Search Legislation

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 424 (Cy. 105)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022

Gwnaed

4 Ebrill 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

6 Ebrill 2022

Yn dod i rym

5 Mai 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 95(1)(a) a (3)(1), 96(1), (3)(b) ac (c)(2) a 123(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(3).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 5 Mai 2022.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—

(a)

cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol;

(b)

cynghorau cymuned sy’n gynghorau cymuned cymwys o fewn ystyr adran 30(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”)(4);

(c)

awdurdodau Parciau Cenedlaethol;

(d)

awdurdodau tân ac achub, a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(5) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(e)

cydbwyllgorau corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

ystyr “cwmni” (“company”) yw cwmni o fewn ystyr Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6);

mae i “swyddogaethau cyffredin” yr ystyr a roddir i “ordinary functions” yn adran 95(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Awdurdodiad i fasnachu mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swyddogaethau a’r amodau i’w bodloni cyn arfer y pŵer i fasnachu

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae awdurdod perthnasol wedi ei awdurdodi i wneud at ddiben masnachol unrhyw beth y’i awdurdodir i’w wneud at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau cyffredin.

(2Cyn arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)llunio achos busnes i gefnogi’r bwriad i arfer y pŵer, a

(b)cymeradwyo’r achos busnes hwnnw.

(3Ystyr “achos busnes” o dan erthygl 2(2) yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—

(a)nodau ac amcanion y bwriad i arfer y pŵer;

(b)y costau, y buddsoddiadau a’r adnoddau eraill y mae eu hangen er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;

(c)y canlyniadau ariannol y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;

(d)unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;

(e)unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad i arfer y pŵer gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny;

(f)yr effaith (gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau cyflogaeth) ar unrhyw staff y mae’n bwriadu eu cyflenwi i gwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo;

(g)y trefniadau bwriadedig ar gyfer staffio’r cwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo, gan gynnwys telerau ac amodau cyflogaeth arfaethedig unrhyw staff sydd i’w cyflogi.

Cyhoeddi achos busnes

3.  Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gofyniad i adennill costau etc.

4.  Rhaid i awdurdod perthnasol adennill costau unrhyw adeiladau ac ystafelloedd, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer a roddir gan erthygl 2(1) drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.

Dirymu

5.  Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006(7) wedi ei ddirymu.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Ebrill 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 95 (pŵer i fasnachu mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swyddogaethau drwy gwmni) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, i awdurdodi awdurdodau perthnasol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y maent wedi eu hawdurdodi i’w wneud er mwyn cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau cyffredin (“y pŵer i fasnachu”) ac i wneud darpariaeth bellach mewn perthynas ag arfer y pŵer i fasnachu gan awdurdod perthnasol. Mae adran 96 o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod amodau ar arfer y pŵer i fasnachu.

O dan adran 95(4) o’r Ddeddf, ni chaniateir arfer y pŵer i fasnachu ond drwy gwmni.

Mae erthygl 1 o’r Gorchymyn hwn yn pennu’r awdurdodau perthnasol y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.

Mae erthygl 2 yn awdurdodi awdurdodau perthnasol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y maent wedi eu hawdurdodi i’w wneud er mwyn cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau cyffredin. Mae hefyd yn rhagnodi’r amodau y mae rhaid i awdurdod perthnasol eu bodloni cyn arfer y pŵer i fasnachu.

Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2(2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol adennill unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt ar gyfer unrhyw beth a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer i fasnachu drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.

Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Mae adran 126 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn diffinio mai’r person priodol, o ran Cymru, yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Diwygiwyd adran 95 gan baragraff 3(5) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28), paragraff 28 o Atodlen 1 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2), O.S. 2021/356 (Cy. 107) ac O.S. 2022/372 (Cy. 92). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(2)

Diwygiwyd adran 96 gan baragraff 3(6) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources