2022 Rhif 424 (Cy. 105)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 95(1)(a) a (3)1, 96(1), (3)(b) ac (c)2 a 123(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20033.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 5 Mai 2022.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—

    1. a

      cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol;

    2. b

      cynghorau cymuned sy’n gynghorau cymuned cymwys o fewn ystyr adran 30(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”)4;

    3. c

      awdurdodau Parciau Cenedlaethol;

    4. d

      awdurdodau tân ac achub, a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20045 neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

    5. e

      cydbwyllgorau corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

  • ystyr “cwmni” (“company”) yw cwmni o fewn ystyr Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19896;

  • mae i “swyddogaethau cyffredin” yr ystyr a roddir i “ordinary functions” yn adran 95(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Awdurdodiad i fasnachu mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swyddogaethau a’r amodau i’w bodloni cyn arfer y pŵer i fasnachu2

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae awdurdod perthnasol wedi ei awdurdodi i wneud at ddiben masnachol unrhyw beth y’i awdurdodir i’w wneud at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau cyffredin.

2

Cyn arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

a

llunio achos busnes i gefnogi’r bwriad i arfer y pŵer, a

b

cymeradwyo’r achos busnes hwnnw.

3

Ystyr “achos busnes” o dan erthygl 2(2) yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—

a

nodau ac amcanion y bwriad i arfer y pŵer;

b

y costau, y buddsoddiadau a’r adnoddau eraill y mae eu hangen er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;

c

y canlyniadau ariannol y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;

d

unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;

e

unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad i arfer y pŵer gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny;

f

yr effaith (gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau cyflogaeth) ar unrhyw staff y mae’n bwriadu eu cyflenwi i gwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo;

g

y trefniadau bwriadedig ar gyfer staffio’r cwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo, gan gynnwys telerau ac amodau cyflogaeth arfaethedig unrhyw staff sydd i’w cyflogi.

Cyhoeddi achos busnes3

Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gofyniad i adennill costau etc.4

Rhaid i awdurdod perthnasol adennill costau unrhyw adeiladau ac ystafelloedd, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer a roddir gan erthygl 2(1) drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.

Dirymu5

Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 20067 wedi ei ddirymu.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 95 (pŵer i fasnachu mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swyddogaethau drwy gwmni) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, i awdurdodi awdurdodau perthnasol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y maent wedi eu hawdurdodi i’w wneud er mwyn cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau cyffredin (“y pŵer i fasnachu”) ac i wneud darpariaeth bellach mewn perthynas ag arfer y pŵer i fasnachu gan awdurdod perthnasol. Mae adran 96 o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod amodau ar arfer y pŵer i fasnachu.

O dan adran 95(4) o’r Ddeddf, ni chaniateir arfer y pŵer i fasnachu ond drwy gwmni.

Mae erthygl 1 o’r Gorchymyn hwn yn pennu’r awdurdodau perthnasol y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.

Mae erthygl 2 yn awdurdodi awdurdodau perthnasol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y maent wedi eu hawdurdodi i’w wneud er mwyn cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau cyffredin. Mae hefyd yn rhagnodi’r amodau y mae rhaid i awdurdod perthnasol eu bodloni cyn arfer y pŵer i fasnachu.

Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2(2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol adennill unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt ar gyfer unrhyw beth a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer i fasnachu drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.

Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.