2022 Rhif 423 (Cy. 104)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 28(4), (5)(b) a (6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) (Diwygio) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.

Diwygio Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 20212

Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli) o Reoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 20212, yn y diffiniad o “awdurdod”, ar y diwedd mewnosoder “neu gyngor cymuned cymwys o fewn ystyr adran 30(1) o Ddeddf 2021”.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i brif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys. Yn benodol, mae’r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn rhoi i’r awdurdodau hynny bŵer i wneud pethau penodol at ddiben masnachol.

Mae’r pŵer i wneud pethau at ddiben masnachol yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn adran 27 o’r Ddeddf. O dan adran 27(2), wrth arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol rhaid gwneud hynny drwy gyfrwng cwmni.

Mae adran 28(4) o’r Ddeddf yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu, drwy reoliadau, y bydd arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol.

Mae Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”) yn rhagnodi’r amodau sydd i’w bodloni gan brif gyngor cyn arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 1(2) o Reoliadau 2021 i gynnwys cynghorau cymuned cymwys o fewn ystyr “awdurdod”. Effaith hyn yw estyn cymhwysiad Rheoliadau 2021 i gynghorau cymuned cymwys o 5 Mai 2022, sef y dyddiad y caniateir iddynt ddechrau arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol, gan gynnwys at ddiben masnachol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.