii

ar ôl paragraff (iv), mewnosoder—

v

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

ar ôl is-baragraff (4)(d) mewnosoder—

da

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—

i

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo,

ii

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid,

iii

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, neu

iv

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (iii) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;

PENNOD 4Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol

Diwygiadau i reoliad 3123

Yn rheoliad 31—

a

ym mharagraff (2), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”;

b

ym mharagraff (3)(b), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”.

Diwygiadau i reoliad 3624

Yn rheoliad 36—

a

ym mharagraff (8), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”;

b

ym mharagraff (10), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”.

PENNOD 5Diwygiadau sy’n ymwneud â chyrsiau gwaith cymdeithasol ôl-raddedig penodol

Diwygiadau i reoliad 1025

Yn rheoliad 10(1)—

a

yn Eithriad 9, hepgorer paragraff (d);

b

ar ôl Eithriad 9, mewnosoder—

Eithriad 9A

  • Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac eithrio i’r graddau y mae P yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio.

  • Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan fo’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Mewnosod rheoliad newydd 24A26

Yn Rhan 6, ar ôl y pennawd i Bennod 2 o’r Rhan honno, mewnosoder—

Amodau cymhwyso i gael grant sylfaenol24A

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig.

Diwygiad i reoliad 2627

Yn rheoliad 26, ar ôl “garcharor cymwys”, mewnosoder “neu’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

Diwygiad i reoliad 3128

Yn rheoliad 31(1), ar ôl “fyfyriwr cymwys”, mewnosoder “nad yw’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

Mewnosod rheoliad newydd 31A29

Ar ôl rheoliad 31, mewnosoder—

31A

1

Cyfrifir swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig (“P”) fel a ganlyn—

£18,430

Minws

Swm y bwrsari gofal cymdeithasol a roddir neu a delir i P.

2

Caiff myfyriwr gofal cymdeithasol cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—

a

nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r swm a gyfrifir yn unol â pharagraff (1), a

b

bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “bwrsari gofal cymdeithasol” yw unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac eithrio i’r graddau y mae mewn cysylltiad â threuliau teithio.

Diwygiad i Atodlen 130

Yn Atodlen 1, paragraff 3(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

  • ystyr “myfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig” (“postgraduate social care student”) yw myfyriwr cymwys y rhoddwyd neu y talwyd iddo unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio:

a

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),

b

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau), ac

c

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau).

Mae Pennod 2 o Rannau 2, 3 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019 o ran cymhwystra sy’n codi o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’r diwygiadau yn dileu cyfeiriadau at y “cyfnod gras” o ganlyniad i’r ffaith bod y cyfnod hwnnw bellach wedi mynd heibio.

Mae Pennod 3 o Rannau 3 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019. Mae’r diwygiadau yn darparu i ddinasyddion Affganistan y rhoddir caniatâd amhenodol iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl feini prawf eraill.

Mae Pennod 4 o Rannau 3 a 4 o’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2018 a Rheoliadau 2019 sy’n ymwneud â’r swm o gymorth ariannol y caiff myfyriwr cymwys ei gael ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Mae Pennod 5 o Ran 3 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae’r diwygiad yn darparu i berson sy’n ymgymryd â rhaglen sy’n arwain at ddoethuriaeth mewn seicoleg addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, beidio â bod yn gymwys i gael cymorth ariannol pan fo bwrsari neu ddyfarndal tebyg a gyllidir gan Weinidogion Cymru wedi ei roi neu ei dalu iddo.

Mae Pennod 5 o Ran 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2019 er mwyn gwneud myfyrwyr sy’n ymgymryd â chwrs gwaith cymdeithasol ôl-raddedig, sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, yn gymwys i gael benthyciad cyfrannu at gostau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.